Erthyglau ynghylch Coronafeirws
Rhybudd Haen 4: Cyfyngiadau Symud o hanner nos 19 Rhagfyr
Effeithir ar wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin yn ystod y cyfnod hwn. Ni fyddwn yn diweddaru ein gwefan gyfan. Ewch i'r dudalen Newyddion i gael gwybodaeth am yr hyn sydd ar agor, ar gau neu lle mae cyfyngiadau ar waith.
Rydym yma i'ch cefnogi chi, eich cymuned, neu eich busnes. Byddwn yn parhau i ddiweddaru'r dudalen Newyddion gyda'r cyngor diweddaraf, gwybodaeth leol a chyfleoedd ariannu. Gallwch hefyd ein dilyn ar Facebook a Twitter.
Mae gan wefan Llywodraeth Cymru wybodaeth am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud.
Mae'n rhaid i ni gyd weithio gyda'n gilydd i Ddiogelu Sir Gâr ac atal lledaeniad Covid-19 yn ein cymunedau.
Arhoswch gartref - cadwch yn ddiogel.
Gwybodaeth am Covid-19
Mae Cymru gyfan ar lefel rhybudd 4, ac mae hyn yn golygu: rhaid i bobl aros gartref, ac eithrio at ddibenion cyfyngedig iawn ni chaiff pobl ymweld ag aelwydydd eraill, na chwrdd â phobl eraill nad ydynt yn byw gyda nhw rhaid i nifer o fathau o fusnesau gau Ar bob lefel, mae gorchuddion wyneb ...
1 diwrnod yn ôl
Brechiadau
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i gefnogi Hywel Dda a Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r rhaglen frechu. Bellach mae brechiadau yn mynd rhagddynt yn dda ac yn parhau i gael eu blaenoriaethu ar sail y risg o ddod i gysylltiad â Covid-19, yn unol â grwpiau blaenoriaeth cenedlaethol. Wrth i’r brechl ...
6 diwrnod yn ôl
Apêl gan staff rheng flaen ynghylch achosion Covid-19
Mae tîm olrhain cysylltiadau Cyngor Sir Caerfyrddin yn annog pobl i ymdrechu i atal Covid-19 rhag lledaenu. Mae llawer o staff y cyngor, gan gynnwys y rhai o'r ganolfan gyswllt, timau tai, hamdden, cynllunio a'r amgylchedd wedi gadael eu swyddi arferol i weithio ar y rheng flaen i helpu i frwydro ...
7 diwrnod yn ôl
Ar agor / Ar gau / Cyfyngiadau
Mae Cymru gyfan ar lefel rhybudd 4, mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am sut yr effeithir ar wasanaethau yn Sir Gaerfyrddin ac yn rhoi dolenni i gyngor ychwanegol. Mae gwybodaeth ar wefan Llywodraeth Cymru am yr hyn y gallwch ac na allwch ei wneud yn ystod lefel Rhybudd 4. Gyda'n gilydd gallwn ...
13 diwrnod yn ôl
Diweddariad: Ysgolion
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd ysgolion yn parhau i ddysgu ar-lein tan 18 Ionawr. Mae'r penderfyniad hwn wedi'i wneud o ganlyniad i gyngor meddygol a gwyddonol, a'r nifer cynyddol o achosion newydd sy'n rhoi pwysau sylweddol ar y gwasanaeth iechyd. Er bod ysgolion yn amgylchedd diogel ...
14 diwrnod yn ôl
Covid-19 yn rhoi pwysau ar wasanaethau gofal cymdeithasol
Mae pwysau sylweddol ar wasanaethau gofal cymdeithasol yn Sir Gaerfyrddin yn sgil Covid-19. Mae cartrefi gofal preifat a chartrefi gofal y cyngor ar draws y sir yn brwydro yn erbyn effaith y feirws ar bobl sy'n agored i niwed y mae angen gofal arnynt, gyda gweithlu llai wrth i nifer fawr o ofalwyr ...
15 diwrnod yn ôl
Cymorth ychwanegol ar-lein o ran Profi, Olrhain a Diogelu
Mae system ar-lein wedi'i rhoi ar waith yn Sir Gaerfyrddin i gefnogi'r broses Profi, Olrhain a Diogelu. Erbyn hyn, gall pobl sydd wedi cael prawf positif am COVID-19 ddewis rhoi eu manylion ar e-ffurflen a anfonir drwy neges destun. Bydd y neges destun yn ymddangos fel NHSWALWALESTTP a bydd yn dar ...
