Y Cyngor a busnesau lleol yn gweithio gyda'i gilydd i'ch helpu i Brynu â Hyder

393 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda busnesau lleol i sicrhau bod gan breswylwyr fynediad at ystod eang o fasnachwyr diogel a dibynadwy ledled y sir.

Yn ystod y chwe mis diwethaf, mae nifer o fusnesau wedi ymuno â changen Sir Gaerfyrddin o'r cynllun Prynu â Hyder a gydnabyddir yn genedlaethol, gan gynnwys busnes rheoli plâu, llogi tacsis a chyflenwyr lloriau.

Paul Crouch o Verminator Pest Control yw'r busnes rheoli plâu cyntaf yn Sir Gaerfyrddin i ymuno â'r cynllun, gan gynnig gwasanaethau i gael gwared ar lygod, llygod mawr, chwain a nifer o blâu eraill.

Mae tacsis S&G yn Llanelli hefyd wedi ymuno â'r cynllun Prynu â Hyder yn ddiweddar. Roedd hyn yn cynnwys gwiriadau ychwanegol i'r drefn drwyddedu tacsis arferol i roi tawelwch meddwl ychwanegol i gwsmeriaid eu bod yn defnyddio trafnidiaeth ddiogel a dibynadwy.

Mae nifer o fusnesau o'r diwydiant adeiladu hefyd wedi ymuno â'r cynllun gan gynnwys Iwan Green o IG Construction o Drimsaran sy'n cynnig gwaith adeiladu cyffredinol a datblygiadau adeiladu newydd. Mae RM & S Roofing, Gors-las hefyd wedi ymuno ac yn ymgymryd â phob math o waith toi cyffredinol gan gynnwys adnewyddu, atgyweirio a thoeau gwastad.

Mae dau gwmni o Lanelli hefyd yn galluogi eu cwsmeriaid i brynu â hyder. Mae cyflenwr lloriau, carped a dodrefn Rickwoods Llanelli a'r cwmni cyngor ariannol Financial Solutions Wales Ltd wedi ymuno â'r cynllun yn ddiweddar.

Mae'r cynllun Prynu â Hyder dim ond yn derbyn busnesau sydd wedi ymrwymo i weithredu mewn ffordd gyfreithiol, onest a theg ac yn cynnwys llogi tacsis, cynnal a chadw gerddi, gofaint cloeon, atgyweirio setiau teledu, gwasanaethau glanhau, gwaith coed a llawer mwy.

Meddai'r Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd:

Mae'r cynllun Prynu â Hyder yn darparu ffordd ddiogel a dibynadwy o ddod o hyd i fasnachwr yn Sir Gaerfyrddin.

Gall unrhyw fusnes wneud cais i ymuno â'r cynllun, gyda nifer o wiriadau manwl ar waith i sicrhau mai dim ond busnesau dibynadwy sy'n cael eu cymeradwyo gan Safonau Masnach."