Gwrthod Gwaharddeb Dros Dro

428 diwrnod yn ôl

Nid yw Cyngor Sir Caerfyrddin wedi llwyddo yn ei gais i'r Llys am waharddeb dros dro yn erbyn Gryphon Leisure Limited, Sterling Woodrow Limited, Clearsprings Ready Homes Limited, Robert Horwood a Gareth Street ynghylch y bwriad i wneud newid defnydd sylweddol i Westy Parc y Strade, Llanelli, heb ganiatâd cynllunio. Gwrthododd y Dirprwy Farnwr Uchel Lys Mansfield KC roi'r waharddeb gyda'r rhesymau i'w cyflwyno ddydd Llun.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn amlwg yn siomedig gyda'r penderfyniad a bydd yn ystyried y rhesymau pan gânt eu rhoi.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin at ddefnydd pobl y gallai fod ganddynt gwestiynau neu bryderon. Ewch i wefan y Cyngor i weld y Cwestiynau Cyffredin.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin:"Rydym ni'n siomedig â phenderfyniad y llys heddiw, ond nid wy'n difaru dod â'r achos hwn i'r llys, gan fod arnon ni hyn i drigolion a busnesau Llanelli, i gymuned Ffwrnes, ac i'r staff yng Ngwesty Parc y Strade, er mwyn cymryd pob cam posib.

Wedi dweud hynny, mae angen i'r Cyngor ystyried yn llawn y rhesymau a roddir gan y Barnwr ddydd Llun ac, yng nghyd-destun ei gais am waharddeb barhaol, ni fyddai sylwadau pellach ar yr ymgyfreitha yn briodol ar hyn o bryd.

"Mae'r Cyngor yn dal i fod o'r farn fod angen i Lywodraeth y DU adolygu ei pholisi ar y defnydd o westai wrth letya ceiswyr lloches. Yn amlwg, nid yw'r dull presennol yn gweithio.

"Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi ymrwymo'n llwyr i gefnogi staff Gwesty Parc y Strade drwy'r cyfnod anodd hwn. Trwy brosiectau Cymunedau am Waith a Gweithffyrdd+, bydd y Cyngor yn helpu'r unigolion hyn drwy roi cyngor ac arweiniad iddyn nhw ynghylch chwilio am swydd, ynghyd â chymorth cyflogaeth sy'n cynnwys hyfforddiant a diweddaru CVs fel y bo'r gofyn.

“Mae ein tîm cyflogadwyedd hefyd yn trefnu ffair swyddi i'r staff i'w helpu i chwilio am waith arall a bydd yn gwahodd diwydiannau amrywiol i'r ffair. Bydd y tîm hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner, gan gynnwys Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith i ddarparu gwybodaeth y gallai fod ei hangen ar unigolion.

"Mae colli eich swydd yn ddigon o ofid, heb sôn am hynny'n digwydd pan fo argyfwng costau byw, ac felly bydd ymgynghorwyr HWB y Cyngor wrth law i gynghori'r bobl hynny sydd angen cymorth ariannol."