16 diwrnod yn ôl
Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i weithiwr gofal y Cyngor
Mae un o weithwyr gofal Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei chydnabod yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd y Frenhines am ei gwasanaethau i iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod pandemig Covid-19. Mae Lisa Randell, sef gweithiwr cymorth yng Nghartref Preswyl Llys y Bryn yn Llanelli, wedi derbyn M ...
20 diwrnod yn ôl
Y Gronfa i fusnesau dan Gyfyngiadau symud
Mae Llywodraeth Cymru wedi lansio’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau Symud i gefnogi busnesau ac unig fasnachwyr sydd wedi cael eu heffeithio yn uniongyrchol gan y cyfyngiadau ychwanegol o roddwyd ar waith i reoli lledaeniad COVID-19 gan ddechrau ddydd Gwener 4 Rhagfyr. Pwrpas y grant yw i gefnogi ...
31 diwrnod yn ôl
Trefniadau ailagor ysgolion ym mis Ionawr 2021
Yn anffodus, mae'r sefyllfa bresennol o ran trosglwyddiad Covid-19 ledled Cymru yn ei gwneud yn anodd iawn rhagweld yr effaith y bydd yn ei chael ar lefelau staffio yn ein hysgolion yn dilyn gwyliau'r Nadolig. Ein blaenoriaeth yw lleihau tarfu ar addysg ein plant a'n pobl ifanc gymaint â phosibl. F ...
33 diwrnod yn ôl
Cartref gofal y Cyngor yn cael brechlyn Covid-19 cyntaf
Cartref gofal preswyl y cyngor yn Sir Gaerfyrddin yw'r cyntaf yng Ngorllewin Cymru i gael brechlyn Covid-19. Cafodd preswylwyr Awel Tywi yn Llandeilo eu rownd gyntaf o frechlyn Pfizer-Biontech fel rhan o'r broses o'i gyflwyno mewn cartrefi gofal yn gynharach heddiw. Un o'r 37 o breswylwyr y cartre ...
34 diwrnod yn ôl
Rhaid canslo neu ohirio digwyddiadau Nadolig cymunedol
Mae ymgynghorwyr diogelwch Sir Gaerfyrddin wedi rhybuddio y gallai unrhyw ddigwyddiadau Nadolig sy’n cynnwys hyd yn oed niferoedd bach o bobl gael effaith ddifrifol ar iechyd y cyhoedd wrth i achosion Covid-19 barhau i godi yn yr ardal. Mae Grŵp Cynghori ar Ddiogelwch Digwyddiadau (ESAG) y sir wedi ...
34 diwrnod yn ôl
Ystyried hunanynysu cyn y Nadolig wrth i Covid-19 ledaenu
Gofynnir i bobl yn Sir Gâr ystyried hunanynysu i ddiogelu eu teuluoedd erbyn y Nadolig, gan fod cynnydd sydyn arall yn yr achosion o Covid-19 yn ein cymunedau. Mae tîm Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweld cynnydd enfawr yn y galw oherwydd bod y feirws yn lledaenu mor gyfl ...
36 diwrnod yn ôl
Arweinwyr Cynghorau yn caniatáu i ysgolion ddysgu o bell
Mae arweinwyr Cyngor Sir Caerfyrddin, Cyngor Sir Penfro a Chyngor Sir Ceredigion yn caniatáu i ysgolion ledled y rhanbarth symud i'r drefn o ddysgu o bell yn y cyfnod cyn y Nadolig. Daw hyn yn dilyn cyfarfod rhwng Cymdeithas y Cyfarwyddwyr Addysg a'r Gweinidog Addysg, Kirsty Williams, y prynhawn ym ...
37 diwrnod yn ôl
Covid-19 yn uwch nag erioed yn Sir Gâr a dal i gynyddu
Mae Covid-19 bellach yn lledaenu'n gyflym yn Sir Gâr wrth i'r gyfradd heintio gynyddu bob dydd. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn cyhoeddi apêl frys, gan ofyn i bobl gyfyngu ar eu cysylltiadau â phobl eraill mewn ymdrech i atal lledaeniad y feirws. Mae'r gyfradd achosion positif yn Sir Gâr dros 360 fe ...
