Diweddariadau am lifogydd a thywydd garw

4 diwrnod yn ôl

Gwaith brys ar Bont Ffatri Glangwili ar ôl i falurion llifogydd gronni

Mae disgwyl i waith clirio brys ac asesiadau strwythurol ddechrau yr wythnos nesaf ar Bont y Ffatri ym Mronwydd (yr U2096) ar ôl i falurion gronni'n sylweddol yn dilyn y llifogydd diweddar. 

Bydd y gwaith yn dechrau ddydd Llun 10 Tachwedd ac yn para am oddeutu pum diwrnod wrth i gontractwyr arbenigol, ochr yn ochr â chriwiau gweithredol y Cyngor, weithio i gael gwared â malurion o amgylch strwythur y bont yn ddiogel. 

Rhaid i'r gwaith cymhleth gael ei wneud ar ôl i'r dŵr gilio i lefel ddiogel a bydd ein criwiau yn gweithio gyda darparwyr cyfleustodau i addasu ceblau ffeibr optig a phŵer uwchben dros dro, gan sicrhau mynediad diogel i beiriannau a phersonél.

Bydd y bont yn parhau i fod ar gau wrth i'r gwaith o glirio malurion, cynnal asesiadau strwythurol a gwneud unrhyw atgyweiriadau angenrheidiol gael ei gwblhau. 

Hoffen ni ddiolch i drigolion am eu hamynedd wrth i'r gwaith hanfodol hwn gael ei wneud. 

Y Groes Goch Brydeinig yn Cefnogi Cymuned Hendy-gwyn ar Daf yn dilyn Llifogydd

Mae'r Groes Goch Brydeinig yn parhau i roi cymorth ymarferol ac emosiynol i'r rhai y mae'r llifogydd yn ardal Hendy-gwyn ar Daf wedi effeithio arnynt. Gall aelodau o'r cyhoedd sy'n chwilio am gymorth gysylltu â Llinell Gymorth y Groes Goch ar 0808 196 3651.

Ddydd Mercher, daeth timau'r Groes Goch i Hendy-gwyn i helpu. Erbyn i'r timau gyrraedd roedd y rhan fwyaf o'r preswylwyr wedi cael cymorth ac wedi setlo, a'r prif bryder oedd canfod llety addas iddynt. Roedd yr ymateb wedi'i drefnu'n dda iawn, diolch i ymdrechion rhagorol yr holl asiantaethau perthnasol.

Roedd y cymorth roddwyd gan y Groes Goch yn Hendy-gwyn yn cynnwys:

  • Cymorth emosiynol ac ymarferol a oedd yn cynnwys rhoi cyngor a chyfeirio
  • Rhoi £300 i un aelwyd ar gyfer anghenion brys
  • Dosbarthu 10 pecyn hylendid
  • Darparu bwyd a phowlenni cŵn
  • Dosbarthu dillad a theganau meddal

Mae timau gwirfoddol ar alwad o hyd rhag ofn bydd angen rhagor o gymorth ymarferol ac emosiynol. Mae'r cymorth ychwanegol sydd ar gael yn cynnwys:

  • Cymorth Ariannol: £100 i bob person yr effeithiwyd ar ei eiddo (hyd at £400 y teulu). Gall y swm hwn gael ei roi o hirbell neu mewn person er mwyn helpu i lenwi unrhyw fwlch nes bod arian cronfeydd caledi ar gael.
  • Cyflenwadau Glanhau: Gan gynnwys mopiau, bwcedi, menig, oferôls, a thortshis.
  • Dŵr Yfed Potel

Mae'r Groes Goch Brydeinig wedi ymroi i sicrhau bod unigolion a theuluoedd yn derbyn yr help sydd ei angen arnynt yn ystod y cyfnod heriol hwn.

I gael cymorth neu gyngor, ffoniwch Llinell Gymorth y Groes Goch ar 0808 196 3651.

Y wybodaeth ddiweddaraf am y ffyrdd:

Mae'r ffyrdd canlynol yn dal i fod ar gau:

Pont Meidrim

Pont Glangwili ar hyd ffordd ddiddosbarth yr U2096

Rhwng Llanfynydd a'r A40 Pontargothi 

Yr C2053 ger yr eiddo Graig Yr Afar

Cyngor Sir Caerfyrddin: Diweddariad am waith adfer wedi llifogydd

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i roi cymorth i breswylwyr a busnesau wrth symud i'r cyfnod adfer yn dilyn llifogydd sylweddol ar draws y sir.

