Theatrau Sir Gâr’s first home grown production to tour Wales this spring
632 diwrnod yn ôl
Mae Theatrau Sir Gâr yn bwrw iddi i gynhyrchu ei gynhyrchiad mewnol llawn cyntaf a fydd yn teithio i leoliadau ledled Cymru yn ystod gwanwyn 2023.
Disgrifir 'Golygfeydd o'r Pla Du', sydd wedi'i osod adeg y pla, fel comedi ddrygionus, ddu, sy'n llawn sgandal, caneuon sy'n gwneud hwyl am ben y rhai sy'n ceisio elwa ar argyfwng.
Ysgrifennwyd a chyfarwyddwyd y gomedi Gymraeg hon gan Chris Harris, sy'n ddramodydd ac yn gyfieithydd o Gwmbrân, sy'n byw ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'r ddrama wedi bod yn cael ei datblygu gyda Theatrau Sir Gâr, sy'n rhan o Gyngor Sir Caerfyrddin, ers dwy flynedd.
Bydd Golygfeydd o'r Pla Du yn agor yn Theatr y Ffwrnes, Llanelli ar 4 Mai cyn teithio i leoliadau ar draws Cymru. Bydd y daith yn dod i ben yn un o leoliadau eraill Theatrau Sir Gâr, sef Theatr y Lyric yng Nghaerfyrddin ar 26 Fai.
Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod o'r Cabinet: “Rydym yn falch iawn mai 'Golygfeydd o'r Pla Du' fydd cynhyrchiad cyntaf erioed Theatrau Sir Gâr. Eleni rydym yn nodi 10 mlynedd ers sefydlu Theatr y Ffwrnes, felly mae'n arbennig o gyffrous bod y cynhyrchiad newydd hwn yn dechrau yn y Ffwrnes. Mae'r cynhyrchiad wedi cael ei ddatblygu dros y ddwy flynedd ddiwethaf, sydd wedi bod yn heriol ar brydiau oherwydd y pandemig, ond mae'r tîm creadigol wedi tynnu at ei gilydd ac wedi llwyddo i greu rhywbeth arbennig iawn. Allwn ni ddim aros i rannu hyn â chynulleidfaoedd ledled Cymru.”
Dywedodd awdur a chyfarwyddwr y ddrama, Chris Harris: “Rwy'n llawn cyffro ynghylch cyflwyno comedi dywyll â man gwan cynnil wedi'i wreiddio yn ein hymddygiad sydd wedi newid yn ystod y pandemig. Ond rhaid peidio â cholli'r ddadl allweddol - sef pan fo argyfwng yn digwydd, mae unigolion sy'n elwa ar anffawd eraill. Bydd y ddrama'n siarad â chynulleidfaoedd – yn ffiguraidd ac yn llythrennol! Byddwn yn rhoi profiad aruthrol i'r gynulleidfa - un sy'n mynd â nhw i fyd cwbl wahanol er mwyn adlewyrchu - yn ogystal â chwerthin - ar ein pennau ein hunain a'n hymddygiad sydd wedi newid dros y ddwy flynedd ddiwethaf.”
Mae 'Golygfeydd o'r Pla Du' wedi cael arian gan Gyngor Celfyddydau Cymru ac yn cael cefnogaeth gan Theatr Genedlaethol Cymru.
Mae clyweliadau'n cael eu cynnal y mis hwn a disgwylir i'r cast gael eu cyhoeddi ddechrau Chwefror.
Cynhyrchiad Cymraeg yw Golygfeydd o'r Pla Du, sy'n addas i bobl dros 14 oed. Bydd Sibrwd, ap mynediad iaith Theatr Genedlaethol Cymru, ar gael ym mhob perfformiad, sy'n golygu y gall cynulleidfaoedd fwynhau'r perfformiad hwn waeth beth yw lefel eu Cymraeg.
Mae tocynnau ar gyfer pob dyddiad ar y daith ar werth nawr, mae manylion pob lleoliad ar y daith i'w gweld isod a thrwy ymweld â gwefan Theatrau Sir Gâr yma: https://www.theatrausirgar.co.uk/cy/golygfeydd-or-pla-du-ar-daith
Y daith
4 a 5* Mai, y Ffwrnes, Llanelli (*Iaith Arwyddion Prydain)
10 Mai, Borough Theatre, y Fenni
11 Mai, Y Parc a'r Dâr, Treorci
12 Mai, Pafiliwn y Grand, Porthcawl
16 Mai, Theatr Brycheiniog, Aberhonddu
17 Mai, Canolfan Celfyddydau Pontardawe, Pontardawe
18 Mai, Sefydliad y Glowyr Coed Duon, Coed Duon - Iaith Arwyddion Prydain
19 Mai, Canolfan Celfyddydau Memo, y Barri
23 Mai, Pontio, Bangor – Iaith Arwyddion Prydain
24 Mai, Neuadd Dwyfor, Pwllheli
25 Mai, Theatr Mwldan, Aberteifi
26 Mai, y Lyric, Caerfyrddin