40 diwrnod yn ôl
Profi, Olrhain, Diogelu
Mae'r gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu GIG Cymru bellach yn mynd rhagddo ar draws Sir Gaerfyrddin i olrhain y firws a bydd yn diogelu ein cymunedau ymhellach. Byddent yn cysylltu ag unrhyw un sydd wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd â COVID-19 a gofyn iddynt hunan ynysu am hyd at 10 diwrnod, ...
42 diwrnod yn ôl
Grantiau a thaliadau - COVID-19
Mewn ymateb i’r argyfwng COVID-19, mae nifer o gynlluniau wedi cael eu lansio i roi cymorth ariannol i helpu elusennau a grwpiau cymunedol / gwirfoddol i barhau i ddarparu gwasanaethau a chymorth y mae mawr angen amdano yn eu cymunedau. Os yw'r pandemig wedi effeithio arnoch yn ariannol, mae nifer ...
47 diwrnod yn ôl
Galw ar bobl i gofio'r pethau sylfaenol a pharchu'r rheolau
Mae achosion o Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin yn parhau i gynyddu, tuedd sy'n peri pryder cyn y Nadolig. Ar y diwrnod y daw cyfyngiadau cenedlaethol newydd i rym ledled Cymru, mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i bawb wneud mwy o ymdrech i leihau nifer yr achosion o Covid-19 a helpu gwasanaethau i y ...
47 diwrnod yn ôl
Cau a dirwyo tafarndai am dorri rheolau Covid-19
Mae dau safle trwyddedig yn Sir Gaerfyrddin wedi cael dirwy o £1,000 am aros ar agor y tu hwnt i'r amser cau presennol, sef 10.20pm. Rhoddwyd yr hysbysiadau cosb benodedig i weithredwyr y Coopers Arms yn y Betws a Chlwb Rygbi'r Betws am dorri'r rheoliadau Covid-19 presennol. Mae swyddogion Cyngor ...
50 diwrnod yn ôl
Mae angen eich help arnom i reoli Covid-19
Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu, ond mae angen i chi ein helpu - dyna'r neges gan arweinwyr awdurdodau yn Sir Gaerfyrddin wrth i achosion Covid-19 fod yn fwy nag erioed. Yr wythnos hon, mae cyfradd yr haint yn Sir Gaerfyrddin wedi codi'n uwch na chyfartaledd cenedlaethol Cymru - erbyn hyn m ...
54 diwrnod yn ôl
Ysgolion yng Ngogledd Sir Gaerfyrddin
Ar ôl i rai ysgolion yng Ngheredigion a Sir Benfro gau, hoffem gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i gau ein hysgolion yn yr ardal hon. Hoffem roi sicrwydd i rieni nad oes unrhyw faterion sy'n peri pryder ar hyn o bryd yn unrhyw un o'n hysgolion yn yr ardal hon. Fodd bynnag, byddwn yn ...
59 diwrnod yn ôl
Peidiwch â rhoi teuluoedd a ffrindiau mewn perygl o Covid-19
Rydym yn rhoi'r bobl rydym yn eu caru fwyaf yn y perygl mwyaf drwy dorri'r rheolau a lledaenu'r feirws - dyna'r neges glir wrth i achosion Covid-19 gynyddu yn Sir Gaerfyrddin. Bellach mae gan y sir y nifer uchaf o achosion positif ers i'r pandemig ddechrau ac mae'r gyfradd ddyddiol o ran yr haint b ...
61 diwrnod yn ôl
Nodyn atgoffa am reolau i'r diwydiant lletygarwch
Mae Cyngor Sir Gâr yn parhau i helpu'r diwydiant lletygarwch lleol i weithredu'n ddiogel yn ystod pandemig Covid-19. Ymwelir â safleoedd trwyddedig a busnesau eraill i ofalu bod rheoliadau'r Coronafeirws yn cael eu dilyn, er mwyn sicrhau amgylchedd diogel i gwsmeriaid a staff. Diwygiwyd rheoliadau ...
