Cyngor Sir Gâr yn erlyn beirniad sioe'r Kennel Club

626 diwrnod yn ôl

Mae beirniad sioe'r Kennel Club, gynt o'r Hendy, wedi cael ei erlyn gan Gyngor Sir Gâr am fridio cŵn heb drwydded, yn dilyn cais am drwydded lletya cŵn a chathod.

Cafwyd Mr Gareth Lawler, sydd bellach yn byw yn ardal Trefynwy, yn euog yn Llys y Goron Abertawe yn Rhagfyr 2022, yn dilyn archwiliadau yn 2020 pryd datgelwyd bridio 27 torraid yn anghyfreithlon mewn cyfnod o bedair blynedd.

Elw Lawler o'r drosedd oedd £153,000, a'r swm oedd ar gael i'w gymryd oddi arno oedd £78,000. Gorchmynnodd y Llys ddedfryd o 12 mis o garchar os nad oedd y swm yn cael ei dalu o fewn 3 mis. Fe wnaeth y barnwr hefyd roi dirwy o £500 am fridio cŵn heb drwydded gyda 6 mis i dalu, a dedfryd o 14 diwrnod ychwanegol os nad oedd Lawler yn gwneud hynny.

Aethpwyd â'r swm o £78,000 oddi wrth Lawler o dan y Ddeddf Enillion Troseddau.

Yn dilyn cais i adnewyddu trwydded lletya cŵn a ddaeth i ben yn 2019, cynhaliwyd archwiliad lle gwelodd Swyddogion Lles Anifeiliaid fod cŵn Lawler ei hun yn cael eu cadw mewn amodau gwael, ac roedd amheuaeth o fridio cŵn yn anghyfreithlon.

Gwrthodwyd y drwydded i letya a chafwyd gwarant i chwilio'r eiddo. Roedd hyn am fod ei gŵn ei hun yn cael eu cadw mewn amodau anfoddhaol, ac am iddo wrthod mynediad i Swyddogion i fannau lle'r oedd cŵn eraill a chŵn bach yn cael eu cadw, yn ogystal ag achosion eraill o fynd yn groes i'r amodau trwyddedu.

Yn sgil y chwiliad dilynol a'r ymchwiliadau ar-lein, datgelwyd gan Swyddogion y Cyngor fod cŵn bridio a chŵn bach yn cael eu cadw mewn amodau gwael, yn ogystal â thystiolaeth o fridio cŵn heb drwydded ar raddfa fawr. Cafodd 27 torraid eu bridio rhwng 24 Gorffennaf 2016 a 22 Gorffennaf 2020, yr oedd 11 ohonynt wedi cael eu bridio yn y 12 mis diwethaf, er gwaethaf cael gwybod am y rheoliadau bridio cŵn cyfredol ar fwy nag un achlysur.

Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd sydd â chyfrifoldeb dros Safonau Masnach:

"Rwyf am ganmol gwaith y tîm Lles Anifeiliaid a ddatgelodd y bridio cŵn heb drwydded, ynghyd â chŵn yn cael eu cadw mewn amodau annerbyniol, a hynny yn ystod archwiliad sy'n rhan o'r weithdrefn drwyddedu ar gyfer lletya cŵn.

Mae Mr Lawler yn adnabyddus ar y gylchdaith sioeau cŵn, ac wedi beirniadu sawl math o Sbaniel gan gynnwys English Springer Spaniels, Cocker Spaniels a Welsh Springer Spaniels yn sioeau'r Kennel Club, ac mae'r achos hwn yn dangos pa mor bwysig yw trwyddedau lletya a bridio cŵn o ran diogelu lles cŵn.

Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i sicrhau bod bridwyr a'r sawl sy'n lletya cŵn yn Sir Gaerfyrddin yn dilyn y rheolau sydd mewn grym, er mwyn gofalu bod cŵn bridio, eu cŵn bach, a'r rhai sy'n cael eu lletya yn cael eu cadw dan amodau priodol".