100% o drydan a brynwyd gan y Cyngor wedi'i gynhyrchu o ffynonellau ynni adnewyddadwy Cymru

373 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o adrodd bod 100% o'r trydan a brynodd, rhwng Ebrill 2021 a Mawrth 2022, wedi'i gynhyrchu o ffynonellau ynni adnewyddadwy Cymru.

Mae hyn i fyny o 63% yn 2019/2020 ac yn garreg filltir arwyddocaol wrth i'r Cyngor drosglwyddo i fod yn awdurdod carbon isel.

Yn ystod 2021/22, cynhyrchwyd y trydan a brynwyd gan yr awdurdod o'r ffynonellau canlynol: Biomas 1.25%, gwynt morol 58.70%, solar 7.65% a gwynt 32.40%.

Dywedodd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: "Mae'n newyddion gwych bod yr holl drydan sy'n cael ei brynu gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn dod o ffynonellau adnewyddadwy ac yn cael ei gynhyrchu yma yng Nghymru. 

"Er bod hyn yn gyflawniad enfawr rhaid i ni beidio â gorffwys ar ein rhwyfau gan fod hwn yn un elfen o'r ymdrech gyffredinol i ddatgarboneiddio ein sir er mwyn creu dyfodol mwy cynaliadwy a gwyrdd i blant a phlant ein plant."