Datganiad ynghylch Cartref Gofal Brynderwen
254 diwrnod yn ôl
Gyda thristwch mawr mae gweithredwyr Cartref Gofal Brynderwen, Llangynnwr, wedi hysbysu Cyngor Sir Caerfyrddin yn ffurfiol o'u bwriad i gau'r cartref gofal. Mae disgwyl i'r cartref gofal gau ar 28 Ebrill 2024.
Mae'r Cyngor Sir yn gweithio'n agos gyda rheolwr y cartref gofal i sicrhau bod yr holl breswylwyr yn cael eu cefnogi drwy'r cyfnod anodd hwn ac wedi canolbwyntio ymdrechion tîm ymroddedig o Weithwyr Cymdeithasol ar gefnogi'r preswylwyr i ddod o hyd i gartrefi newydd.
Hoffai'r Cyngor ddiolch i'r staff yng Nghartref Gofal Brynderwen am eu hymrwymiad parhaus i sicrhau bod y preswylwyr yn parhau i dderbyn gofal o safon a’u bod yn cael eu cefnogi yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
Pan gawsom wybod gan y perchnogion o'u bwriad i gau'r cartref, ein blaenoriaeth gyntaf oedd lles y preswylwyr yng Nghartref Gofal Brynderwen. Rydym wedi sefydlu tîm a fydd yn goruchwylio'r broses o gau a chefnogi'r cartref gofal yn ystod y cyfnod anodd hwn.
Mae hon hefyd yn sefyllfa anodd iawn i deuluoedd a pherthnasau agosaf y preswylwyr, rydym ar hyn o bryd yn eu cefnogi i ddod o hyd i gartrefi newydd addas i'w hanwyliaid.
Ar ran y Cyngor, hoffwn fynegi fy niolch i'r staff yng Nghartref Gofal Brynderwen am eu gwaith amhrisiadwy yn y cartref gofal ac am y gefnogaeth y maent wedi'i rhoi i breswylwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Y Perchennog Mr Williams
Gyda thristwch mawr y gwnaed y penderfyniad i roi'r gorau i weithredu fel cartref gofal. Mae'r penderfyniad hwn wedi bod yn un anodd iawn, fodd bynnag, fel y mae llawer o bobl yn ymwybodol, mae'r sector gofal dan bwysau aruthrol oherwydd ffactorau amrywiol yn y diwydiant.
Mae Brynderwen yn adeilad hardd, mewn lleoliad hardd a fy mwriad yw ei gadw. Rwy'n ymwybodol bod llawer o ddyfalu wedi bod ynghylch defnydd yr adeilad yn y dyfodol. Mae cais cynllunio wedi'i gyflwyno ar gyfer newid defnydd, i fwyty a gwesty bwtîc a fydd hefyd yn darparu lleoliad ar gyfer priodasau. Rwy'n gobeithio darparu gwasanaeth o safon uchel i'r gymuned.