Cwestiynau Cyffredin - RAAC
409 diwrnod yn ôl
Ystyr RAAC yw Concrit Awyredig Awtoclafiedig Cydnerth. Câi ei ddefnyddio'n gyffredin mewn adeiladau, yn bennaf ar gyfer toeau, o ganol y 1950au hyd at ganol y 1990au.
Mae RAAC yn wahanol iawn i goncrit traddodiadol o ran ei gyfansoddiad a'i gryfder. Mae'n wannach na choncrit traddodiadol.
Tua 30 mlynedd yw oes ddefnyddiol amcangyfrifedig paneli RAAC.
Cafodd adroddiadau yn tynnu sylw at broblemau gyda phaneli RAAC eu cyhoeddi gyntaf yng nghanol y 1990au.
Yn 2018, rhoddodd yr Adran Addysg a'r Gymdeithas Llywodraeth Leol wybod i berchnogion adeiladau am y methiannau ddigwyddodd ar y pryd, gan grybwyll yn benodol dau do ysgol oedd wedi dymchwel heb fawr ddim rhybudd.
Ym mis Chwefror 2020, cafodd Awdurdodau Lleol Cymru wybod am y problemau posibl â RAAC drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn dilyn rhybudd diogelwch a gyhoeddwyd yn 2019 gan y Pwyllgor Sefydlog ar Ddiogelwch Strwythurol (SCOSS).
Yn ystod haf 2023 gwelwyd rhagor o ddymchweliadau mewn ysgolion yn Lloegr, ac arweiniodd hynny at dystiolaeth newydd a oedd yn awgrymu y gallai paneli RAAC fod yn fwy peryglus na'r hyn a feddyliwyd yn flaenorol. Darganfuwyd bod nenfydau/toeau RAAC yn gallu dymchwel heb unrhyw arwyddion o ddiffygion.
Mae Llywodraeth Cymru wedi sefydlu Grŵp adeiladau RAAC mewnol, gan gydlynu ag RICS Cymru, Sefydliad y Peirianwyr Strwythurol, HSE, a Llywodraeth y DU.
Mae grŵp tasglu RAAC trawsadrannol wedi'i greu, ac mae rhaglen o archwiliadau ac arolygon gweledol wedi'i threfnu ar gyfer y sector tai a sectorau nad ydynt yn gysylltiedig â thai.
Oes, mae cynllun gweithredu manwl gyda dyddiadau penodol ar gyfer rhaglen arolygu ac archwilio RAAC, gan gynnwys arolygon gweledol cychwynnol, arolygon ymwthiol, a monitro parhaus.
Mae defnyddio RAAC mewn tai yn brin, ac nid oes unrhyw achosion wedi'u nodi yn stoc dai Cyngor Sir Caerfyrddin. Fodd bynnag, mae archwiliadau wedi'u targedu yn cael eu cynnal i sicrhau diogelwch.
Os nodir posibilrwydd fod RAAC neu ddeunyddiau cysylltiedig yn bresennol, bydd arolygon ymwthiol pellach yn cael eu cynnal yn brydlon, a chaiff mesurau priodol eu cymryd i fynd i'r afael â'r sefyllfa.
Prif flaenoriaeth Cyngor Sir Caerfyrddin yw sicrhau diogelwch a lles defnyddwyr adeiladau a deiliaid contractau meddiannaeth tai, a chydweithio â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod mesurau diogelwch ar waith.