Rhai cymunedau yng ngogledd Sir Gâr yn colli cyflenwad dŵr

628 diwrnod yn ôl

Mae Dŵr Cymru wedi cyhoeddi eu bod yn profi problemau gweithredol ym Mhencader, Llansaint, Cydweli, Meinciau, Cynwyl Elfed, Efailwen, Llansteffan, Llanbedr Pont Steffan, Llandysul a’r cyffiniau ledled Gorllewin Cymru.

Mae Dŵr Cymru wedi sefydlu gorsafoedd i breswylwyr sydd heb gyflenwad dŵr i fynd i gasglu dŵr potel. Mae’r gorsafoedd yma wedi eu lleoli yn:

  • Maes Parcio'r Mart, Castell Newydd Emlyn, SA38 9BA
  • Eglwys Sant Tysul, Llandysul, SA44 4QN

Ceir rhagor o wybodaeth ar wefan Dŵr Cymru: www.dwrcymru.com/

Cliciwch yma am gyngor gan Iechyd Cyhoeddus Cymru