Y Cyngor yn cyhoeddi ei Adroddiad Blynyddol y Gymraeg

646 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cyhoeddi Adroddiad Blynyddol y Gymraeg. Cafodd yr Adroddiad ei gymeradwyo gan y Cynghorydd Glynog Davies, yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg.

O fewn yr Adroddiad Blynyddol, ceir gwybodaeth am sut y mae’r Cyngor wedi cydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg y mae Comisiynydd y Gymraeg wedi gosod arnynt, ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011. 

Mae’r Adroddiad yn egluro’r camau a gymerwyd i sicrhau fod y Cyngor yn darparu gwasanaethau i’r cyhoedd yn y Gymraeg ac yn gweithredu’n fewnol yn y Gymraeg. Ceir hefyd fanylion ar sut y mae’r Cyngor yn hybu’r Gymraeg ar draws y sir ac yn ystyried y Gymraeg wrth ddatblygu polisi. 

Darperir data yn yr adroddiad am sgiliau Cymraeg y gweithlu a’r hyfforddiant Cymraeg y mae’r Cyngor yn ei ddarparu.  Mae modd darllen am astudiaethau achos o waith y mae’r Cyngor yn falch ohono, sydd yn cynnwys sefydlu ‘Clwb Clebran’ – cynllun sy’n rhoi cyfle i staff gynnal eu defnydd anffurfiol o’r Gymraeg yn dilyn y symud cynyddol tuag at weithio o gartref.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg, Y Cynghorydd Glynog Davies “Mae’n bleser gen i gyflwyno Adroddiad Blynyddol Y Gymraeg Cyngor Sir Gâr ar gyfer

2021/22. Dyma’r chweched blwyddyn o weithredu Safonau’r Iaith Gymraeg a hynny mewn

cyfnod o addasu ac ail-adeiladu yn dilyn cyfnodau clo ac aflonyddwch y pandemig. Parhawyd â’r safonau uchel dros ben wrth ddarparu gwasanaethau ar-lein ac wrth gyfathrebu gyda’n trigolion.

Cafodd ein gwaith cyfathrebu ei ddarparu yn unol â’r Safonau yn ddi-ffael, a hynny

drwy gydol y stormydd a gafwyd, gyda’r rhybuddion tywydd a’r holl wybodaeth am gau

ffyrdd yn cael eu darparu yn ddwyieithog ar draws ein platfformau ar y cyfryngau

cymdeithasol, yr un pryd yn y Gymraeg ac yn Saesneg.

Yn dilyn pandemic COVID-19, rydym yn hynod o falch o’r modd i ni roi’r Gymraeg yn nghanol y gwaith o ail-adeiladu gwasanaethau ac ailsefydlu prosiectau adfywio a cheir nifer o enghreifftiau o brosiectau newydd i hyrwyddo’r Gymraeg yn ein gwaith o adfywio’r economi a’r gymuned yn dilyn.  

Mae’r adroddiad trwyadl  yma, ynghyd â’r data a ddaw o’r Cyfrifiad yn hwyrach eleni yn rhoi darlun cyflawn i ni o sefyllfa’r Gymraeg yn y sir. Fe fydd yn sail cadarn i gynllunio ar gyfer y Gymraeg yn y dyfodol. Mae’r Cyngor eisoes wedi dechrau ar y gwaith o gydlynu ymdrechion i gynllunio i’r dyfodol ac i gychwyn ar y gwaith o lunio strategaeth hybu newydd ar gyfer y bum mlynedd nesaf.

Wrth gyflwyno’r adroddiad hwn, mae’n rhaid i mi gydnabod gwaith di-flino y Cynghorydd Peter Hughes-Griffiths, oedd yn gyfrifol am bortffolio’r Gymraeg, Twristiaeth, Diwylliant a

Hamdden ar y Cabinet yn ystod cyfnod gwaith yr adroddiad hwn. Edrychaf ymlaen at barhau

â’r un dycnwch gyda gwaith darparu, datblygu a hyrwyddo’r Gymraeg a chydweithio gyda Chomisiynydd newydd y Gymraeg, sef Efa Gruffudd Jones yn y cyfnod nesaf.”