Bwyd a Hwyl yr haf hwn yn Sir Gaerfyrddin

335 diwrnod yn ôl

Wrth i ysgolion ledled Sir Gaerfyrddin gael saib ar gyfer gwyliau'r haf, mae'r Cyngor Sir yn cefnogi nifer o fentrau ledled y sir i helpu plant a allai brofi ansicrwydd o ran bwyd yn ystod gwyliau'r haf.

Rhaglen Bwyd a Hwyl

Mae Rhaglen Bwyd a Hwyl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn rhaglen addysg yn yr ysgol, a gynhelir dros wyliau'r haf, sy'n darparu prydau iach, maeth, addysg, gweithgaredd corfforol a sesiynau cyfoethogi i ysgolion sydd â 16% neu fwy o Gymhwysedd am Brydau Ysgol am Ddim.

Darperir Bwyd a Hwyl trwy ddull partneriaeth rhwng ysgolion, gweithwyr iechyd proffesiynol, yr Awdurdod Lleol a staff chwaraeon cymunedol. 

Bydd y Rhaglen Bwyd a Hwyl yn cael ei darparu gan staff a phartneriaid yr ysgol am o leiaf 12 diwrnod ym mhob ysgol sy'n cymryd rhan. Bydd brecwast a chinio iach yn cael eu darparu i'r plant sy'n mynychu gydag o leiaf awr o weithgarwch corfforol strwythuredig y dydd. Bydd gweithgaredd bwyd i'r teulu yn cael ei ddarparu o leiaf unwaith yr wythnos.

Nod cyffredinol Bwyd a Hwyl yw cyfrannu at welliannau tymor hir yn iechyd a llesiant plant drwy fynd i'r afael â'r ansicrwydd bwyd a brofir gan rai plant yn ystod yr haf; rhoi sylw i'w hiechyd a'u llesiant emosiynol; a manteisio i'r eithaf ar botensial cyfleusterau ysgol sydd heb eu defnyddio ddigon yn ystod gwyliau haf yr ysgol.

Mae'r ysgolion sy'n cymryd rhan yn y cynllun wedi cyfathrebu gwybodaeth lawn am y rhaglen Bwyd a Hwyl i ddisgyblion cymwys.

Her Ddarllen yr Haf – 'Ar eich Marciau, Darllenwch'

Mewn cydweithrediad â Rhaglen Haf Foothold Cymru, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn lansio ei Her Ddarllen yr Haf, 'Ar eich Marciau, Darllenwch'.

Mae mwy na 50 o blant wedi cofrestru ar gyfer Her Ddarllen yr Haf y Cyngor, sy'n agored i blant rhwng 5 ac 14 oed. Bydd y rhaglen yn rhedeg bob dydd Llun i ddydd Mercher am bum wythnos gyntaf y gwyliau gyda Pharti Haf yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnos olaf.

Bydd plant sy'n mynychu'r gweithgareddau 'Ar eich Marciau, Darllenwch' yn cael dau weithgaredd, brecwast a chinio am dridiau'r wythnos drwy gydol gwyliau'r Haf.

Sesiynau Fit, Fed and Fun mewn partneriaeth â'r Scarlets.

Mae Hyfforddwyr Chwaraeon Cymunedol Actif y Cyngor yn cefnogi'r Scarlets i ddarparu'r cynllun Fit, Fed and Fun sy'n agored i blant sydd ym mlynyddoedd 3 i 6 yn yr ysgol.

Bydd sesiynau Fit, Fed and Fun yn rhedeg rhwng 9am a 2pm yn y lleoliadau canlynol:

31 Gorffennaf yng Nghanolfan Hamdden Sanclêr

4 Awst yn Dr Mz, Caerfyrddin

21 Awst yng Nghlwb Rygbi Pont-iets

11 Awst ym Mryngwyn, Llanelli

14 Awst yng Nglanymôr, Llanelli

Sesiwn Chwarae Mynediad Agored

Drwy ddarparu Grant Gwyliau Playworks Llywodraeth Cymru, mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi comisiynu People Speak Up i gyflwyno sesiynau chwarae Mynediad Agored ar draws ardaloedd yn Sir Gaerfyrddin, lle mae angen wedi'i nodi. Mae'r ddarpariaeth yn ddwyieithog ac yn ymgysylltu â'r gymuned leol ac yn annog teuluoedd i greu agwedd gadarnhaol deuluol at chwarae. Darperir byrbrydau iach yn ystod y sesiynau chwarae.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Davies Evans, Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Drechu Tlodi:

“Yng nghanol yr argyfwng costau byw hwn, bydd gan rai teuluoedd bryderon gwirioneddol ynghylch bwydo eu plant yn ystod gwyliau'r haf. O'n rhan ni, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gweithio gyda nifer o bartneriaid i ddarparu gweithgareddau i blant, sy'n rhad ac am ddim, lle gall plant ddisgwyl cael eu bwydo. 

“Mae cefnogaeth a chyngor wrth law i holl breswylwyr Sir Gaerfyrddin sy'n teimlo'r pwysau yn ariannol yng Nghanolfannau HWB y Cyngor yn Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin neu drwy wefan y Cyngor."

I gael gwybod mwy am y gweithgareddau amrywiol sydd ar gael i blant yn Sir Gaerfyrddin yr haf hwn, ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.