Burry Port Marina Ltd yn nwylo'r gweinyddwyr

326 diwrnod yn ôl

Yn dilyn penodi Matthew Richards, Colin Haig a Simon Monks, o Azets, dros Burry Port Marina Ltd ar 7 Mehefin 2023, mae’r Gweinyddwyr yn parhau i weithredu’r marina tra bo opsiynau ar gyfer ei ddyfodol yn cael eu hystyried.

Mae trafodaethau wedi bod yn digwydd gydag ystod o randdeiliaid i ystyried pa waith adfer â blaenoriaeth sydd angen ei wneud yn y marina a pha waith ychwanegol y bydd angen ei wneud i sicrhau hyfywedd tymor hir y marina.

Mae'r gweinyddwyr wedi bod yn gweithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin dros y misoedd diwethaf, ac maen nhw wedi bod yn gefnogol iawn o'r broses weinyddu, ac yn cynorthwyo i ddod o hyd i weithredwr sefydlog ar gyfer y dyfodol.

Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

Fel Awdurdod Lleol, rydym wedi ymrwymo i sicrhau dyfodol cynaliadwy hirdymor i Harbwr Porth Tywyn ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r Gweinyddwyr i fwrw ymlaen â materion. Bydd trafodaeth yn cael ei chynnal yn rheolaidd gyda chynrychiolwyr o’r gymuned leol a rhanddeiliaid allweddol eraill i roi’r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd mewn perthynas â’r Harbwr.”

Dywedodd Matthew Richards, Partner Ailstrwythuro gydag Azets a chyd-weinyddwr: 

Rydym yn parhau i weithio gyda Chyngor Sir Caerfyrddin i ddod o hyd i ateb ar gyfer y marina ac mae pob opsiwn yn cael ei ystyried. Yn anffodus nid yw’n ymddangos bod yna ateb cyflym i’r sefyllfa ac mae’n debygol y bydd y broses hon yn parhau i mewn i 2024. Gwerthfawrogir cydweithrediad parhaus yr holl randdeiliaid.”

Gall partïon sydd â diddordeb a rhanddeiliaid eraill gysylltu â'r cyd-weinyddwyr drwy e-bostio addison.davis@azets.co.uk