Theatrau Sir Gâr yn paratoi'r llwyfan ar gyfer theatr awyr agored ym Mharc Gwledig Pen-bre dros yr haf

423 diwrnod yn ôl

Mae theatr awyr agored yn dychwelyd i Ben-bre unwaith eto dros yr haf wrth i Theatrau Sir Gâr gyhoeddi cynlluniau ar gyfer rhaglen wych o sioeau theatr awyr agored.

Bydd Parc Gwledig Pen-bre Cyngor Sir Caerfyrddin yn croesawu 'Theatrau Sir Gâr yn y Parc' rhwng 18 a 22 Awst. Bydd yn arddangos amrywiaeth o adloniant, gan gynnwys enwau mawr mewn cerddoriaeth fel The Shires a seren y West End o Gymru, Lucie Jones, a hefyd sioeau teuluol llawn hwyl, golwg o'r newydd ar glasuron Shakespeare, a nosweithiau hudolus o gerddoriaeth gyda sêr byd opera.

Bydd llwyfan awyr agored dros dro yn cael ei chreu ym Mharc Gwledig Pen-bre, yn arbennig ar gyfer y digwyddiad. Ni ddarperir mannau i eistedd: yn hytrach, gwahoddir cynulleidfaoedd i ddod â'u cadeiriau neu flancedi eu hunain i eistedd arnynt fel rhan o'r profiad theatr awyr agored hwn.

Gan ddechrau’r penwythnos mewn steil, bydd The Munch Mission ar y llwyfan ddydd Gwener 18 Awst am 2pm. Yn llawn dirgelwch, comedi, a nodweddion ffilmiau noir, mae'n sioe theatr chwareus i bawb 6 oed a hŷn.

Bydd Pen-bre yn croesawu deuawd canu gwlad mwyaf y DU, The Shires, ar nos Wener 18 Awst, 7:30pm. Mae'r deuawd, sy'n cynnwys y cantorion-gyfansoddwyr Ben Earle a Crissie Rhodes, wedi cael llwyddiant ysgubol yn ystod y 10 mlynedd diwethaf gan gynnwys pedwar albwm yn y siart 10 uchaf a gwerthu cannoedd o filoedd o docynnau ledled y byd. Fel rhan o gyngerdd acwstig awyr agored The Shires, byddwch yn clywed cerddoriaeth o'u halbwm newydd, 10 Year Plan, a chaneuon poblogaidd gan gynnwys 'I See Stars'.

Bydd A Midsummer Day Dream yn dod ag antur ryngweithiol hudolus i Ben-bre ddydd Sadwrn 19 Awst am 11am, yn llawn caneuon, dawns, tylwyth teg a hud a lledrith natur.

Bydd Theatr Quantum ar y llwyfan ddydd Sadwrn 19 Awst am 5pm gydag addasiad newydd sbon o glasur Kenneth Grahame, The Wind in The Willows.

Mae dydd Sul 20fed Awst yn mynd i fod yn un prysur, gan ddechrau gyda Llesiant yn y Parc am 10yb. Bydd cyfle i roi cynnig ar Gelf Ioga yn yr awyr agored ac yna am 11:30am bydd sesiwn gyda Blue Health, taith gerdded natur arddull disgo tawel. Yna wrth i'r haul fachlud, setlwch i mewn am noson gofiadwy o gerddoriaeth wrth i seren y West End, Lucie Jones gamu i'r llwyfan, yng nghwmni The Welsh Film Orchestra ar gyfer Lucie Jones: Live in Concert. Fel rhan o'r perfformiad awyr agored hwn ym Mhen-bre, bydd y ffefrynnau yn dychwelyd i ymuno â Lucie - Ania Davies a Sean Lewis ac am un noson yn unig, cast Kinky Boots: The Musical from Melyn Musical Theatre Company.

Ddydd Llun 21 Awst am 7pm, paratowch i weld dramâu mwyaf poblogaidd Shakespeare ar eu newydd wedd wrth i MacHamLear archwilio athrylith awdur enwocaf Lloegr. Paratowch i gael eich swyno wrth i'r tair drama eiconig gael eu perfformio gydag angerdd, bywiogrwydd a nerth a chofiwch roi eich pleidlais yn The Battle of the Bard.

Bydd gwledd i'r teulu ddydd Mawrth 22 Awst am 11am, 2pm a 5pm wrth i The Conjurer of Cwrtycadno gyrraedd Pen-bre. Mae'n sioe theatr a helfa drysor ac yn antur hudolus a hygyrch i'r teulu gydag Iaith Arwyddion Prydain integredig a disgrifiad sain.

Noson Glasurol fydd yn dod â'r ŵyl i ben ddydd Mawrth 22 Awst am 7:30pm. Mae'n argoeli i fod yn noson o haf yn llawn alawon hudolus wrth i Rhian Lois, Trystan Llŷr Griffiths, a John Ieuan Jones ein cymryd ar daith drwy'r clasuron opera, theatr cerdd, a ffefrynnau Cymreig, yng nghwmni Caradog Williams. Noson hwyliog a dwyieithog i bawb.

Gellir archebu tocynnau ar-lein neu gyda'r Swyddfa Docynnau ar 0345 226 3510.