Y Cyngor yn ymateb i ffigurau cyfrifiad y Gymraeg

640 diwrnod yn ôl

Mae nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, ac yng Nghymru gyfan, wedi gostwng ers 2011 yn ôl canlyniadau cyfrifiad 2021.

Mae data diweddaraf y Cyfrifiad ar gyfer 2021 yn dynodi bod tua 538,300 o bobl (3+ oed) yng Nghymru yn gallu siarad Cymraeg, mae hyn yn cyfateb i 17.8% o'r boblogaeth. Mae hyn yn ostyngiad o tua 23,700 o bobl neu 1.2 pwynt canran ers Cyfrifiad 2011. 

Ar gyfer Sir Gaerfyrddin, mae'r data ar gyfer 2021 yn dynodi bod y sir yn gartref i 72,838 o siaradwyr Cymraeg neu 39.9% o gyfanswm y boblogaeth (3+ oed). Mae'r ffigur hwn yn ostyngiad o 5,210 neu 4.0% ers y Cyfrifiad diwethaf yn 2011.

Yn anffodus, dyma'r gostyngiad mwyaf fel pwynt canran o blith holl awdurdodau lleol Cymru.

Yn 2001 a 2011, Sir Gaerfyrddin oedd â'r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru, gydag 84,196 o siaradwyr Cymraeg yn 2001 a 78,048 o siaradwyr Cymraeg yn 2011.  Mae'r ffigurau newydd hyn yn golygu bod gan y sir bellach y nifer ail uchaf o siaradwyr Cymraeg o bob awdurdod lleol yng Nghymru.

Sir Gaerfyrddin yw'r pedwerydd uchaf o hyd o ran canran y boblogaeth sy'n medru'r Gymraeg.

Grŵp Oedran

Gwelodd pob awdurdod lleol yng Nghymru ostyngiad yng nghanran y plant, rhwng 3 a 15 oed, y nodwyd eu bod yn gallu siarad Cymraeg rhwng 2011 a 2021. Ar lefel genedlaethol, credir bod y gostyngiad yn nifer a chanran y bobl, yn dair oed neu'n hŷn, sy'n gallu siarad Cymraeg yn cael ei yrru'n bennaf gan gwymp ymhlith plant a phobl ifanc a ddywedodd eu bod yn medru'r Gymraeg.

Yn Sir Gaerfyrddin mae gostyngiad o 510 o bobl neu 2.6% wedi bod yn y nifer rhwng 3-15 oed sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae gostyngiadau hefyd i'w gweld yn y categorïau oedran 16-64 a 65+, er ar lefelau mwy sylweddol na'r grŵp oedran iau. I ehangu, mae'r dirywiad yn y rheiny sydd dros 65 oed ac sy'n gallu siarad Cymraeg yn cyfateb i ostyngiad o 8.7%.

Sgiliau Iaith Gymraeg

Yn ystod Cyfrifiad 2011 dywedodd 74,355 o bobl sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin nad oedd ganddynt unrhyw sgiliau yn y Gymraeg. Mae'r lefel hon wedi cynyddu dros y deng mlynedd diwethaf i 85,287, neu 4.8%.

Mae nifer y bobl sy'n gallu siarad, darllen ac ysgrifennu Cymraeg yn y sir wedi gostwng 1.9% neu 1,828 o bobl. Mae hyn yn ostyngiad sylweddol is na'r ffigurau ar gyfer y rheiny sydd ond yn gallu siarad Cymraeg.

Dywedodd y Cynghorydd Glynog Davies, Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg: “Does dim osgoi'r ffaith fod y gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin yn frawychus ac yn achos pryder mawr.

“Mae yna lawer o ffactorau a allai esbonio'r dirywiad hwn. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid drwy'r Fforwm Iaith Sirol i ddadansoddi'r canlyniadau hyn o'r cyfrifiad diweddaraf er mwyn sicrhau ein bod yn deall yn iawn y ffactorau sy'n cyfrannu at y canfyddiadau siomedig hyn a'n bod yn ymateb iddynt.”