Adeilad newydd Ysgol Gorslas wedi'i agor yn swyddogol

673 diwrnod yn ôl

Ddydd Mercher, 14 Rhagfyr, cafodd adeilad newydd sbon Ysgol Gorslas ei agor yn swyddogol gan Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Darren Price.

Mae adeilad newydd yr ysgol wedi ei leoli amgylchedd sy'n wledd i'r llygaid ym Mharc Gorslas ac mae ganddo gapasiti i groesawu a darparu addysg cyfrwng Cymraeg i 210 o ddisgyblion, rhwng 4 ac 11 oed.

Bydd disgyblion, staff a'r gymuned ehangach yn mwynhau'r cyfleusterau o'r radd flaenaf yn yr adeilad newydd, sy'n cynnwys maes parcio, cae chwaraeon a Maes Chwarae Amlddefnydd.

Darparwyd y cyfleuster newydd sbon hwn ar gost o £6.8 miliwn ac fe'i cyllidwyd ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, drwy ei Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu, a chan Raglen Cymunedau Cynaliadwy ar gyfer Dysgu Cyngor Sir Caerfyrddin.

Trefnwyd y gwaith o adeiladu'r ysgol newydd gan Lloyd & Gravell Ltd.

Mae Ysgol Gorslas wedi meddiannu'r adeilad newydd ers dechrau'r flwyddyn ysgol newydd, ar 7 Medi 2022.

Dywedodd Gareth Morgans, Cyfarwyddwr Adran Addysg a Gwasanaethau Plant Cyngor Sir Caerfyrddin: “Roedd angen amlwg am adeilad newydd i Ysgol Gorslas, roedd yr heriau i'r disgyblion a'r staff yn amlwg bob tro roeddwn i'n ymweld â'r hen adeilad.

“Fodd bynnag, mae'r adeilad newydd sbon hwn yn anhygoel. Mae'n lle bendigedig i'n staff ac i'n dysgwyr gael profiad gwych.

“Agwedd bwysig arall ar ddarparu'r adeilad ysgol newydd hwn yw'r elfen gymunedol. Mae'r adeilad ar gyfer y gymuned, ac rwy'n siŵr y bydd y gymuned yn elwa ar ddefnyddio'r adeilad a'r maes chwarae ar ôl oriau ysgol.

“Hoffwn ddiolch hefyd i Gyngor Sir Caerfyrddin am ei fuddsoddiad, mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, yn y prosiect hwn.”

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Gymraeg, y Cynghorydd Glynog Davies: “Mae'r datblygiad newydd hwn yn adnodd gwych i'r gymuned gyfan. Bydd pentref Gorslas a'r gymdogaeth yn elwa ar yr adeilad hwn.

“Roedden nhw'n haeddu ysgol newydd sy'n addas i'r 21ain ganrif, a galla i ddweud wrthych chi y bydd pawb yn hapus yn yr amgylchedd newydd yma.”