73% o'r gwastraff a gesglir gan y Cyngor yn cael ei ailddefnyddio, ailgylchu neu gompostio

252 diwrnod yn ôl

Mae ffigurau ailgylchu Sir Gaerfyrddin yn cynyddu, diolch i newidiadau i gasgliadau gwastraff o dŷ i dŷ y Cyngor a roddwyd ar waith ym mis Ionawr eleni, 2023.

 

Roedd y ffigurau dros dro a gyfrifwyd ar gyfer chwarter cyntaf 2023/2024 yn rhagweld bod 73% o'r gwastraff a gasglwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei ailddefnyddio, ei ailgylchu neu ei gompostio - cynnydd o 8.46% ers y llynedd.

 

Adroddwyd ar y cynnydd ym mherfformiad ailgylchu Sir Gaerfyrddin yn ystod diweddariad ar y strategaeth wastraff ar gyfer Pwyllgor Craffu Lle, Cynaliadwyedd a Newid Hinsawdd y Cyngor ar 3 Hydref. Yn ystod y Pwyllgor Craffu, dywedwyd wrth y Cynghorwyr, o'i gymharu â chwarter cyntaf 2022/2023, bod 199 tunnell ychwanegol o wastraff cewynnau, 250 tunnell o fagiau glas – ailgylchu sych, 175 tunnell o wastraff bwyd a 446 tunnell o wydr cymysg wedi cael eu casglu i'w ailgylchu. Mae disgwyl i'r ffigyrau gael eu cadarnhau gan Gyfoeth Naturiol Cymru yn ddiweddarach eleni.

 

Daw'r gwelliant sylweddol yn ffigurau ailgylchu'r Cyngor yn dilyn cyflwyno casgliadau gwastraff hylendid - sy'n cynnwys cewynnau plant, casgliadau wythnosol o ddeunydd ailgylchu cymysg sych a gwastraff bwyd, cyflwyno casgliad bob tair wythnos ar gyfer poteli a jariau gwydr a chasgliadau bagiau du bob tair wythnos.

 

Mae rhoi ar waith system newydd o gasglu gwastraff o dŷ i dŷ yn unol â Datganiad Gweledigaeth Cabinet y Cyngor, i ddefnyddio dull fesul cam ar gyfer rhoi ar waith system newydd o gasglu gwastraff o dŷ i dŷ yn 2024/25, sy'n cydymffurfio â methodoleg casglu Glasbrint Llywodraeth Cymru.

 

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Rwy'n falch iawn o weld y gwelliant sylweddol yn ymdrech ein sir i ailgylchu, ailddefnyddio neu gompostio ein gwastraff. Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir i wella llesiant Sir Gaerfyrddin, ei thrigolion a chenedlaethau'r dyfodol y sir.

 

“Rwy'n ddiolchgar iawn i'n holl drigolion am ddod gyda ni ar y daith hon er mwyn gwella perfformiad ailgylchu Sir Gaerfyrddin”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu neu os ydych chi'n dymuno cofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i wefan y Cyngor.

Cofiwch roi eich gwastraff allan i'w gasglu cyn 6am ar eich diwrnodau casglu.