Agor adeilad newydd Archifau Sir Gaerfyrddin yn swyddogol

685 diwrnod yn ôl

Ddydd Llun, 28 Tachwedd, dadorchuddiodd y Cynghorydd Rob Evans, Cadeirydd Cyngor Sir Caerfyrddin, blac wedi'i ddylunio'n arbennig i goffáu agoriad swyddogol adeilad newydd sbon Archifau Sir Gaerfyrddin.

Mynychwyd y digwyddiad gan ddisgyblion Blwyddyn 6 Ysgol y Dderwen, ynghyd â'u Pennaeth Mr Dylan Evans, a ddyluniodd y plac drwy gasglu amrywiaeth o waith celf a brasluniau sy'n cael eu cadw yn yr Archifau.

Wedi’i sefydlu ym 1959, Archifau Sir Gaerfyrddin yw gwasanaeth archifau awdurdod lleol Sir Gaerfyrddin ac mae'r adeilad newydd yn Heol San Pedr, Caerfyrddin.

Mae’r gwasanaeth yn gartref i’n casgliad helaeth o ddogfennau hanesyddol sy’n dyddio o’r 13eg ganrif hyd heddiw. Mae'r casgliad yn cynnwys archifau, mapiau, llyfrau, ffotograffau, fideos a recordiadau sain. Bwriad y gwasanaeth Archifau yw cadw'r dogfennau a sicrhau eu bod ar gael ar gyfer astudiaeth ac ymchwil gyffredinol.

Mae mynediad i Archifau Sir Gaerfyrddin am ddim ac mae ar agor i unrhyw un sy'n dymuno defnyddio archifau'r Cyngor. Mae'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau am ddim, ond rydym yn codi tâl am rai gwasanaethau a chymorth ychwanegol.

Wrth siarad yn ystod y seremoni agoriadol, dywedodd y Cynghorydd Gareth John, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:

"Llongyfarchiadau i ddisgyblion Ysgol y Dderwen. Maent wedi dylunio plac rhagorol a phriodol sydd wedi'i ysbrydoli gan drysorau cudd ein harchifau. Roedd yn braf cael eu croesawu i'r agoriad swyddogol er mwyn iddynt weld eu gwaith yn yr adeilad sy'n bwysig iawn i ni yn Sir Gaerfyrddin.

“Dyma adeilad newydd sbon a modern sy'n addas i gadw a diogelu dogfennau hanesyddol mwyaf gwerthfawr ein sir. 

“Ond wrth gwrs, mae'r dogfennau hyn i fod i gael eu gweld a'u hastudio gan blant ysgol, myfyrwyr, academyddion ac unrhyw un sydd â diddordeb yn hanes cyfoethog Sir Gaerfyrddin; a'r cyfleuster ardderchog hwn yw'r man perffaith i bobl ddod i weld y trysorau hyn."