Annog y cyhoedd i fod yn wyliadwrus o achosion posib o Ffliw Adar

313 diwrnod yn ôl

Cadarnhawyd Ffliw Adar Pathogenig Iawn (HPAI) mewn nifer o leoliadau / nythod adar gwyllt yng Nghymru (gweler yma am adroddiadau gwyliadwriaeth am adar gwyllt ,APHA). Bydd hyn yn debygol o arwain at adar marw a/neu sâl yn cael eu golchi i'r lan ar draethau a ddefnyddir gan y cyhoedd.

Os dewch chi o hyd i unrhyw adar gwyllt;

  • Peidiwch â chyffwrdd na chodi unrhyw adar gwyllt marw neu sy'n amlwg yn sâl.
  • Cadwch eich cŵn ar dennyn ac i ffwrdd o unrhyw adar gwyllt marw neu sâl.
  • Os byddwch yn dod o hyd i adar dŵr gwyllt sydd wedi marw (elyrch, gwyddau neu hwyaid) neu adar gwyllt marw eraill, fel gwylanod neu adar ysglyfaethus, dylech roi gwybod am hyn gan ddefnyddio system ar-lein neu linell gymorth Defra: 03459 33 55 77
  • Os ydych chi'n dod o hyd i unrhyw adar gwyllt sy'n sâl neu wedi'u hanafu, cysylltwch â'r RSPCA ar 0300 1234 999.

Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru Ffliw adar: y diweddaraf | LLYW.CYMRU