Ceisiadau am gyllid drwy raglen Trawsnewid Trefi yn cael eu croesawu

313 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch iawn o gyhoeddi bod cyllid bellach ar gael i ddechrau ailddefnyddio adeiladau gwag yng nghanol tair prif dref y sir at ddiben masnachol.

Nod y cyllid drwy raglen Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru yw datblygu adeiladau gwag ac adfeiliedig yng nghanol trefi Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli at ddiben masnachol trwy eu hadnewyddu a chreu pwrpas arall iddynt.

Bydd y cyllid hefyd yn ategu seilwaith gwyrdd i wella bioamrywiaeth a gwella mannau cyhoeddus. Bwriad y rhaglen Trawsnewid Trefi yw creu canol trefi bywiog, gyda mannau gwaith hyblyg a mwy o fynediad at wasanaethau i drigolion ac i bobl sy'n ymweld â chanol ein prif drefi.

Bydd y grant yn agor i geisiadau rhwng 7 Mehefin a 30 Awst 2023. Rhaid cwblhau pob prosiect erbyn 31 Ionawr, 2025.

Caiff y ceisiadau eu hystyried fesul achos.

Mewn amgylchiadau lle mae cost y prosiect yn llai na £250,000, efallai fydd cyfradd ymyrraeth o hyd at 70% yn erbyn cyfanswm costau'r prosiect ar gael. Rhaid i geisiadau dros £250,000 fod o natur strategol a byddant yn cael eu hystyried drwy banel cyfalaf Llywodraeth Cymru a gallai cyfradd ymyrraeth grant o hyd at 45% fod ar gael.

Bydd swm y cyllid yn cael ei bennu ar y lefel isaf sydd ei hangen er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo.

Swm cyfyngedig o arian sydd ar gael, a'r cyntaf i'r felin fydd hi. Dim ond yn y tair prif dref fydd cyllid ar gael; Rhydaman, Caerfyrddin a Llanelli.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: "Mae canol ein trefi yn chwarae rhan annatod o fewn economi Sir Gaerfyrddin ac mae'n bwysig iawn ein bod ni, fel y Cyngor Sir, yn parhau i gefnogi busnesau sy'n masnachu yno.

"Felly rwy'n croesawu cyllid Trawsnewid Trefi gan Lywodraeth Cymru ac yn annog perchnogion a lesddeiliaid adeiladau gwag ac adfeiliedig yng nghanol trefi Rhydaman, Llanelli a Chaerfyrddin i gysylltu â'r Cyngor, cyn gynted â phosib, er mwyn trafod cyfleoedd posib i gael yr adeiladau hyn yn masnachu eto ar y stryd fawr."

I gael rhagor o fanylion, neu os hoffech drafod unrhyw brosiectau posibl, e-bostiwch transformingtowns@sirgar.gov.uk

Cliciwch yma i fynd i'r dudalen Trawsnewid Trefi ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.