Cyflwyno Prydau Ysgol Am Ddim i ddisgyblion Blynyddoedd 3 a 4 o fis Medi ymlaen

429 diwrnod yn ôl

Ers mis Medi 2022, mae pob plentyn Meithrin a Derbyn amser llawn yn Sir Gâr wedi cael cynnig Prydau Ysgol am Ddim. Cafodd y ddarpariaeth hon ei hehangu i gynnwys holl ddisgyblion Blwyddyn 1 ym mis Ionawr 2023, ac i gynnwys holl ddisgyblion Blwyddyn 2 ym mis Ebrill 2023. Mae hyn yn gam pwysig tuag at gyflawni'r uchelgais ar y cyd o sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol.

Yn dilyn cyflwyno'r camau blaenorol yn llwyddiannus, mae'n bleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyhoeddi, o ddechrau'r tymor newydd ym mis Medi 2023, y bydd Prydau Ysgol am Ddim hefyd yn cael eu cynnig i holl ddisgyblion Blwyddyn 3 a 4.

Cliciwch yma am ragor o wybodaeth

Ni fydd angen gwneud cais am Brydau Ysgol am Ddim ar gyfer disgyblion Blwyddyn 3 neu 4 na disgyblion Meithrin neu ddisgyblion Derbyn amser llawn newydd o fis Medi ymlaen.  Fodd bynnag, mae'n hanfodol bod rieni yn rhoi gwybod i'r ysgol am unrhyw anghenion deietegol arbennig sydd gan eu plentyn cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau y gellir diwallu anghenion deietegol y plentyn o ddiwrnod cyntaf y tymor.  Er mwyn sicrhau bod darpariaeth ar waith ar gyfer dechrau'r tymor, bydd angen i chi roi gwybod i’r Ysgol am unrhyw anghenion deietegol arbennig erbyn dydd Gwener 14 Gorffennaf fan bellaf.

Cofiwch NAD YW disgyblion rhan-amser na'r rhai mewn lleoliadau gofal plant (hyd yn oed os yw'r lleoliad mewn ysgol e.e., Cylch Meithrin) yn gymwys.

Os yw eich plentyn yn derbyn prydau ysgol am ddim a/neu unrhyw fudd-daliadau cysylltiedig eraill ar hyn o bryd ni fydd effaith ar y rhain. Ar hyn o bryd mae'r broses ar gyfer gofyn am bryd ysgol am ddim yn parhau fel y mae ac anogir teuluoedd i wneud cais yn y ffordd arferol er mwyn sicrhau'r cyllid mwyaf posibl i ddisgyblion a'u hysgol.

Bydd amserlen Sir Gâr ar gyfer cyflwyno'r cynllun hwn i ddisgyblion Blwyddyn 5 ac 6 yn cael ei chyhoeddi cyn gynted â phosib.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg: “Ni ddylai unrhyw riant neu warcheidwad orfod poeni am eu plentyn yn mynd heb fwyd yn yr ysgol, felly rwy’n falch iawn y bydd y broses o ddarparu Prydau Ysgol am Ddim yn cael ei ymestyn i Flynyddoedd 3 a 4 o fis Medi ymlaen.”