Llongyfarchiadau i bob disgybl sy'n derbyn canlyniadau TGAU

380 diwrnod yn ôl

Disgyblion Ysgol Gyfun Emlyn yn derbyn eu canlyniadau TGAU from Cyngor Sir Gâr | Carms Council on Vimeo.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn llongyfarch yr holl ddisgyblion sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw, sef dydd Iau 24 Awst 2023.

Mae dysgwyr o bob rhan o'r sir yn elwa ar ddwy flynedd o ymroddiad a gwaith caled, ganddyn nhw eu hunain, eu hathrawon a staff cymorth. 

Yn Sir Gaerfyrddin, dyfarnwyd gradd A*-C i 67.8% o'r holl geisiadau a dyfarnwyd gradd A*-A i 21.7% o'r ceisiadau.

Ar ôl derbyn ei ganlyniadau heddiw, dywedodd Matthew o Ysgol Gyfun Emlyn, “Ces i bump A*, pedwar A a tri B. Rwy’n hapus gyda’r canlyniadau achos gallaf fynd yn nôl i’r chweched dosbarth a heno byddaf yn dathlu gyda teulu a mynd mas gyda ffrindiau.”

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: “Llongyfarchiadau i'n holl bobl ifanc sy'n derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw. Rwy'n hynod falch o'ch gwaith caled a'ch cyflawniadau. 

“Ar ran Cyngor Sir Caerfyrddin, rhaid i mi ddiolch hefyd i'n hathrawon, staff cymorth, teuluoedd a ffrindiau am eich cefnogaeth a'ch ymrwymiad i'r bobl ifanc hyn – cenhedlaeth nesaf Sir Gaerfyrddin.”

Mewn datganiad ar y cyd, ychwanegodd Prif Weithredwr Cyngor Sir Caerfyrddin, Wendy Walters a'r Cyfarwyddwr Addysg a Gwasanaethau Plant, Gareth Morgans: "Mae gwaith caled ein dysgwyr, eu hathrawon, staff cymorth, teuluoedd a'u ffrindiau yn amlwg heddiw yn y canlyniadau gwych hyn. Llongyfarchiadau i chi i gyd!”