Dwyn erlyniad llwyddiannus yn erbyn perchnogion NRJ Motor Company Ltd.

390 diwrnod yn ôl

Mae tîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin wedi dwyn erlyniad llwyddiannus yn erbyn swyddogion NRJ Motor Company am gam-werthu car fel un a oedd mewn 'cyflwr rhagorol', ond mewn gwirionedd roedd mewn cyflwr peryglus, nad oedd yn addas i'w ddefnyddio ar y ffordd fawr.

Ar 22 Mehefin 2023 plediodd David Bonner-Evans, Susan Bonner-Evans a James Bonner-Evans yn euog am gymryd rhan mewn arfer masnachol a oedd yn gamarweiniol, yn groes i reoliadau 9 ac 13 o Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008 a chyflenwi cynnyrch yr oeddent yn gwybod neu y dylent fod wedi gwybod eu bod yn beryglus, yn groes i reoliadau 8(1)(a) ac 20(1) o Reoliadau Diogelwch Cynhyrchion Cyffredinol 2005.

Ym mis Mai 2022, prynodd myfyriwr 22 oed, Fiat Punto gan NRJ Motor Company.  Hysbysebwyd y Fiat Punto fel un 'wedi'i gynnal a'i gadw'n dda iawn' a byddai'n cynnwys 'gwasanaeth newydd sbon'. Honnodd yr hysbyseb fod NRJ Motor Company yn 'ddelwriaeth yr oedd yr AA yn ymddiried ynddo' ac yn 'fusnes teuluol gyda dros 40 mlynedd o brofiad'. Dywedodd hefyd fod y cerbyd wedi derbyn MOT ddiwethaf ar 19 Rhagfyr 2021, wedi'i wasanaethu ym mis Chwefror 2022 a'i fod wedi'i ddisgrifio fel un mewn 'cyflwr rhagorol'.

Ategodd hysbyseb ychwanegol ar y car fod y cerbyd wedi cael 'gwasanaeth newydd sbon', yn cynnwys 'gwarant am ddim' a 'blwyddyn o yswiriant torri i lawr gyda'r AA'.

Cyn prynu'r car ac ar ôl mynd â'r cerbyd am brawf gyrru, hysbyswyd y cwsmer gan y gwerthwr, a nododd ei fod yn berchennog y cwmni, bod y car mewn 'cyflwr rhagorol' a dywedodd mai dim ond un perchennog fu gan y cerbyd a'i fod wedi'i gynnal a'i gadw'n dda iawn. Roedd wedi dweud bod milltiroedd cymharol isel ar y car, ei fod yn rhad i'w drethu ac yn ardderchog ar danwydd. Dywedodd cydberchennog y busnes wrthi fod gan y car MOT a gwasanaeth cyfredol, ac roedd y dogfennau hyn yn y car.

Fodd bynnag, yn ystod wythnos gyntaf Mehefin 2022, daeth yn amlwg bod gan y car broblemau sylweddol. Roedd golau rhybuddio'r bag aer ar y dangosfwrdd wedi dod ymlaen ac roedd motor y ffenestr ar ochr y gyrrwr wedi methu ac roedd aer yn cadw gollwng allan o'r olwyn gefn bob ychydig ddyddiau.

Cytunodd NRJ Motor Company i fynd â'r car i mewn i'w atgyweirio, gyda'r ffenestr yn cael ei hatgyweirio, a'r busnes yn nodi nad oedd dim o'i le ar y bag aer, ond roedd y golau rhybuddio yn dal ynghynn.

Ar 8 Gorffennaf 2022, gwnaeth y teiar ar ochr y teithiwr yng nghefn y car fyrstio tra bod y cerbyd yn cael ei yrru. Ar 11 Gorffennaf, ar ôl newid y teiar, clywodd y myfyriwr ifanc sŵn twrw uchel iawn wrth yrru. Wrth archwilio'r car, sylwodd ei thad fod problem ddifrifol gyda'r olwyn gefn ar ochr y teithiwr a dywedodd wrthi am beidio â gyrru'r car. 

Er gwaethaf y warant o flwyddyn ar y car, gwrthododd David Bonner-Evans o NRJ Motor Company gasglu'r car nac unioni'r problemau.

Yna cysylltodd y myfyriwr a'i rhieni â Thîm Safonau Masnach Cyngor Sir Caerfyrddin, a benododd arbenigwr i archwilio'r car. Dangosodd archwiliad manwl nam arbennig o ddifrifol gydag echel cefn y car wedi cyrydu, gan wneud y cerbyd nid yn unig yn anaddas i'r ffordd ond yn beryglus hefyd.

Pwysleisiodd y barnwr fod y drosedd yn ddifrifol iawn ac y gallai fod wedi achosi damwain ddifrifol iawn.

Cafwyd hyd i nifer o broblemau ychwanegol a fyddai'n gwneud y cerbyd yn anaddas i'r ffordd ac yn denu hysbysiadau methiant yn ystod MOT hefyd.

Yn dilyn y ple euog, dedfrydwyd David Bonner-Evans, Susan Bonner-Evans a James Bonner-Evans i ddirwy o £1500 yr un, cyfanswm costau o £6678.60 gydag un rhan o dair i dalu yr un, iawndal o £1760.75 i'r dioddefwr, a gordal o £150.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Arweinydd y Cabinet dros Safonau Masnach:

Gallai canlyniad yr achos yma fod wedi bod yn drasig gan nad oedd y cerbyd a werthwyd i'r dioddefwr gan David Bonner-Evans, Susan Bonner-Evans a James Bonner-Evans yn ffit i fod ar y ffordd.

Hoffwn ddiolch i'n Tîm Safonau Masnach am ddal y bobl hyn i gyfrif a dod â nhw o flaen eu gwell."