Digwyddiadau a Dyddiadau Codi Ymwybyddiaeth

1 diwrnod yn ôl

Gloweek Ymddiriedolaeth Anafiadau i'r Ymennydd mewn Plant

20-26 Hydref yw Gloweek blynyddol yr Ymddiriedolaeth Anafiadau i'r Ymennydd mewn Plant. I godi ymwybyddiaeth o'r achos hwn, byddwn ni’n ymuno â nifer o adeiladau adnabyddus eraill ledled y DU drwy oleuo Neuadd y Sir yn borffor gyda'r hwyr ar 24 Hydref. I gael rhagor o wybodaeth am waith yr Ymddiriedolaeth a sut y gallwch chi gymryd rhan, ewch i'w gwefan.

Diwrnod Ymwybyddiaeth o Syndrom Tachycardia Ystumiol

I nodi Diwrnod Ymwybyddiaeth o Syndrom Tachycardia Ystumiol (PoTS), bydd Neuadd y Sir yn cael ei goleuo'n borffor nos Sadwrn, 25 Hydref. Mae PoTS yn gyflwr sy'n ymwneud â gweithrediad y system nerfol awtonomig (anrheoledig) ac mae'n effeithio ar filoedd o bobl ledled y DU ar hyn o bryd. I gael rhagor o wybodaeth am PoTS a sut mae'r symptomau yn gallu cael eu rheoli, ewch i wefan PoTS.