Y Cyngor yn dangos cefnogaeth i Bythefnos Gofal Maeth
2 diwrnod yn ôl
Bydd Neuadd y Sir yn cael ei goleuo'n borffor ar nos Sul, 24 Mai i nodi diwedd Pythefnos Gofal Maeth, a ddechreuodd ddydd Llun, 11 Mai, ac i ddangos gwerthfawrogiad i ofalwyr maeth ledled Sir Gaerfyrddin.
Drwy gydol y pythefnos, mae tîm Maeth Cymru Sir Gâr wedi bod yn brysur yn mynychu digwyddiadau gwybodaeth ledled y sir, cwrdd â phobl leol, rhannu straeon go iawn a thynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i ofalwyr maeth. Hefyd, bu'r tîm yn cynnal digwyddiadau ar gyfer gofalwyr maeth lleol, gan gynnwys un o'u grwpiau cymorth rheolaidd a thaith gerdded llesiant ar hyd llwybr yr arfordir.
Hefyd, cymerodd plant a phobl ifanc o deuluoedd maeth lleol ran yng nghystadleuaeth gelf y Rhwydwaith Maethu. Rydyn ni'n falch iawn o'u creadigrwydd a'r straeon maen nhw'n eu rhannu trwy eu gwaith celf.

Crëwyd un o'r darnau gan Roxy, 7 oed. Mae Roxy yn ddieiriau ac mae ganddi anghenion cymhleth ac mae'n defnyddio symbolau i gefnogi ei chyfathrebu – ac mae ei gwaith celf yn ailadrodd hyn yn hyfryd.
Hoffen ni ddiolch i bartneriaid am rannu'r neges a chefnogi maethu drwy gydol y flwyddyn. O fynediad gostyngol neu am ddim a gweithgareddau, i rannu digwyddiadau a chodi ymwybyddiaeth, mae eich cefnogaeth yn helpu teuluoedd maeth i deimlo eu bod yn cael eu croesawu, eu gwerthfawrogi a'u cynnwys yn eu cymunedau.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol i Oedolion a Phlant a Theuluoedd:
Mae wedi bod yn hyfryd gweld creadigrwydd plant a phobl ifanc o'n teuluoedd maeth. Hoffen ni ddiolch i ofalwyr maeth am eu hannog a'u cefnogi i gymryd rhan, a diolch i'r sefydliadau sy'n parhau i gefnogi maethu ledled Sir Gaerfyrddin."
I'r rheiny sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am faethu, mae tîm Maethu Cymru Sir Gâr yn cynnal digwyddiadau gwybodaeth rheolaidd ledled y sir, gan gynnwys sesiynau a fydd yn cael eu cynnal yn:
- Canolfan Gwlyptir Llanelli: Dydd Gwener, 29 Mai 10am i 1pm
- Hwb Llanelli: Dydd Mawrth, 2 Mehefin 10am i 2pm
- Hwb Caerfyrddin: Dydd Mawrth, 9 Mehefin 10am i 2pm
- Hwb Rhydaman: Dydd Mawrth, 16 Mehefin 10am i 2pm
I weld dyddiadau a lleoliadau pellach, ewch i dudalen digwyddiadau Maeth Cymru Sir Gâr.
Gallwch glywed beth yw maethu gan y rheiny sy'n gwneud hynny eu hunain drwy wylio straeon llwyddiant lleol, a dod i wybod sut y gallwch wneud gwahaniaeth drwy ymweld â Maethu Cymru Sir Gâr.