Roedd glaw sylweddol dros gyfnod byr wedi cyfrannu at Gyfoeth Naturiol Cymru yn cyhoeddi nifer o rybuddion ynghylch llifogydd a achosodd dŵr wyneb a llifogydd afonol ledled y Sir.

Cafodd Llesiant Delta 128 o alwadau y tu allan i'r oriau arferol ar 4/5 Tachwedd ac atebodd Canolfan Gyswllt y Cyngor 630 o alwadau yn ystod yr oriau swyddfa arferol ar 5 Tachwedd.

Bu'r timau tai a gofal cymdeithasol yn cefnogi preswylwyr, gan sicrhau bod llety dros dro a gwiriadau lles ar waith. Yn benodol, cafodd dros 40 o breswylwyr yn ardal Hendy-gwyn ar Daf eu cefnogi yn dilyn gorfod gadael Coedlan Dewi Sant, gyda llety arall wedi'i ddarparu i 20 o unigolion. Bu Tîm Ymateb Llesiant Delta hefyd yn cynorthwyo yn y ganolfan orffwys hyd nes trosglwyddo'r gwaith i'r staff Gofal Cymdeithasol yn y bore.

Yn ystod yr ymateb, cafodd y gweithwyr Priffyrdd dros 400 o adroddiadau am ddigwyddiadau, a bu 14 o griwiau'n gweithio dros nos ddydd Mawrth, gyda chymorth tri phwmp ychwanegol a gafodd eu defnyddio i reoli'r lefelau dŵr oedd yn codi.

Gan ddelio â 175 o achosion o lifogydd, bu'r gweithwyr yn ymateb i lifogydd ar briffyrdd a chwlferi wedi dymchwel, yn clirio malurion, yn cau ffyrdd er diogelwch y cyhoedd ac yn atgyweirio'r ffordd gerbydau.

Ar hyn o bryd, mae'r Cyngor yn cefnogi 189 o aelwydydd sydd wedi rhoi gwybod bod llifogydd wedi effeithio arnynt, ynghyd â 32 o fusnesau.

Mae'r Cyngor Sir yn cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i gartrefi a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd. Mae cronfa galedi frys wedi cael ei sefydlu ar gyfer preswylwyr a busnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol. Fodd bynnag, eich cwmni yswiriant ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf a dylai roi arweiniad a chyngor i chi.

Gall cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd mewnol wneud cais am daliad o £500. Gellir darparu £1000 arall i'r preswylwyr hynny sydd heb yswiriant.

Gellir gofyn am gymorth i gael gwared ar nwyddau a dodrefn sydd wedi'u difrodi o aelwydydd sydd wedi dioddef llifogydd trwy wefan y Cyngor, ond cysylltwch â'ch cwmni yswiriant yn y lle cyntaf i gael gwybodaeth ac arweiniad cyn cyflwyno eich cais.

Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: "Yn sicr, mae'r llifogydd hyn wedi cael effaith sylweddol ar lawer o bobl, ac rwy'n ddiolchgar i gymunedau lleol ledled Sir Gaerfyrddin am ddod at ei gilydd a dangos y fath wytnwch.

"Mae'r Cyngor yn parhau i gefnogi'r rheiny sydd mewn angen, ac mae cymorth ymarferol ac ariannol ar gael."

Cyngor ynghylch llifogydd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru

Os yw llifogydd wedi effeithio arnoch chi:

