Digwyddiad Ymgysylltu Fframwaith Gwaith Eiddo

457 diwrnod yn ôl

Os ydych chi'n berchen ar fusnes sy'n arbenigo mewn gwaith eiddo, hoffai Cyngor Sir Gâr siarad â chi.

Mae'r Cyngor yn comisiynu Fframwaith Gwaith Eiddo newydd i ddarparu gwaith ar eiddo, cynnal a chadw, addasiadau, gwelliannau i adeiladau a gwaith cysylltiedig arall sy'n ofynnol ar gyfer cyflawni gwaith tai a gwaith eiddo nad yw'n ymwneud â thai.  

Ym mis Gorffennaf a mis Awst eleni, bydd y Cyngor yn cynnal sesiynau ymgysylltu galw heibio i hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd sydd ar gael fel rhan o'r fframwaith newydd hwn. Bydd y sesiynau hyn yn cael eu cynnal ledled y Sir ar gyfer busnesau a allai fod â diddordeb i weithio i'r Awdurdod.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Gartrefi, y Cynghorydd Linda Evans: “Mae cefnogi’r economi leol wrth wraidd gweithgareddau’r Cyngor felly hoffem annog cymaint o fusnesau yn Sir Gâr â phosibl i wneud cais am y fframwaith hwn”.

Am ymholiadau pellach cysylltwch â: CytundebauEiddoTai@sirgar.gov.uk

 

Lleoliad

Dyddiad

Amser

Llyfrgell Rhydaman 

24/7/23

12yp – 7yp

Llyfrgell Llandeilo

25/7/23

2yp – 6yp

Neuadd Goffa

Porth Tywyn

26/7/23

2yp – 6yp

Canolfan Fenter y Goleud, Llanelli

28/7/23

12yp =- 7yp

Llyfrgell Caerfyrddin

31/7/23

12yp – 7yp

Princess Gwenllian Centre
Kidwelly

2/8/23

2yp – 6yp

Llyfrgell Llanymddyfri

3/8/23

2yp – 6yp

Neuadd y Tymbl 

7/8/23

2yp – 6yp

Llyfrgell Hendy-gwyn ar Daf

7/8/23

3:30yp – 6:30yp

Festri Aberduar, Llanybydder

8/8/23

2yp – 6yp

Canolfan Gymunedol Cwmaman

8/8/23

2yp – 6yp

Neuadd Cawdor, Castell Newydd Emlyn

10/8/23

2yp – 6yp

The Gate Gallery, Sancler

10/8/23

2yp – 6yp

Neuadd Bentref

Sant Iago, Cwman

11/8/23

10yb – 4yp

Neuadd Goffa
Laugharne

15/8/23

2yp – 6yp