Cyngor yn ennill Gwobr Arian Cynllun Cydnabod Cyflogwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn

403 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn gwobr fawreddog am ei gefnogaeth i Gymuned y Lluoedd Arfog.

Mae'r awdurdod yn un o blith dim ond 17 o gyflogwyr yng Nghymru i dderbyn gwobr Arian y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr eleni.

Mae tair lefel i'r cynllun, sef Efydd, Arian ac Aur i sefydliadau sy'n addo, yn arddangos ac yn hyrwyddo cefnogaeth i Amddiffyn a chymuned y Lluoedd Arfog.

Ym mis Gorffennaf 2022, ailgadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin ei ymrwymiad i Gyfamod y Lluoedd Arfog drwy ailarwyddo'r cyfamod, sy'n addewid i Gymuned y Lluoedd Arfog a'u teuluoedd y byddan nhw'n cael parch a thegwch. Yn yr un flwyddyn derbyniodd Wobr Efydd y Cynllun Cydnabod Cyflogwyr Amddiffyn.

I ennill y wobr Arian, mae’n rhaid i sefydliadau ddangos yn rhagweithiol nad yw cymuned y Lluoedd Arfog dan anfantais annheg fel rhan o'u polisïau recriwtio. Hefyd, mae’n rhaid iddynt fynd ati i sicrhau bod eu gweithlu’n ymwybodol o’u polisïau cadarnhaol tuag at faterion pobl ym maes Amddiffyn o safbwynt Milwyr Wrth Gefn, Cyn-filwyr, Gwirfoddolwyr sy’n Oedolion gyda’r Cadetiaid, a gwŷr a gwragedd priod a phartneriaid y rhai sy’n gwasanaethu yn y Lluoedd Arfog.

Gall gweithwyr Cyngor Sir Caerfyrddin gyflawni eu hymrwymiadau i fynychu hyfforddiant Lluoedd Wrth Gefn Ei Fawrhydi drwy ddefnyddio eu gwyliau blynyddol, absenoldeb amser hyblyg neu drwy gymryd diwrnodau ychwanegol o absenoldeb di-dâl.

Dywedodd un milwr wrth gefn sy'n gweithio yn yr Adran Lle a Seilwaith: “Fel milwr wrth gefn, rwy'n gwerthfawrogi'r hyblygrwydd y mae fy nghyflogwr yn ei gynnig. Mae fy Mhenaethiaid Gwasanaeth i gyd wedi bod yn gefnogol iawn i'm ceisiadau i gymryd absenoldeb di-dâl er mwyn cyflawni fy ymarfer ymfyddino blynyddol. Mae polisi Hyfforddiant y Lluoedd Wrth Gefn yn fy helpu i gael cydbwysedd da rhwng fy mywyd cartref a gwaith a gwasanaeth y Lluoedd Wrth Gefn drwy ganiatáu i mi gael gwyliau ac ati yn hytrach na gorfod defnyddio fy ngwyliau blynyddol ar gyfer hyfforddiant y Lluoedd Wrth Gefn.”

Mae'r Cyngor yn cydnabod y wybodaeth, y sgiliau a'r profiad y mae Cyn-filwyr ac aelodau o Gymuned ehangach y Lluoedd Arfog yn eu cynnig. Mae'r tîm recriwtio yn gweithio'n rhagweithiol gyda Swyddog Cyswllt y Lluoedd Arfog, y Poppy Factory a'r RFEA i gael mynediad at gronfa gyflogaeth y lluoedd arfog i rannu cyfleoedd gwaith perthnasol.

Yn y misoedd nesaf, bydd y Cyngor yn cyflwyno Cynllun Gwarantu Cyfweliad i aelodau o Gymuned y Lluoedd Arfog, ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ar gyfer y rôl a hysbysebir. Mae'r fenter hon yn fesur ychwanegol i gefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog.

Dywedodd y Cynghorydd Philip Hughes, Hyrwyddwr y Lluoedd Arfog a'r Aelod Cabinet sy'n gyfrifol am Drefniadaeth a'r Gweithlu: "Rwy'n falch iawn bod Cyngor Sir Caerfyrddin wedi derbyn y wobr Arian. Mae'n bwysig iawn ein bod yn cefnogi Cymuned y Lluoedd Arfog gymaint ag y gallwn. Mae'r wobr hon yn dangos penderfyniad a gwaith caled y staff wrth symud Cyfamod y Lluoedd Arfog yn ei flaen yn y Cyngor i sicrhau ein bod yn Gyflogwr sy'n Ystyriol o'r Lluoedd Arfog. Byddwn yn parhau i fwrw ymlaen â'r fenter hon, a'r cam nesaf fydd gweithio tuag at Aur!’’