  • Dilynwch gyngor y gwasanaethau brys
  • Cadwch draw oddi wrth ddŵr llifogydd. Peidiwch â cherdded, gyrru na gadael i blant neu anifeiliaid anwes chwarae mewn dŵr llifogydd.
  • Os oes rhaid i chi fynd i mewn i'r dŵr, gwisgwch fenig gwrth-ddŵr ac esgidiau rwber a chofiwch edrych yn ofalus am unrhyw beryglon cudd.
  • Cadwch unrhyw friwiau neu glwyfau agored yn lân ac yn sych. Defnyddiwch blasteri a rhwymynnau gwrth-ddŵr.
  • Golchwch eich dwylo, yn enwedig ar ôl bod yn y toiled, cyn bwyta neu wrth baratoi bwyd - dyma'r ffordd bwysicaf o ddiogelu rhag clefydau niweidiol.
  • Os nad oes gennych chi ddŵr glân, defnyddiwch hylif diheintio dwylo neu weips gwlyb.
  • Os ewch chi’n sâl ar ôl llyncu dŵr llifogydd neu fwd yn ddamweiniol, yn enwedig os bydd dolur rhydd neu dwymyn arnoch chi neu os byddwch yn cael poen yn eich stumog o fewn 10 diwrnod ar ôl dod i gysylltiad â dŵr llifogydd neu garthffosiaeth - cysylltwch â Galw Iechyd Cymru 111 neu eich meddyg.
  • Peidiwch â throi offer trydanol ymlaen os ydynt wedi bod mewn dŵr llifogydd hyd nes bod trydanwr cymwys wedi gwirio’r offer, gan fod perygl o gael eich trydanu.
  • Dylai’r offer gwresogi a choginio gael gwasanaeth gan beiriannydd Gas Safe, hyd yn oed os ydynt yn edrych fel petaent yn gweithio'n iawn. Mae perygl o wenwyn carbon monocsid os nad yw’r offer yn gweithio'n iawn.

Rhagor o wybodaeth am ddelio â llifogydd gan gynnwys cyngor ynghylch sut i glirio'n ddiogel

Cymorth a chyllid brys

Rydyn ni'n cynnig cymorth ymarferol ac ariannol i gartrefi a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd.

Gallwn helpu i gael gwared ar ddodrefn a nwyddau sydd wedi'u difrodi, fodd bynnag, cysylltwch â'ch cwmni yswiriant am gyngor ac arweiniad cyn symud dodrefn neu nwyddau sydd wedi'u difrodi o'ch cartref.

Gwnewch gais nawr

Amgueddfa ar gau

Mae Amgueddfa Sir Gâr ar gau ddydd Iau 6 Tachwedd oherwydd y tywydd garw.

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn parhau i ymateb i lifogydd sylweddol ar draws y sir. Mae ein criwiau wedi bod yn gweithio trwy gydol y nos ac maent yn dal i fod ar y safle y bore yma mewn gwahanol leoliadau, gan reoli effaith llifogydd a delio ag amodau ffyrdd heriol.

Yn ystod y nos buom yn helpu'r gwasanaethau brys i symud preswylwyr o'u cartrefi yng Nglanyfferi, Cydweli, Pont-iets, Sanclêr, Hendy-gwyn ar Daf a lleoliadau eraill. Rydym yn parhau i gynorthwyo unigolion yn yr ardaloedd hyn, gan gynnwys preswylwyr sydd angen llety dros dro.

Mae canolfan orffwys wedi'i sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin ar gyfer unrhyw un sydd wedi dioddef lifogydd neu sydd angen lloches a man cynnes.

Mae yna darfu ar deithio o hyd gyda sawl ffordd ar gau ar hyn o bryd.

Mae saith ysgol ar gau ar hyn o bryd oherwydd llifogydd a phroblemau mynediad. Ewch i wefan y cyngor am ragor o wybodaeth Ysgolion ar gau drwy argyfwng - Cyngor Sir Caerfyrddin.

Rydym yn deall bod llawer o gymunedau wedi'u heffeithio'n sylweddol gan lifogydd yn y 24 awr ddiwethaf. Mae gwybodaeth ar ein gwefan Adfer Llifogydd - Cyngor Sir Caerfyrddin a allai fod gymorth i'n preswylwyr a'n busnesau wrth iddynt adfer yn dilyn y llifogydd.

Rydym yn annog pawb i fod yn ofalus os ydynt yn teithio a pheidio byth â gyrru trwy ddŵr llifogydd. Gallwch roi gwybod am ddigwyddiadau llifogydd ar-lein yn: Llifogydd Sir Gaerfyrddin.

Mae cronfa galedi frys wedi cael ei sefydlu ar gyfer preswylwyr a busnesau sydd wedi dioddef llifogydd mewnol, a bydd rhagor o fanylion ar gael cyn hir. Fodd bynnag, eich cwmni yswiriant ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf a dylai roi arweiniad a chyngor i chi.

