Council issues statement on its current position on the Stradey Park Hotel

415 diwrnod yn ôl

Yng ngoleuni'r ffaith bod yr Uchel Lys wedi gwrthod gwaharddeb dros dro yn ddiweddar, ar 7 Gorffennaf 2023, ac ar ôl adolygu canlyniadau achosion eraill, ni fydd Cyngor Sir Caerfyrddin yn bwrw ymlaen â'r cais am waharddeb barhaol.

Fodd bynnag, nid yw gwrthod y waharddeb dros dro yn awdurdodi defnydd cynllunio anghyfreithlon o'r gwesty a bydd y Cyngor yn parhau i fonitro'r datblygiadau yng Ngwesty Parc y Strade ac yn ystyried yr holl opsiynau cyfreithiol sydd ar gael i'r awdurdod. 

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Mae gennym syniad o sut mae'r Uchel Lys wedi ystyried ein hachos ac yn dilyn gwrthod gwaharddeb dros dro, ynghyd â dyfarniadau achosion eraill gan awdurdodau lleol, mae'r Cyngor wedi penderfynu peidio â bwrw ymlaen ymhellach â'r broses benodol hon.

“Ond rydym yn dal i gredu'n gryf fod Gwesty Parc y Strade yn lle anaddas i letya nifer mor fawr o geiswyr lloches mewn un lleoliad, a byddwn yn parhau i fynd ar drywydd opsiynau cyfreithiol eraill sydd ar gael inni, gan gynnwys deddfwriaeth yn ymwneud â gorfodi rheolau cynllunio.

“Rydym yn credu bod dull Llywodraeth y DU yn anghywir a byddwn yn parhau i lobïo dros newid y dull i sicrhau bod anghenion y gymuned leol yn cael eu hystyried. O ran colli swyddi, colli ased twristiaeth allweddol, canslo priodasau a thensiynau sylweddol yn lleol, rydym unwaith eto yn erfyn ar Lywodraeth y DU i roi stop ar y cynllun hwn.

“Rwyf wedi datgan ar sawl achlysur fod y Cyngor wedi llwyr gefnogi a chyflwyno'n llwyddiannus y model gwasgaredig a ddefnyddir ar hyn o bryd i ailymgartrefu ceiswyr lloches o Syria, Affganistan, Wcráin ynghyd â cheiswyr lloches cyffredinol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae'r model gwasgaredig o ddarparu llety yn fwy cynaliadwy o ran cynnig ateb tymor hwy i geiswyr lloches, yn enwedig mewn sir fel Sir Gaerfyrddin.”