Dathlu Dydd Gŵyl Dewi yn Sir Gaerfyrddin
247 diwrnod yn ôl
Wrth i Gymru baratoi i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi ar 1 Mawrth, mae gan Sir Gaerfyrddin lu o weithgareddau ar draws y sir i ddathlu diwrnod ein nawddsant.
Ewch i wefan Darganfod Sir Gâr am lwyth o wybodaeth am ddigwyddiadau amrywiol ar draws ein cymunedau.
Wrth i'r cennin Pedr ddechrau blodeuo, mae'n bleser gan Gyngor Sir Caerfyrddin gyhoeddi rhaglen o ddathliadau yn ein cyfleusterau hamdden.
Bydd siopwyr ac ymwelwyr â Marchnad Caerfyrddin yr wythnos hon yn cael eu cyfarch gan arddangosfa o gennin Pedr yng nghyntedd y farchnad. Bydd masnachwyr hefyd yn barod i weini cawl i gwsmeriaid llwglyd. Bydd cwsmeriaid yn gallu prynu cynnyrch Cymreig lleol o'r cigyddion, gwerthwyr caws a'r gwerthwyr blodau, ynghyd â dewis eang o anrhegion a chofroddion Cymreig.
Cyngherddau Dathlu Gŵyl Dewi
Mae Theatrau Sir Gâr yn falch iawn o fod yn cynnal Cyngerdd Dathlu Gŵyl Dewi ym mhob un o'n tri lleoliad yn 2024. Cyflwynir y digwyddiadau arbennig hyn mewn partneriaeth â Loud Applause Productions a byddant yn cynnwys detholiad o berfformwyr talentog o Gymru.
Cyngerdd Dathlu Gŵyl Dewi Rhydaman
Theatr y Glowyr
29 Chwefror 7pm
£14.50 | £12.30
Mae'r Dathliadau Gŵyl Dewi yn dechrau yn Rhydaman gyda noson llawn talent gerddorol a fydd yn cael ei harwain gan Heddyr Gregory. Dewch i fwynhau perfformiadau gan seren y West End, Steffan Hughes, Côr Meibion Elli a Pharti Merched Ysgol Dyffryn Aman.
Cyngerdd Dathlu Gŵyl Dewi y Lyric
Theatr y Lyric, Caerfyrddin
1 Mawrth 7pm
£18.50 | £16.50 | £15.50 (Grŵp 10+)
Bydd Côr Meibion Pontarddulais, sydd wedi ennill gwborau, yn perfformio ynghyd â'r telynor rhyngwladol, Dylan Cernyw. Bydd y noson yn cael ei harwain gan Garry Owen a bydd hefyd yn cynnwys perfformiadau gan y côr benywaidd poblogaidd o Sir Benfro, Bella Voce, a thenor ifanc o Loud Applause Rising Stars, James Oakley.
Cyngerdd Dathlu Gŵyl Dewi y Ffwrnes
Theatr y Ffwrnes, Llanelli
2 Mawrth 7pm
Sêr y gyngerdd fydd Trystan Llŷr Griffiths, y tenor Cymreig poblogaidd, Côr Meibion Clwb Rygbi Treforys a Chôr Lleisiau'r Cwm. Bydd hefyd yn cynnwys disgyblion talentog Ysgol Gynradd yr Hendy ac yn cael ei harwain gan Garry Owen.
Gŵyl Bwyd a Diod Gŵyl Dewi ym Mharc Gwledig Pen-bre
Ddydd Sadwrn a dydd Sul, 2 a 3 Mawrth, mae Parc Gwledig Pen-bre yn eich gwahodd i Ŵyl Bwyd a Diod, lle bydd amrywiaeth o fasnachwyr annibynnol gwych yn hyrwyddo bwyd o Gymru. O gynnyrch o fri a stondinau bwyd stryd i arddangosiadau coginio byw a cherddoriaeth fyw drwy gydol y penwythnos, mae'n argoeli bod yn ddathliad blasus.
