Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn tynnu sylw at y manteision o faethu gydag awdurdod lleol

382 diwrnod yn ôl

Wrth i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen â chynlluniau i gael gwared ar elw o ofal plant sy'n derbyn gofal, mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin yn tynnu sylw at y manteision o faethu gydag awdurdod lleol.

Mae Cymru wrthi'n newid y system gyfan ar gyfer gwasanaethau plant. 

Mae'r newidiadau a gynigiwyd yng nghytundeb cydweithredu 2021 rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru yn blaenoriaethu gwasanaethau lleol, sydd wedi'u cynllunio'n lleol, ac sy'n atebol yn lleol. 

O fewn y cynlluniau hyn mae ymrwymiad clir i 'ddileu elw preifat o ofal plant sy'n derbyn gofal.’ Mae hyn yn golygu y bydd gofal plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru yn cael ei ddarparu gan sefydliadau yn y sector cyhoeddus, sefydliadau elusennol neu sefydliadau di-elw erbyn 2027.

Yn sgil y newidiadau hyn, mae Maethu Cymru Sir Gaerfyrddin – sy'n rhan o'r rhwydwaith sy'n cynrychioli 22 o awdurdodau lleol Cymru – yn galw ar ragor o bobl i ddod yn ofalwyr maeth gydag awdurdodau lleol ac yn annog y rhai sydd ar hyn o bryd yn maethu gydag asiantaeth er elw  i drosglwyddo i'w tîm yn yr awdurdod lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Oedolion a Gwasanaethau Plant, "Mae gwasanaethau maethu awdurdodau lleol yng Nghymru ar flaen y gad o ran y datblygiadau cadarnhaol sy'n cael eu llywio gan Lywodraeth Cymru o dan ei hagenda 'dileu'. Mae'r newidiadau arfaethedig yn rhoi datganiad clir ynghylch sut rydym yn gwerthfawrogi plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru, ac mae'n cyd-fynd yn berffaith â'r ffordd rydym yn ystyried plant a'r ddarpariaeth o ran eu gofal yn Sir Gaerfyrddin.

“Mae maethu ar gyfer awdurdod lleol yn cynnig llawer o fanteision i ofalwyr ac i'r plant sy'n derbyn gofal, sy'n cael y cyfle i aros yn y sir lle maen nhw'n byw, gan fod yn agosach at deulu a ffrindiau. Rydym am ehangu ein cymuned o ofalwyr maeth gofalgar a chariadus fel y gall mwy o blant Sir Gaerfyrddin aros yn ein sir. Bobl leol a chymunedau lleol sy'n cefnogi ac yn gofalu am blant lleol, ymunwch â ni heddiw i ddarparu'r sylfeini er mwyn i'n plant mwyaf bregus ffynnu.” 

Yng Nghymru, mae 79% o blant sy'n derbyn gofal gan asiantaethau maethu preifat yn cael eu maethu y tu allan i'w hardal leol, ac mae 6% yn cael eu symud o Gymru yn gyfan gwbl.  Yn y cyfamser, mae 84% o'r rhai sy'n byw gyda gofalwyr maeth awdurdodau lleol yn aros o fewn eu hardal leol eu hunain, yn agos at y cartref, yr ysgol, y teulu a ffrindiau.

Aeth y gofalwr maeth Jo, a newidiodd o asiantaeth annibynnol i Maethu Cymru yn gynharach eleni, ati i esbonio'i thaith a'r gwahaniaeth y mae hi wedi'i weld wrth faethu gyda'r awdurdod lleol: 

“Yn fuan ar ôl i mi droi'n ddeugain oed, dechreuais faethu pobl yn eu harddegau trwy asiantaeth. Roedd llawer o'r bobl ifanc yn dod o'r tu allan i'r ardal. Mae hyn yn eu rhoi o dan anfantais. Fe gollon nhw gysylltiad â'u ffrindiau, y lleoedd roedden nhw'n eu hadnabod, eu gwreiddiau.

“Nawr fy mod yn maethu gydag awdurdod lleol, mae'r bobl ifanc yn aros yn lleol. Mae hyn yn golygu eu bod yn cadw mewn cysylltiad â'u gwreiddiau sy'n eu helpu i deimlo'n ddiogel ac mae'n fwy naturiol o ran ymweliadau, cael mynediad a threulio amser gyda'r teulu.”

I gael rhagor o wybodaeth am faethu, a sut i drosglwyddo, ewch i: https://sirgar.maethucymru.llyw.cymru/  https://maethucymru.llyw.cymru/eisoes-yn-maethu/