Ymgyrch i hybu gyrru'n fwy diogel yn ymyl ceffylau

407 diwrnod yn ôl

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn atgoffa gyrwyr am eu cyfrifoldebau wrth ddod ar draws ceffylau a'u marchogion sy’n ddefnyddio'r ffordd.

Yr haf diwethaf, comisiynodd Diogelwch Ffyrdd Cymru bosteri newydd ar ochr y ffordd i dynnu sylw at yr angen i yrwyr leihau eu cyflymder yn ddirfawr i lai na 10mya wrth agosáu at geffyl a gadael bwlch o 2 fetr (6 troedfedd) o leiaf wrth oddiweddyd.

Yn Sir Gaerfyrddin y dechreuodd y fenter, gyda thîm diogelwch ffyrdd y Cyngor yn lansio treial o bosteri ar ochr y ffordd yn llwyddiannus cyn i'r ymgyrch gael ei hymestyn ledled Cymru.

Mae'r posteri ymgyrchu newydd, sy'n cyd-fynd ag argraffiad diweddaraf Rheolau'r Ffordd Fawr, ar gael bellach ym mhob un o'r 22 o Awdurdodau Lleol yng Nghymru.

Dywedodd Teresa Ciano, Cadeirydd Diogelwch Ffyrdd Cymru, "Os ydych chi'n agosáu at geffyl a marchog, y peth cyntaf i'w wneud yw lleihau’ch cyflymder i ddim mwy na 10mya a bod yn barod i stopio.

"Cadwch ymhell yn ôl a pheidiwch a refio’r injan na chanu’r corn. Byddwch yn amyneddgar a gadewch amser i'r marchog ddod o hyd i glwyd neu rywle ar ochr y ffordd lle mae digon o le i'ch galluogi i basio'n ddiogel.

"Os yw'r ffordd yn ddigon llydan a'i bod yn edrych fel pe bai cyfle i oddiweddyd yn ddiogel, gofalwch y byddwch yn gallu gwneud hynny heb ruthro, gan adael bwlch o 2 fetr o leiaf o'r ceffyl. Os oes amheuaeth, arhoswch am fwlch mwy o faint neu rywle sydd â gwelededd gwell byth."

Mae Diogelwch Ffyrdd Cymru yn ddiolchgar i Gyngor Sir Caerfyrddin, Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Ceffylau Prydain am eu cymorth i ddatblygu'r ymgyrch. Mae Cymdeithas Ceffylau Prydain wedi darparu data amhrisiadwy drwy adran adrodd digwyddiadau bhs.org.uk. Mae hyn wedi helpu i sicrhau bod modd dod o hyd i'r cyngor i yrwyr mewn mannau problemus yn ogystal ag ar lwybrau sy’n cael eu defnyddio’n aml gan farchogion.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros faterion Gwasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, Cyngor Sir Caerfyrddin: "Gall canlyniadau gwrthdrawiad rhwng ceffyl a cherbyd fod yn ddinistriol, nid yn unig i'r ceffyl a'r marchog ond hefyd i’r rhai sy yn y cerbyd.

"Mae ceffylau a'u marchogion yn ddefnyddwyr ffyrdd bregus. Pe bai'n un o'ch ffrindiau neu'ch teulu' chi sy’n marchogaeth, byddech chi’n disgwyl – yn gywir ddigon – i yrwyr ymddwyn yn gyfrifol. Mae'r rhan fwyaf o yrwyr yn deall yn iawn ac rydym yn ymwybodol o yrwyr sy’n stopio’u cerbyd ac yn diffodd eu hinjan i adael i geffylau basio yn eu hamser eu hunain, yn enwedig y rhai sy'n gyrru cerbydau HGVs. Mae'r weithred gymharol syml yma yn dangos ystyriaeth wirioneddol ac yn cael ei gwerthfawrogi'n fawr."

Mae Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru yn annog marchogion i riportio digwyddiadau a gwrthdrawiadau er mwyn ehangu’r gronfa wybodaeth am ddigwyddiadau sy'n cynnwys ceffylau. Bydd casglu data cywir ar amlder a difrifoldeb digwyddiadau yn helpu i nodi tueddiadau a gellir ei ddefnyddio i danlinellu a mynd i'r afael â'r risg sy’n wynebu marchogion sy’n defnyddio’r ffyrdd yn fwy effeithiol. Gall digwyddiadau gael eu riportio’n gyflym ac yn hawdd hefyd drwy ddefnyddio ffôn neu ddyfais llechen, drwy ap y BHS Horse i a hynny am ddim.

Anogir marchogion hefyd i gyflwyno tystiolaeth fideo a ffotograffig ynglŷn â throseddau gyrru i Gan Bwyll drwy Ymgyrch Snap. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i gosafesnap.wales