Amgueddfeydd CofGâr
Bydd Amgueddfa Parc Howard yn Llanelli, Amgueddfa Sir Gaerfyrddin yn Abergwili, Cartref Dylan Thomas yn Nhalacharn a'r Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn yn cynnal gweithgareddau galw heibio am ddim i deuluoedd ddydd Sadwrn 2 Mawrth 2024 i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin
Yn ein tair prif lyfrgell – Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin - bydd y gweithgareddau canlynol yn cael eu cynnal:
Dydd Mercher 28 Chwefror 3:30pm - 4:45pm - Crefft cennin a chennin Pedr (5+ oed) (Llyfrgell Caerfyrddin yn unig).
Dydd Iau 29 Chwefror 3:30pm - 4:45pm - Mowldiau siocled y Ddraig Goch a bwrdd gwybodaeth rhyngweithiol Makey Makey (9+ oed) (Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin).
Dydd Gwener 1 Mawrth 3:30 - 4:45pm - Argraffu 3D - llyfrnod/pin dillad cennin Pedr wedi'i bersonoli (9+ oed) (Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin).
Dydd Sadwrn 2 Mawrth 10:30am - 2:00pm - Dewch i Lyfrgell Llanelli ar 2 Fawrth i gefnogi gwerthwyr lleol sy'n arddangos ac yn gwerthu eu cynnyrch gwych a wnaed yng Nghymru – Celf, Crefftau a llawer mwy! Dewch â'ch plant wedi gwisgo yn eu gwisgoedd traddodiadol ar gyfer llun digidol am ddim, gyda help ein tîm Stordy Digiol! Bydd perfformiad côr gan Lleisiau'r Llan am 11y.b. a bydd gweithgareddau plant yn cael eu cynnal drwy'r dydd.
Mae'r holl weithgareddau am ddim ond mae angen tocyn – gellir archebu tocynnau drwy dudalen Eventbrite y Llyfrgelloedd: Digwyddiadau Llyfrgelloedd Sir Gaerfyrddin | Eventbrite
CÂN AR GYFER DYDD GŴYL DEWI - PAWB I GANU’N UN
Mae disgyblion ysgolion cynradd o bob rhan o Gymru yn dod at ei gilydd i ddathlu ein tir, iaith, diwylliant a’n pobl. Mae’r 1200 o blant sy’n rhan o’r digwyddiad yn cynnwys Beca Morris, yr unawdydd o Ysgol Llangynnwr, a 200 o ddisgyblion o Ysgol y Model, Ysgol Nantgaredig, Ysgol Llangynnwr, Ysgol Parc Waun Dew ac Ysgol y Dderwen yn Sir Gaerfyrddin.
Mae Cerddorfa fyd-enwog Opera Cenedlaethol Cymru yn cyfeilio ac mae'r plant wedi bod yn recordio'r gân mewn lleoliadau ledled Cymru. Mae’n cael ei rhyddhau i'w lawrlwytho heddiw, ddydd Llun 26 Chwefror. Dyma'r fideo.
Daw'r fenter gyffrous hon gan ABC of Opera, sy'n darparu gweithdai cerddoriaeth rhyngweithiol a chynhwysol i ysgolion. Cyfansoddodd ei sylfaenydd, Mark Llewelyn Evans, ynghyd â'r cyfansoddwr arobryn, Rhys Taylor, Lorraine King a Dr Gwyneth Lewis, y gân ddathliadol ddwyieithog. Mae’n cynnwys themâu cyffredinol gobaith a golau, ac mae’r gân yn neges amserol i'r byd sydd ohoni.
Dywedodd y Cynghorydd Hazel Evans, yr Aelod Cabinet dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth:
“Mae Sir Gaerfyrddin yn edrych ymlaen yn fawr at ddathlu ein nawddsant, Dewi Sant, drwy amrywiaeth eang o weithgareddau dros yr wythnos nesaf.
Yn unol â dywediad enwog Dewi, 'Gwnewch y pethau bychain', byddwn yn annog pawb i gefnogi'r dathliadau lleol yn eu cymuned gan ei fod yn achlysur gwych i bobl ddod at ei gilydd.”
