Cyngor yn ymateb i gwynion ynghylch tynnu rhan o berth ar ffin Gwesty Parc y Strade

424 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn ymateb i gwynion ynghylch tynnu rhan o berth ar ffin Gwesty Parc y Strade.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio:

“Yn dilyn cwynion ynghylch tynnu rhan o berth sy'n ffinio â Gwesty Parc y Strade, ar hyd ei ffin â Heol Pentre-poeth, Ffwrnes, mae'r Cyngor wrthi'n ymchwilio i'r sefyllfa mewn perthynas ag achosion posibl o dorri rheoliadau cynllunio gan ystyried unrhyw bryderon diogelwch. Ar ôl i'r ymchwiliad ddod i ben yn y dyddiau nesaf, bydd y Cyngor yn ystyried beth yw'r camau nesaf priodol i'w cymryd.” 

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin a'i bartneriaid wedi cyhoeddi rhestr o Gwestiynau Cyffredin at ddefnydd pobl y gallai fod ganddynt gwestiynau neu bryderon. Ewch i wefan y Cyngor i weld y Cwestiynau Cyffredin.