61 diwrnod yn ôl
Rhowch eich barn am newidiadau dros dro i ganol trefi
Gofynnir i bobl a busnesau am eu hadborth ar newidiadau a wnaed yn nhair prif dref Sir Gaerfyrddin fel rhan o fesurau diogelwch Covid-19. Roedd y newidiadau hyn yn cynnwys cyflwyno ardaloedd i gerddwyr yn unig yn Llanelli a Chaerfyrddin i annog pobl i ddychwelyd i'n trefi'n ddiogel ar ôl i'r cyfyng ...
63 diwrnod yn ôl
Taliadau Cymorth Hunanynysu
Os cysylltwyd â chi gan wasanaeth Profi, Olrhain, Diogelu GIG Cymru, (POD) a chael gwybod bod rhaid hunanynysu, efallai bod gyda chi hawl i Gymorth Ariannol. Os byddwch yn bodloni’r holl feini prawf cymhwysedd, mae gennych hawl i Daliad Hunanynysu o £500: Dywedwyd wrthych i hunanynysu gan Profi, ...
66 diwrnod yn ôl
Gadewch i ni i gyd wneud ein rhan i leihau achosion ymhellac
Mae achosion coronafeirws yn Sir Gaerfyrddin yn dechrau gostwng, gan ddangos arwyddion addawol bod y cyfnod atal wedi cael yr effaith gywir. Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi croesawu'r newyddion calonogol ond mae'n annog pawb i fod ar eu gwyliadwriaeth a pharhau i gyfyngu ar eu cysylltiadau i helpu' ...
68 diwrnod yn ôl
Datganiad: Arholiadau TGAU / Safon Uwch 2021
"Rydym yn croesawu penderfyniad Kirsty Williams, y Gweinidog Addysg, na fydd arholiadau diwedd blwyddyn ar gyfer cymwysterau TGAU, Safon UG a Safon Uwch yn 2021. "Bydd hyn yn codi'r pwysau oddi ar ddysgwyr ac athrawon yn dilyn cyfnod hynod anodd a thrafferthus. Gwyddom fod ein myfyrwyr wedi bod yn ...
71 diwrnod yn ôl
Cymorth cymunedol
Ledled Sir Gaerfyrddin, mae cymunedau a busnesau wedi dod ynghyd i helpu lle bynnag y gallant gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Os hoffech ychwanegu eich busnes/grŵp at y dudalen hon, anfonwch e-bost i covid19community@sirgar.gov.uk gydag enw eich busnes/grŵp, disgrifiad byr o'r hyn rydych ...
73 diwrnod yn ôl
Ein dyletswydd ni yw gwneud gwahaniaeth
Mae set newydd o reoliadau Covid-19 cenedlaethol yn dod i rym ddydd Llun, a gofynnir i bobl yn Sir Gaerfyrddin feddwl beth gallant ei wneud i helpu i atal lledaeniad y feirws. Er bod nifer yr achosion yn y sir yn dal i godi, gobaith Cyngor Sir Caerfyrddin yw y bydd pobl yn gwneud gwahaniaeth drwy b ...
75 diwrnod yn ôl
Aros gartref i fyfyrio a chofio
Bydd cyfyngiadau Covid-19 yn golygu y bydd gwasanaethau Coffa eleni ychydig yn wahanol, ond bydd pobl yn gallu cofio a rhoi diolch o hyd. Bu'n rhaid i drefi a phentrefi ledled Sir Gaerfyrddin gynllunio seremonïau'n ofalus yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, sy'n golygu y bydd cyfyngiadau ar un ...
77 diwrnod yn ôl
Cynnal Carnifal Nadolig Llanelli ar-lein
Mae paratoadau ar waith i gynnal Carnifal Nadolig rhithwir cyntaf erioed Llanelli. Bydd y carnifal, sy'n cael ei gynnal ers 42 o flynyddoedd, yn mynd ar-lein am y tro cyntaf oherwydd pandemig Covid-19 ac yn unol â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru a phryderon cynyddol ynghylch lledaeniad coro ...
86 diwrnod yn ôl
Taliadau prydau ysgol am ddim
Os yw eich plentyn yn gymwys i dderbyn Prydau Ysgol am Ddim, byddwch yn derbyn taliad o £19.50 y plentyn yr wythnos yn ystod y canlynol: Gwyliau ysgol Os caiff eich plentyn gyfarwyddyd gan Lywodraeth Cymru i aros gartref am gyfnodau heblaw gwyliau ysgol Os caiff eich plentyn gyfarwyddyd i hunan ...
