Datganiad ar y dwymyn goch a’r clefyd streptococol ymledol

659 diwrnod yn ôl

Tra bod achosion o haint streptococol grŵp A ymledol (iGAS) yn parhau i fod yn brin yng Nghymru, a bod gan blant risg isel iawn o ddal y clefyd, Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cydweithio’n agos gyda Iechyd Cyhoeddus Cymru i ymateb â chynnydd diweddar yn nifer yr hysbysiadau a gafwyd o’r dwymyn goch a’r clefyd streptococol ymledol.

Plant o dan 10 oed sy’n cael eu heffeithio gan yr haint hwn yn bennaf, ac felly gall achosion ohono ddigwydd mewn ysgolion a meithrinfeydd. Bydd plant hŷn hefyd yn dueddol o gael dolur gwddf streptococol, ond efallai na fyddan nhw’n cael brech y dwymyn goch.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am fwy o wybodaeth am Streptococcus A (strep A), y Dwymyn Goch ac iGAS.

Arwyddion a symptomau’r dwymyn goch

Mae’r dwymyn goch, a elwir weithiau’n scarlatina, yn glefyd heintus sy’n cael ei achosi gan facteria streptococws grŵp A (GAS) (a elwir hefyd yn Streptococcus pyogenes). Mae'n heintus iawn a gellir ei ddal drwy gysylltiad uniongyrchol ag unigolyn sydd wedi’i heintio neu drwy'r aer o ddiferion o beswch neu disian. Symptom nodweddiadol y dwymyn goch yw brech binc fân ar draws y corff sy'n teimlo fel papur gwydrog i’w gyffwrdd. Mae symptomau eraill yn cynnwys tymheredd uchel, wyneb gwritgoch a thafod coch, chwyddedig.

Mae’r driniaeth yn syml ac fel arfer mae’n cynnwys rhoi cwrs o wrthfiotigau penisilin.

Cymhlethdodau’r dwymyn goch a’r haint streptococol

Nid yw'r rhan fwyaf o achosion o’r dwymyn goch yn achosi unrhyw gymhlethdodau, yn enwedig os yw'r cyflwr yn cael ei drin yn iawn. Fodd bynnag, gall cymhlethdodau ddigwydd yn ystod cyfnod cynnar y clefyd, gan gynnwys haint yn y glust, casgliad yn y gwddf, sinwsitis, niwmonia a llid yr ymennydd.

Y camau a argymhellir

  • Dylai rhieni plant sy’n sâl gael cyngor meddygol ar gyfer diagnosis a thriniaeth. Cysylltwch gyda’ch Meddyg Teulu neu GIG 111 Cymru.
  • Dylai person sydd â’r dwymyn goch gadw o’r ysgol am 24 awr ar ôl cychwyn triniaeth wrthfiotig briodol.
  • Gall hylendid dwylo da ac osgoi lledaenu diferion anadlol (fel gyda’r ffliw- "ei ddal, ei daflu, ei ddifa") helpu i atal yr haint rhag lledaenu.

Dim newidiadau i ddysgu yn yr ysgol

Yn unol â chyngor a ddarperir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, bydd dysgu ym mhob ysgol yn Sir Gaerfyrddin yn parhau fel yr arfer. Nid oes angen gwisgo gorchuddion wyneb yn yr ysgol, grwpio disgyblion i glystyrau bach, symud i ddysgu o bell ac ni fydd unrhyw effaith ar gludiant ysgol.

Rydym yn deall eich pryder ar hyn o bryd a hoffem eich sicrhau, er bod iGAS yn ddifrifol, ei fod yn parhau i fod yn anghyffredin. Argymhellwn fod pob rhiant yn parhau i ddilyn y cyngor meddygol ynghylch y dwymyn goch fel yr amlinellir ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.