Cau Dros Dro Ffordd yr A4069, Heol Aman ym Mrynamman ar gyfer Gwaith Atgyweirio Hanfodol

30 diwrnod yn ôl

Mae'r Awdurdod Glo, mewn cydweithrediad â Chyngor Castell-nedd Port Talbot, wedi cyhoeddi'r bwriad i gau dros dro ffordd yr A4069, Heol Aman ym Mrynamman Isaf. Mae hyn yn angenrheidiol er mwyn sefydlogi'r ddaear wedi i'r tir gwympo'n ddiweddar.

Ar 18 Ionawr cafodd yr Awdurdod Glo wybod am gwymp tir sylweddol ger yr A4069, Heol Aman ym Mrynamman Isaf. Cymerwyd camau ar unwaith i ddiogelu'r ardal, gan arwain at gau'r ffordd yn rhannol i hwyluso ymchwiliadau manwl i'r tir. Oddi ar hynny mae'r ymchwiliadau hyn wedi cadarnhau mai achos y cwymp oedd hen weithfeydd glo o dan yr wyneb.

Roedd yr ymateb cychwynnol yn cynnwys rhoi cerrig i sefydlogi'r tir a oedd wedi cwympo i'w atal rhag ymsuddo ymhellach. Yn dilyn hyn mae'r Awdurdod Glo wedi cynllunio ateb parhaol i fynd i'r afael yn llawn â'r materion gwaelodol a sicrhau diogelwch a sefydlogrwydd hirdymor y ffordd.

Er mwyn gwneud y gwaith hwn bydd rhaid cau'r ffordd. Bydd y ffordd yn cau ar 2 Ebrill a bydd yn aros ar gau am gyfnod o dair wythnos. Yn ystod y cyfnod hwn bydd gwaith atgyweirio mawr yn cael ei wneud i ddatrys yn barhaol y problemau a achoswyd gan yr hen weithfeydd glo. Bydd y ffordd ar gau yn llwyr i bob traffig er mwyn hwyluso'r gwaith angenrheidiol yn ddiogel ac yn effeithlon.

Bydd y trefniadau cludiant ar gyfer dysgwyr sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin ac sy'n mynychu Ysgol Gyfun Ystalyfera yn parhau heb newid, fel y cadarnhawyd gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot. Fodd bynnag, bydd yr amserlenni cludiant yn newid ar gyfer dysgwyr o ardal Castell-nedd Port Talbot ym Mrynamman Isaf, gyda chludiant yn dechrau'n gynharach ac yn cyrraedd adref yn hwyrach oherwydd bod angen dargyfeirio rhwng Brynamman Uchaf ac Isaf trwy Bontardawe.

I gael y newyddion diweddaraf a rhagor o wybodaeth am gau'r ffordd a'r gwaith a fydd yn cael ei wneud, anogir trigolion a chymudwyr i ymweld â gwefan Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn: Gwaith ar y Ffordd a Cau Ffyrdd - Cyngor Castell-nedd Port Talbot. Yn ogystal, gall pobl fynd i wefan Traveline.Cymru neu ffonio 0800 464 0000 i gael rhagor o wybodaeth.

Ymhellach, mae'r Awdurdod Glo yn lansio gwefan gymunedol i weithredu fel platfform canolog ar gyfer rhannu diweddariadau amserol yn ystod y gwaith hanfodol o sefydlogi'r tir.