87 diwrnod yn ôl
Hwb ariannol i glybiau chwaraeon Sir Gaerfyrddin
Mae Clybiau Chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin wedi cael hwb ariannol i helpu i ddiogelu eu chwaraeon yn ystod y pandemig Coronafeirws. Mae bron £62,000 eisoes wedi'i ddyrannu i glybiau yn y sir sydd wedi bod yn cael trafferthion ariannol yn ystod y cyfyngiadau symud ac i'w helpu i baratoi ar gyfer ailag ...
87 diwrnod yn ôl
Gweithio gyda'n gilydd yn ystod y cyfnod atal
Mae pobl yn Sir Gaerfyrddin yn cael eu hannog i weithio gyda'i gilydd i sicrhau bod y cyfnod atal yn torri cadwyn heintiau Covid-19. Wrth i gyfyngiadau cenedlaethol gael eu cyflwyno am bythefnos, dywedodd Cyngor Sir Gaerfyrddin fod y cyfyngiadau a roddwyd ar waith yn Llanelli yn profi bod pobl yn g ...
90 diwrnod yn ôl
Cyfnod atal Covid-19
Heddiw, mae'r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd cyfres newydd o fesurau 'cyfnod atal' (fire-break) yn dod i rym am 6pm ddydd Gwener (23 Hydref) i geisio rheoli lledaeniad Covid-19. Bydd hyn yn golygu y bydd nifer o gyfyngiadau yn dychwelyd, a fydd yn effeithio ar rai o'n gwasanaethau. Rydym wrthi ...
94 diwrnod yn ôl
Cynnydd pryderus mewn achosion Covid-19 yn Sir Gaerfyrddin
Mae'r parth diogelu iechyd sy'n cwmpasu rhan fawr o Lanelli yn gweithio'n dda ac yn helpu i leihau nifer yr achosion positif o Covid-19; fodd bynnag, mae pryderon yn cynyddu ynghylch lledaeniad Covid-19 mewn mannau eraill yn Sir Gaerfyrddin. Rhoddir diolch i'r bobl sy'n byw yn y parth am eu hymdrec ...
97 diwrnod yn ôl
Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i un o reolwyr gofal y Cyngor
Mae un o reolwyr gofal preswyl Cyngor Sir Caerfyrddin wedi cael ei chydnabod yn Rhestr Anrhydeddau Pen-blwydd y Frenhines am ei gwasanaethau i ofal yn ystod pandemig Covid-19. Dyfarnwyd Medal yr Ymerodraeth Brydeinig i'r weithwraig reng flaen Lyndsay McNicholl, ar ôl i'r Frenhines gynnig cydnabyddi ...
97 diwrnod yn ôl
Mae risg i Sir Gâr - cadwch at y rheolau
Mae pobl sy'n byw yn Sir Gâr yn cael eu hannog i ddilyn rheolau Covid-19 er mwyn helpu i stopio'r feirws rhag lledaenu. Mae'r modd mae'r feirws yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned yn achos pryder gwirioneddol, ac er taw dim ond mewn un rhan o'r sir mae cyfyngiadau symud ar waith, atgoffir pobl fod ...
98 diwrnod yn ôl
Cyfyngiadau Llanelli yn helpu i reoli achosion uchel o Covid
Mae pobl Llanelli yn helpu i reoli cyfradd yr heintiau Covid-19 yn yr ardal, ond mae angen gwneud mwy cyn y gellir codi'r cyfyngiadau. Mae nifer yr achosion positif yn yr 'ardal diogelu iechyd' yn dal i fod deirgwaith yn uwch na rhannau eraill o'r sir, ond mae'n ymddangos bod y camau y mae preswylw ...
104 diwrnod yn ôl
Lansio dosbarthiadau ffitrwydd ffrydio byw
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi lansio ei gwasanaeth cyntaf yn ffrydio dosbarthiadau ffitrwydd yn fyw. Mae Actif Unrhyw Le yn cynnig dosbarthiadau ffitrwydd amser real i chi y gallwch eu gwneud yn unrhyw le, trwy ddefnyddio'ch ffôn, llechen, neu liniadur. Mae'r dosbarthiadau, a gaiff eu darparu ga ...
