Annog pob ysgol yn Sir Gâr i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd 2023

638 diwrnod yn ôl

Mae Eisteddfod yr Urdd, un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, yn dod i Sir Gaerfyrddin ym mis Mai 2023 ac i ddathlu hyn, mae Cyngor Sir Gâr wedi gosod her i bob ysgol yn y sir; cynradd, uwchradd, arbennig, cyfrwng Saesneg a Chymraeg i gystadlu yn yr Eisteddfod. 

Os byddwn yn cyflawni’r her yma, dyma fydd y tro cyntaf i bob ysgol o fewn un sir i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd.

Mae Cyngor Sir Gâr yn arwain partneriaeth fydd yn cefnogi’r ysgolion i gystadlu, yn enwedig yr ysgolion sydd ddim yn gyfarwydd gyda chystadlu yn yr Eisteddfod.  Mae yna bob math o gystadlaethau ar gael; o ganu, adrodd ac actio ar lwyfan, i ddawnsio, celf a chrefft a hyd yn oed gwallt a harddwch.  Mae yna gystadlaethau sy’n agored i bawb a rhai sy’n agored i ddysgwyr Cymraeg yn unig.  Mae Cyngor Sir Gâr eisiau i bob plentyn yn y sir gael y cyfle i gystadlu, gan fagu hyder, dysgu sgiliau newydd a chael hwyl yn Gymraeg. 

Ymhlith y cyrff sydd yn cefnogi’r prosiect mae Menter Iaith Gorllewin Sir Gâr, Menter Dinefwr, Menter Cwm Gwendraeth Elli, Yr Egin, Yr Atom, Cyngor Sir Gâr a Choleg Sir Gâr.

Yn gynharach eleni, cytunodd y Cabinet y Cyngor i gyfrannu £80,000 i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2023, yn ogystal â chymeradwyo cyllideb o £100,000 i dalu am unrhyw gostau uniongyrchol ychwanegol yn gysylltiedig â'r digwyddiad sy'n dathlu'r Gymraeg a diwylliant Cymru.

Er mai dyma fydd yr wythfed tro i Eisteddfod yr Urdd ymweld â Sir Gâr, dyma'r tro cyntaf i Lanymddyfri groesawu'r ŵyl.

Fel un o wyliau teithiol mwyaf Ewrop, caiff ei chynnal dros Ŵyl Banc y Gwanwyn, rhwng 29 Mai a 3 Mehefin. Mae'n denu oddeutu 100,000 o ymwelwyr y flwyddyn ac yn hanesyddol mae'n cyfrannu hyd at £6 miliwn i economi leol y sir sy'n ei chynnal, gyda'r diwydiant lletygarwch yn elwa'n fawr iawn.

Disgwylir y bydd dros 15,000 o blant a phobl ifanc o dan 25 oed yn cystadlu fel rhai sydd wedi cyrraedd rowndiau terfynol yr Eisteddfod.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Rwy’n disgwyl ymlaen yn eiddgar i groesawi Eisteddfod yr Urdd 2023 yn ôl i Sir Gâr. Fe fydd yr Eisteddfod yma yn gyfle arbennig i holl blant ein sir ni i brofi a mwynhau’r hyn sydd yn arbennig am ein diwylliant yng Nghymru.

“Hoffem felly achub ar y cyfle yma i annog holl ysgolion y sir i roi cynnig arni a chystadlu; mae yna lu o wahanol gystadlaethau a fydd yn gweddu at dalentau pob disgybl.

“Mae cymorth ar gael i’r ysgolion hynny sydd ddim yn gyfarwydd â ymgeisio i gystadlu yn Eisteddfod yr Urdd, ac rwy’n annog y rheini i gysylltu gyda’r Cyngor ar yr e-bost iaithgymraeg@sirgar.gov.uk

Ewch i wefan Yr Urdd er mwyn gweld y Rhestr Testunau.