Cyllid ar gael i gefnogi busnesau Sir Gaerfyrddin

368 diwrnod yn ôl

Mae dau gyfle cyllido newydd wedi dod ar gael i fusnesau Sir Gaerfyrddin. 

Mae Cronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin yn gallu darparu cymorth ariannol i fusnesau ac unig fasnachwyr ar gyfer datblygu safleoedd busnes newydd a phresennol, lle mae swyddi yn cael eu creu o ganlyniad. Mae'r cynnig grant yn seiliedig ar greu swyddi ac mae £20,000 ar gael ar gyfer pob swydd amser llawn sy'n cael ei chreu neu gall y cyfraddau ymyrryd canlynol fod yn berthnasol (p'un bynnag yw'r ffigur lleiaf):

Busnesau Bach: 45%                                                                            

Busnesau Canolig: 35%

Busnesau mawr: 25%

Fel rhan o'r pecyn cymorth ariannol sydd eisoes ar waith ar gyfer busnesau yn y sir.   Mae Cyngor Sir Caerfyrddin bellach hefyd wedi sicrhau bod £200,000 ar gael ar gyfer Cronfa Seilwaith Llifogydd Sir Gaerfyrddin i Fusnesau. Nod y cyllid hwn yw cefnogi busnesau y mae llifogydd yn effeithio arnynt dro ar ôl tro.

Rhoddir blaenoriaeth i'r ceisiadau sy'n darparu manteision pendant i'r economi leol o ran diogelu swyddi, a hefyd i brosiectau lle mae perygl llifogydd hanesyddol a lle ceir effaith economaidd sylweddol.

Bydd prosiectau cymwys wedi'u lleoli mewn ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin sydd wedi wynebu nifer o lifogydd sylweddol.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth

Bydd yr arian sydd ar gael drwy Gronfa Mentrau Gwledig Sir Gaerfyrddin a Chronfa Seilwaith Llifogydd Sir Gaerfyrddin i Fusnesau yn galluogi nifer o fusnesau yn Sir Gaerfyrddin i ehangu ac i greu swyddi newydd mewn ardaloedd gwledig yn ogystal â galluogi busnesau i ddiogelu eu safleoedd yn well rhag perygl llifogydd.”