104 diwrnod yn ôl
Cymorth Arloesedd COVID-19 ar gyfer busnesau gweithgynhyrchu
Mae sicrhau bod eich busnes yn ddiogel ac yn cydymffurfio o ran COVID-19, ar yr un pryd ag aros yn gynhyrchiol ac yn broffidiol, yn gallu teimlo fel her enfawr. Ond mae help ar gael, yn rhad ac am ddim i fusnesau gweithgynhyrchu yng Nghymru, trwy’r rhaglen Arloesedd SMART a ariennir gan Gronfa Datbl ...
106 diwrnod yn ôl
Arweinydd y Cyngor yn diolch i drigolion Llanelli
Mae diolch yn cael ei roi i drigolion Llanelli am eu holl ymdrechion i helpu i reoli lledaeniad Covid-19 – bron i wythnos ers i'r cyfyngiadau lleol newydd gael eu cyflwyno. Mae rhan helaeth o Lanelli wedi'i dynodi yn 'ardal diogelu iechyd' yn dilyn cynnydd sylweddol mewn achosion Covid-19 yn yr ard ...
110 diwrnod yn ôl
Canllawiau ar orchuddion wyneb yn adeiladau'r Cyngor
O Fedi 14, 2020, mae'n ofyniad cyfreithiol i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do yn ogystal ag ar drafnidiaeth gyhoeddus. Mae'n rhaid i bawb dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau dan do cyhoeddus, oni bai eu bod wedi'u heithrio neu fod ganddynt esgus rhesymol dros beidio â gw ...
127 diwrnod yn ôl
Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn paratoi i ailagor
Mae llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin yn paratoi i groesawu ymwelwyr yn ôl yn dilyn llacio cyfyngiadau Covid-19. Bydd llyfrgelloedd Llanelli, Caerfyrddin, Rhydaman a llyfrgelloedd cymunedol ym Mhorth Tywyn, Llandeilo a Llwynhendy yn ailagor ddydd Llun ar ôl misoedd o fod ar gau mewn ymateb i'r coronafe ...
140 diwrnod yn ôl
Rhybudd i landlord ar ôl gweini cwrw yn ystod y cyfyngiadau
Mae landlord tafarn yn Sanclêr a gafodd ei ddal yn gweini alcohol ddwywaith mewn un diwrnod yn ystod y cyfyngiadau symud wedi cael rhybudd gan bwyllgor trwyddedu Cyngor Sir Caerfyrddin a'i roi o dan lu o amodau caeth. Dywedwyd wrth y pwyllgor trwyddedu fod Richard Pearce, landlord y Santa Clara, we ...
153 diwrnod yn ôl
Gwella mynediad ar gyfer cerdded a beicio yn Sir Gaerfyrddin
Gofynnir am farn trigolion ynghylch gwella mynediad ar gyfer cerdded a beicio yn Sir Gaerfyrddin. O ddydd Llun bydd pobl yn gallu gwneud awgrymiadau ynglŷn â Rhwydwaith Teithio Llesol Sir Gaerfyrddin drwy ymgynghoriad ar fap ar-lein. Bydd y map yn helpu i nodi cyfleoedd i ehangu a gwellau'r rhwydw ...
230 diwrnod yn ôl
Gwirfoddoli - Coronafeirws (COVID-19)
Ledled Sir Gaerfyrddin, mae cymunedau a busnesau wedi dod ynghyd i helpu lle bynnag y gallant gynnig cefnogaeth ymarferol ac emosiynol. Fodd bynnag, bellach dim ond mewn rhai amgylchiadau y caniateir gwirfoddoli lle mae'n rhaid mynd tu allan i'r tŷ. Os ydych yn iach a heb fod mewn perygl o'r corona ...
294 diwrnod yn ôl
COVID-19 - y Cyngor yn gweithredu cynlluniau wrth gefn
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn paratoi ac yn gweithredu ymateb cynhwysfawr i'r coronafeirws (COVID-19) i atal a chyfyngu lledaeniad yr achosion cymaint ag y bo modd. Mae grŵp gorchymyn tactegol, sy'n dod ynghyd â thîm arweinyddiaeth y Cyngor, yn rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith ac yn cymryd mesura ...
313 diwrnod yn ôl