Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yn dathlu rhagoriaeth iechyd a gofal cymdeithasol
638 diwrnod yn ôl
Cynhaliwyd Seremoni Wobrwyo gyntaf Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru yng Nghanolfan Halliwell yng Nghaerfyrddin ar 6 Rhagfyr i ddathlu'r hyn a gyflawnwyd gan staff iechyd a gofal cymdeithasol ar draws Gorllewin Cymru yn y flwyddyn ddiwethaf.
Roedd y seremoni'n gyfle i ddod ynghyd a dangos arloesedd, ymroddiad a rhagoriaeth y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol.
Cyflwynwyd y seremoni gan Judith Hardisty, Cadeirydd y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, a ddywedodd;
"Eleni, mae pandemig Covid-19 wedi parhau i effeithio ar lawer o wasanaethau a staff. Mae'r heriau i staff ar draws iechyd a gofal cymdeithasol wedi bod yn sylweddol wrth iddyn nhw barhau i reoli'r gofynion cynyddol ar wasanaethau ar adeg o ansicrwydd mawr i gymunedau lleol. Fel Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol rydym yn hynod falch o'r staff ym mhob elfen o'r maes iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru, sydd wedi dal ati i fynd yr ail filltir.
"Dyma seremoni wobrwyo gyntaf y Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, ac mae'n rhoi cyfle i ni ddiolch i staff am eu gwaith anhygoel a dathlu eu llwyddiant. Mae'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol yn gweithio ar sail cydweithredu, arloesi, integreiddio a chyd-gynhyrchu. Rwy'n falch iawn bod ein gwobrau yn cydnabod llwyddiannau eithriadol yn y meysydd hyn yn ogystal â chefnogi ein gweithlu."
Daeth dros 60 o gynrychiolwyr i'r seremoni, gan gynnwys y rhai gyrhaeddodd y rownd derfynol, er mwyn rhannu'r pethau gwych roedden nhw wedi eu cyflawni gyda chydweithwyr. Gwahoddwyd enwebiadau gan bawb sy'n rhan o'r sector iechyd a gofal cymdeithasol yng Ngorllewin Cymru, gan gynnwys timau, grwpiau neu sefydliadau yn y cymunedau cyhoeddus, preifat, gwirfoddol neu gydweithredol.
Enillydd y 6 chategori a'r rhai gafodd ganmoliaeth am gyrraedd y rownd derfynol oedd:
- Gwobr trawsnewid drwy arloesedd
Enillydd - Cyfleoedd dydd - Cydlynu Ardal Leol
Canmoliaeth Uchel - Helpu ein Poblogaeth Hŷn i Aros yn Iach Gartref a Camu 'Mlaen
- Gwobr Cefnogi a buddsoddi yn llesiant y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol
Enillydd – Ymyriadau Iechyd a Llesiant y Gweithlu Gofal Cymdeithasol
- Gwobr Gofal Integredig
Enillydd - Gwasanaeth Galluogi a Gofal a Dargedir Integredig
- Gwobr i Dîm
Enillydd - Gweithio drwy'r pandemig COVID-19 - Paul Sartori
Canmoliaeth Uchel - Tîm Cyflogaeth â Chymorth Sir Benfro a Chymorth Ymddygiadol Cadarnhaol, Gwasanaeth Seibiant Tir Einon
- Gwobr Cynnwys Defnyddwyr
Enillydd - Hyrwyddwyr Anableddau Dysgu Cyngor Sir Penfro
Canmoliaeth Uchel - Grŵp Gwella Bywydau Rhanbarthol - Dream Team
- Gwobr am Gyflawniad Eithriadol
Mark Evans, Cyngor Sir Caerfyrddin
Roedd y gwobrau hefyd yn cydnabod ac yn dathlu'r holl staff comisiynu rhanbarthol a oedd wedi cyflawni tystysgrif achrededig lefel 7 mewn comisiynu.
Perfformiodd Côr Cysur (Cradle Choir) nifer o ganeuon yn y digwyddiad, gydag aelodau'r côr yn teithio o Aberdaugleddau a Llandeilo. Cafodd Côr Cysur ei greu gan Opera Cenedlaethol Cymru i annog pobl sy'n byw gyda dementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr i fynychu sesiynau wythnosol am ddim, lle maent yn canu caneuon amrywiol gyda'r nod o fwynhau profiad cadarnhaol gyda'i gilydd trwy gerddoriaeth. Roedd pawb yno wrth eu bodd â chanu a pherfformiad y côr.
Rhoddodd Seremoni Wobrwyo Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gorllewin Cymru 2022 gydnabyddiaeth a chanmoliaeth haeddiannol i'r rhai sy'n gweithio yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, gan gydnabod ar yr un pryd y gwaith rhagorol sydd wedi bod yn digwydd ar draws Gorllewin Cymru.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol;
"Hoffwn longyfarch pawb sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol am eu gwaith gwych yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Fel Cyngor, rydym yn ddiolchgar i holl weithwyr y sector am eu gwaith caled ac rwy'n falch o weld y gwobrau yma'n cydnabod hynny."