Datganiad Cyngor Sir Gâr ynghylch Parc y Strade ar 15 Awst 2023

429 diwrnod yn ôl

Gofynnwyd i Gyngor Sir Caerfyrddin fynychu digwyddiad cymunedol rhithwir, a gynhelir gan Bartneriaeth Ymfudo Strategol Cymru, a fydd yn darparu gwybodaeth am ddyfodiad ceiswyr lloches i Westy Parc y Strade, Llanelli. 
 
Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Nid yw safbwynt Cyngor Sir Caerfyrddin wedi newid. Rydym yn parhau i gredu'n gryf nad yw Gwesty Parc y Strade yn briodol i gartrefu nifer mor fawr o geiswyr lloches mewn un lleoliad.”
 
“Gofynnwyd i ni gyfrannu at ddigwyddiad cymunedol rhithwir lle byddwn ni, fel Awdurdod Lleol, yn ymateb i unrhyw gwestiynau technegol sy'n ymwneud â'r mater hwn sydd o fewn ein cylch gwaith.”