Cymorth costau byw ar gael yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid (Hwbs) Sir Gaerfyrddin

632 diwrnod yn ôl

O heddiw, dydd Iau 1 Rhagfyr, bydd canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid (Hwbs) Cyngor Sir Caerfyrddin yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli yn cynnig ystod ehangach o gymorth, cyngor a gwasanaethau i drigolion.

Mae'r gwasanaeth ychwanegol hwn yn deillio o gam gweithredu a gymerwyd mewn digwyddiad cydweithio costau byw a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ddiweddar lle daeth rhanddeiliaid ynghyd i drafod ffyrdd o helpu pobl Sir Gaerfyrddin gyda chostau byw cynyddol.

Bydd tîm y Cyngor o ymgynghorwyr Hwb ar gael bob dydd, ynghyd â swyddogion tai ac ymgynghorwyr cyflogadwyedd, i ddarparu pecynnau cymorth wedi'u teilwra i drigolion, gyda chyngor a chanllawiau ar yr hyn sydd gan ein trigolion yr hawl iddo, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol. Gall ymwelwyr â'r canolfannau Hwb hefyd gael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i'w cefnogi wrth i gostau byw gynyddu.

Y nod hefyd yw gweithio'n agos gyda sefydliadau penodol o'r trydydd sector megis Cyngor ar Bopeth a Gyrfa Cymru i gefnogi'r gwaith hwn a thrwy hefyd fod yn bresennol yn y Canolfannau Hwb i ddarparu hyd yn oed rhagor o gyngor i drigolion.

Bydd cymorth wedi'i dargedu hefyd ar gael ym mhob Hwb, gyda phob diwrnod wedi'i neilltuo i faes gwasanaeth sydd o fwyaf o bwys i drigolion. Bydd swyddogion o wahanol feysydd gwasanaeth y Cyngor wrth law i ateb cwestiynau a chynnig cymorth a chyngor i drigolion mewn angen.

Y gwasanaethau sydd ar gael yn y canolfannau Hwb ar ddiwrnodau penodol yw:

Dydd Llun – Ailgylchu a chyngor am wastraff

Dydd Mawrth – Safonau Masnach

Dydd Mercher – Cyflogadwyedd

Dydd Iau – Tai

Dydd Gwener – Amrywiol wasanaethau

Bydd y wybodaeth a'r cyngor a gynigir ar ddydd Gwener yn wahanol o wythnos i wythnos ac yn cael ei phennu ar sail anghenion y trigolion a ffactorau eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac arweinydd y Cabinet: “Ers mis Ebrill mae ein Hymgynghorwyr Hwb wedi helpu dros 800 o drigolion Sir Gaerfyrddin trwy gynnig cyngor a chymorth ar gael mynediad i amrywiaeth o gynlluniau cymorth gan y cyngor a chan drydydd partïon, gan gynnwys bathodynnau glas ar gyfer parcio i'r anabl, disgowntiau treth gyngor, prydau ysgol a grantiau gwisg ysgol, atgyfeiriadau at gynlluniau cyflogadwyedd a llawer mwy.

“Bydd y dull newydd hwn yn galluogi trigolion i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt am ystod eang o faterion, ar y pwynt cyswllt cyntaf. Mae hyn yn cynnwys help i nodi pa gymorth y mae ganddynt hawl iddo, cwestiynau am gasgliadau ailgylchu, cymorth i'w helpu i gael gwaith a llawer mwy”.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: “Bydd gwella'r ffordd y mae ein canolfannau Hwb yn cefnogi trigolion yn galluogi pawb i gael mynediad at yr help sydd ei angen arnynt yn haws, yn ogystal ag ehangu'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig yn y ffordd hon. O ganlyniad, byddwn yn penodi swyddogion cyllideb bersonol i helpu'r rheiny mewn angen i wella a chynyddu eu gallu ariannol, ac rydym yn rhagweld y bydd hynny o fudd i nifer o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin wrth i gostau byw gynyddu”.

“Rwyf yn croesawu'r gwasanaeth gwell hwn yn nhair prif dref Sir Gaerfyrddin, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod angen y gwasanaethau hyn mewn ardaloedd eraill o'r sir. Ar hyn o bryd rydym yn nodi prosiectau allweddol yn ein hardaloedd gwledig y gallwn eu cefnogi a helpu gyda throsglwyddo gwybodaeth”.

I gael help gan ymgynghorydd Hwb neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i'r dudalen Hawliwch Bopeth ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.