Cymorth costau byw ar gyfer trigolion Sir Gaerfyrddin

379 diwrnod yn ôl

Mae cymorth a chyngor wrth law i drigolion Sir Gaerfyrddin sy'n cael trafferth â'u cyllid.

Yn ystod y 18 mis diwethaf, ac yng nghanol yr argyfwng costau byw, mae Ymgynghorwyr Hwb Cyngor Sir Caerfyrddin wedi rhoi cymorth a chyngor i lawer o drigolion.

Wedi'u lleoli yn y canolfannau Hwb yn y gymuned yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin, mae ein Hymgynghorwyr HWB wedi bod wrth law i ddarparu cymorth a chyngor arbenigol wyneb yn wyneb i helpu o ran costau byw a materion eraill. Bydd yr Ymgynghorwyr Hwb ar gael rhwng dydd Llun a dydd Gwener bob wythnos, ynghyd â swyddogion tai ac ymgynghorwyr cyflogadwyedd, i ddarparu pecynnau cymorth wedi'u teilwra i drigolion. Gall ymwelwyr â'r canolfannau Hwb hefyd gael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi wrth i gostau byw gynyddu. I gael rhagor o gymorth, cefnogaeth a gwybodaeth, ewch i dudalen Cyngor ar Gostau Byw y Cyngor.

Darllenwch y straeon am Mrs. H, Mr. P a Mr. G a ofynnodd am gymorth a chyngor gan ein Hymgynghorwyr HWB:

Mrs H

Ar ôl cael gwŷs am ei threth gyngor, cafodd Mrs H ei galw i'r Hwb i gwrdd â'r Ymgynghorydd Hwb a oedd yn cydnabod ei bod yn wynebu trafferthion ariannol. Yna, cafodd gynnig cymorth i edrych ar ei hamgylchiadau gyda chymorth yr Ymgynghorydd Hwb.

Roedd Mrs H yn rhiant sengl gyda 3 o blant ac yn berchennog tŷ, ac roedd yn dibynnu ar y Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (ESA) a budd-daliadau eraill fel ei hincwm. Yna bu'r Ymgynghorydd Hwb yn helpu Mrs H i wneud ceisiadau am ostyngiad yn y dreth gyngor, Credyd Cynhwysol a Phrydau Ysgol am Ddim ochr yn ochr â chynlluniau cymorth eraill i'w helpu hi a'i theulu. Gyda chymorth yr Ymgynghorydd, roedd ei cheisiadau'n llwyddiannus a nodwyd ei bod bellach ar ei hennill o ran £800 y mis yn dilyn y gefnogaeth a gafodd.

Mr P

Ar ôl bod mewn tenantiaeth am 6 mis, cafodd Mr P Hysbysiad am beidio â thalu rhent. Yna cysylltodd yr asiant gosod tai â'r tîm Cyn-Llety i weld a oedd help ar gael. Bryd hynny, roedd Mr P o dan lawer o straen wrth symud i Gredyd Cynhwysol ac roedd ganddo lefel uchel o ôl-ddyledion rhent.

Yna cymerwyd camau i helpu Mr P mewn sawl maes megis gwneud cais am Gredyd Cynhwysol, gan ei fod wedi cael Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn flaenorol, a hawliad am Daliad Disgresiwn at Gostau Tai. Roedd ei geisiadau'n llwyddiannus ac roedd hyn yn golygu ei fod wedi gallu clirio £3750 o ran ôl-ddyledion rhent, a oedd yn golygu nad oedd bellach mewn perygl o fod yn ddigartref. Sefydlwyd debyd uniongyrchol i Mr P er mwyn talu am y diffyg rhent ac yn sgil y camau hyn mae bellach yn gallu talu ei rent ei hun trwy ddebyd uniongyrchol.

Mr G

Roedd Mr G yn ŵr 72 oed y bu farw ei wraig yn ddiweddar. Roedd ei wraig yn cael Taliad Annibyniaeth Personol (PIP) a Chredyd Pensiwn a ddaeth i ben pan fu farw.

Gan ei fod bellach yn byw ar ei ben ei hun, cafodd Mr G gymorth o ran ei gais am ostyngiad yn ei dreth gyngor o dan y gostyngiad person sengl a budd-dal tai, a chaniatawyd y ddau oherwydd ei incwm presennol. Yn ogystal, cyfeiriwyd Mr G at y Ganolfan Cyngor ar Bopeth (CAB) a fu o gymorth iddo drwy roi taleb ynni a chynorthwyo o ran ei gais am Daliad Annibyniaeth Personol a Chredyd Pensiwn sydd o dan ystyriaeth ar hyn o bryd.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi:

“Mae ein Hymgynghorwyr Hwb yn cyflawni gwasanaeth gwerthfawr a phroffesiynol a byddwn yn annog pawb sy'n poeni am eu cyllid ac yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd i gysylltu â'n Hymgynghorwyr Hwb i weld pa gyngor a chymorth sydd ar gael iddynt.”

I gael rhagor o wybodaeth am y cymorth a gynigir gan y canolfannau Hwb yn y gymuned ac i gael help gan ymgynghorydd, ewch i'r dudalen 'Hawliwch yr hyn sy’n ddyledus i chi' ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.

Mae Cabinet y Cyngor wedi cymeradwyo ei Gynllun Trechu Tlodi yn ddiweddar, sy'n ymateb i weithgarwch yr Awdurdod dros y 12 mis nesaf, ac yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw. Mae hefyd yn nodi meysydd datblygu allweddol a fydd yn galluogi'r Cyngor i fireinio ein cynllun tymor hwy er mwyn mynd i'r afael ag achosion ehangach tlodi.

Yn ystod y 12 mis nesaf bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei Strategaeth Genedlaethol ar Dlodi Plant, ac wedi i hynny ddigwydd, bydd y Cyngor yn adolygu ei ddull gweithredu ac yn datblygu ymhellach y cynllun trechu tlodi tymor canolig/hir.