Hoffem ddiolch i breswylwyr am eu hamynedd a'u cydweithrediad wrth i griwiau barhau i weithio i sicrhau diogelwch y cyhoedd. Bydd cronfa galedi frys yn cael ei sefydlu ar gyfer preswylwyr a busnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol, a bydd rhagor o fanylion ar gael cyn hir. Fodd bynnag, eich cwmni yswiriant ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf a dylai roi arweiniad a chyngor i chi. Gall cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd mewnol wneud cais am daliad o £500. Gellir darparu £1000 arall i'r preswylwyr hynny sydd heb yswiriant. Bydd grant o hyd at £5000 ar gael i fusnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol ar eu safleoedd busnes.

Cymorth ariannol mewn argyfwng

Mae cronfa frys wedi cael ei sefydlu ar gyfer preswylwyr a busnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol. Fodd bynnag, eich cwmni yswiriant ddylai fod eich pwynt cyswllt cyntaf a dylai roi arweiniad a chyngor i chi.

Gall cartrefi sydd wedi dioddef llifogydd mewnol wneud cais am daliad o £500.

Gellir darparu £1000 arall i'r preswylwyr hynny sydd heb yswiriant.

Mae grant o hyd at £5000 ar gael i fusnesau cymwys sydd wedi dioddef llifogydd mewnol ar eu safleoedd busnes.

Gwnewch gais nawr

Ffyrdd sydd ar gau: Diweddariad

Mae ffyrdd ar gau ledled y Sir oherwydd llifogydd/amodau'r ffyrdd gan gynnwys:

  • Lôn Morfa i gylchfan Heol Las
  • Cylchfan Towy Garage Pen-sarn i'r drosffordd
  • Glan yr Afon, Tre Ioan (hen Swyddfa Bost) i'r Poplars Inn
  • Yr A484 Bronwydd i Gynwyl Elfed
  • Rheilffordd Bronwydd i'r Clwb Criced
  • Pont Meidrim
  • Prif stryd Sanclêr/goleuadau traffig i Langynin
  • Coedlan Dewi Sant, Hendy-gwyn ar Daf
  • Yr A4066 Stryd y Bont, Sanclêr isaf   
  • Yr A484 Pen-bre i Gydweli
  • Yr A484 Cydweli i Landyfaelog
  • Y B4308 Cydweli i Drimsaran
  • Y B4317 Pinged i'r B4308 Trimsaran
  • Y B4300 Toll House i Ffair-fach
  • Yr A4069 yn Llwynjack a Llangadog
  • Yr A4069, Llangadog

Mae ffyrdd lleol eraill hefyd ar gau ledled y Sir. Byddwch yn ofalus os ydych chi'n teithio a pheidiwch â gyrru trwy ddŵr llifogydd.   

Rhowch wybod am ddigwyddiadau llifogydd 

Canolfan orffwys i'r rhai mewn angen – Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Oherwydd llifogydd a'r effaith ddifrifol yn ardaloedd Hendy-gwyn ar Daf a Sanclêr, mae canolfan orffwys wedi'i sefydlu yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Rydyn ni hefyd yn parhau i gefnogi unigolion yn yr ardaloedd hyn.

Gall unrhyw un sy'n ceisio lloches oherwydd llifogydd fynd i Ganolfan Hamdden Caerfyrddin.

Cymerwch ofal wrth deithio y bore ‘ma – PEIDIWCH Â GYRRU TRWY DDŴR.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad llifogydd

Ar gyfer problemau eraill y tu allan i oriau, cysylltwch â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 3332222

 

Mae rhai ysgolion Sir Gaerfyrddin ar gau

Gwiriwch gydag ysgol eich plentyn cyn teithio y bore 'ma.

Mae gwybodaeth am unrhyw ysgolion sydd ar gau yn cael ei rhoi gan yr ysgolion a'i ar ein tudalen Ysgolion ar gau drwy argyfwng

Mae llifogydd o afonydd a dŵr wyneb yn creu amodau anodd ledled y sir ac mae hyn yn debygol o effeithio ar wasanaethau drwy gydol y dydd. Byddwch yn ofalus os ydych chi'n teithio a pheidiwch â gyrru drwy ddŵr llifogydd.

Rhoi gwybod am ddigwyddiad llifogydd

Ar gyfer problemau eraill y tu allan i oriau, cysylltwch â Llesiant Delta drwy ffonio 0300 3332222