Ymhlith y digwyddiadau eraill sy'n cael eu cynnal ar draws Sir Gaerfyrddin a'u rhestru ar wefan Darganfod Sir Gâr y mae'r canlynol:
Gŵyl y Cennin Pedr yng Nghaerfyrddin
Yn cynnwys amrywiaeth o ddigwyddiadau diwylliannol a chymunedol yn y dref tra bod y blodyn cenedlaethol yn blodeuo.
Gŵyl y Ddau Sant, Llandeilo – 27 Chwefror – 1 Mawrth
Yn cynnwys noson gwis, darlith flynyddol, sioe ffasiwn a gwasanaeth diolchgarwch.
Dathliad Ysgolion Caerfyrddin yn Rhodfa’r Santes Catrin – 1 Mawrth
Bydd corau, perfformwyr a cherddorion yn ymgynnull yn Rhodfa'r Santes Catrin, Caerfyrddin, ar gyfer y dathliad diwylliannol hwn. Bydd ysgolion a diddanwyr yn canu, yn dawnsio ac yn perfformio ar y diwrnod rhwng 10am ac 1pm.
Eisteddfodau Llandeilo – 1 Mawrth
Dewch i ddysgu am hanes traddodiad yr Eisteddfod yn Llandeilo yn Hengwrt, ynghyd â thaith o amgylch yr adeilad a phaned a byrbrydau Cymreig am ddim i ddathlu Dydd Gŵyl Dewi.
Ymgais Guinness World Records ar draeth Cefn Sidan – 1 Mawrth
Os ydych chi erioed wedi meddwl y gallech fod yn ddaliwr record byd, efallai mai Dydd Gŵyl Dewi eleni, 1 Mawrth 2024, fydd eich cyfle i ddal y teitl mawreddog hwn. Dewch draw i Draeth Cefn Sidan, Parc Gwledig Pen-bre, lle bydd ymgais Guinness World Records i gynnal gêm tynnu rhaff dros y pellter mwyaf. Mae'n rhaid i'r rhai sydd am gymryd rhan fod yn 18 oed neu'n hŷn ac mae angen iddynt gyrraedd erbyn 1pm ar gyfer cofrestru a sesiwn briffio iechyd a diogelwch gorfodol. Yna, bydd yr ymgais i dorri’r record yn cael ei ffilmio o 2pm ar y traeth.
Taith dywys o amgylch Parc yr Esgob, Abergwili – 1 Mawrth
Canolfan Goffa Gymunedol Pen-bre – Dathliad Gŵyl Dewi – 1 Mawrth
Noson Gymraeg yn nhafarn Y Ci a'r Piano – 1 Mawrth
Diwrnod Rasio Yn Falch o Gymru yn Ffos Las – 1 Mawrth
Gŵyl y Cennin Pedr - Gorymdaith Dydd Gŵyl Dewi – 2 Mawrth
Mae Caerfyrddin yn croesawu pawb i'r diwrnod anhygoel hwn ar gyfer Dathliadau Gŵyl Dewi. Bydd yr orymdaith yn gadael Eglwys San Pedr am 11:00 a bydd llawer o berfformiadau yn y Clos Mawr. Dewch i ymuno yn yr hwyl a'r adloniant!
Dathlu Dydd Gŵyl Dewi ym Marchnad Cydweli – 2 Mawrth
Ewch i'r farchnad fywiog lle byddwch yn dod o hyd i rai o'r cynhyrchwyr bwyd, diod a chrefftau lleol gorau yn yr ardal.
Gŵyl Hwyl: Dydd Gŵyl Dewi – Amgueddfa Wlân Cymru – 2 Mawrth
Dewch i fwynhau diwrnod o hwyl, llawn crefftau, ac ymunwch â Tudur Phillips am glocsio cŵl, gemau a mwy! Bydd ymweliad arbennig gan Magi-Ann!
Penwythnos Bwyd a Chrefft Dydd Gŵyl Dewi yn yr Ardd Fotaneg – 2 a 3 Mawrth