Amgueddfa Cyflymder yn agor ym Mhentywyn

315 diwrnod yn ôl

Mae amgueddfa newydd gyffrous wedi agor ym Mhentywyn, Sir Gaerfyrddin, sydd wedi croesawu ei hymwelwyr cyntaf yn ystod gwyliau'r Sulgwyn. Yr Amgueddfa Cyflymder yw'r aelod mwyaf newydd o deulu CofGâr, sef gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin.

Dewch i brofi stori'r traeth, cyflymder a chwaraeon.

Yn ystod eich ymweliad â'r Amgueddfa Cyflymder, ewch ati i ddysgu am y traeth a theithio drwy arddangosfeydd rhyngweithiol, o J.G. Parry-Thomas a recordiau cyflymder y byd yn y 1920au i 'Flying Mile' Idris Elba yn 2015. Dewch i brofi cyffro rasio gyda 'Babs', y car enwog, clywed ei hinjan yn rhuo, a theimlo'r gwynt yn eich wyneb.

Hefyd bydd cyfle i ymwelwyr weld arddangosfa arbennig, a ddyluniwyd ar y cyd â myfyrwyr Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, sy'n archwilio syniadau trafnidiaeth y dyfodol. Mae siop anrhegion wych hefyd ar y safle, sef y lle perffaith i brynu swfenîrs moduro a danteithion deniadol i'r teulu cyfan. Mae hyd yn oed lle pwrpasol, hygyrch sy'n llawn cyfleusterau ar gyfer pob achlysur a golygfeydd ysblennydd ar hyd traeth saith milltir Pentywyn.

Yr amgueddfa hwyliog a chynaliadwy hon yw'r cyfleuster diweddaraf i'w gwblhau fel rhan o Brosiect Denu Twristiaid Pentywyn. Datblygwyd y prosiect yn dilyn ymgysylltu ac ymgynghori'n helaeth â'r gymuned ac fe'i hadeiladwyd gan Andrew Scott. Ei nod yw hyrwyddo treftadaeth ddiwylliannol a naturiol Pentywyn er mwyn hybu adfywiad economaidd y lleoliad yn y dyfodol fel cyrchfan ddigwyddiadau 'diwrnod ac aros'.

Mae Prosiect Denu Twristiaid Pentywyn hefyd yn cynnwys llety, sef "Caban," maes chwarae antur a llawer mwy. Mae pob un bellach ar agor i ymwelwyr eu mwynhau. Mae Caban, sy'n hygyrch ac sydd wedi'i adeiladu mewn modd cynaliadwy, yn darparu 14 ystafell a 43 gwely. Mae hefyd yn cynnwys bwyty sy’n darparu ar gyfer y farchnad gwyliau cerdded a chwaraeon antur awyr agored yn ogystal â'r rhai sy'n chwilio am brofiad arfordirol.

Mae cyfleuster ar gyfer 10 o gartrefi modur, a fydd yn cael ei ddatblygu gan Gyngor Cymuned Pentywyn, hefyd wedi'i gynnwys yn y prif gynllun ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth John, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth: “Mae'r Amgueddfa Cyflymder wedi agor yn swyddogol ac rydyn ni'n edrych ymlaen yn eiddgar at groesawu ymwelwyr i Bentywyn a'r Amgueddfa Cyflymder dros fisoedd yr haf a thu hwnt.

“Mae Traeth Pentywyn yn enwog o ran hanes recordiau cyflymder ar dir, yn ogystal â bod yn rhan syfrdanol o hardd o Gymru. Mae'n addas, felly, fod gennym amgueddfa fodern, hwyliog a rhyngweithiol ym Mhentywyn i blant ac oedolion fel ei gilydd ddysgu mwy am yr hanes sy'n gysylltiedig â'r traeth.”

“Mae Cyngor Sir Caerfyrddin wedi gweithio gyda Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid allweddol eraill i gyflawni'r Prosiect Denu Twristiaid, yma ym Mhentywyn. Mae'n gyfleuster rhagorol a fydd yn hyrwyddo enw da Pentywyn fel cyrchfan 'diwrnod ac aros' drwy gydol y flwyddyn i ymwelwyr, yn darparu ar gyfer 41 o swyddi ac allai gynhyrchu £3 miliwn y flwyddyn i'r economi ranbarthol.”

Oriau agor

Rhwng 27 Mai a 3 Mehefin, ar agor bob dydd, 10am - 5pm.

Rhwng 4 Mehefin a 3 Tachwedd, ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Sadwrn, 10am – 5pm.

Ewch i wefan newydd CofGâr  i gael rhagor o wybodaeth a manylion am oriau agor neu dilynwch CofGâr ar y cyfryngau cymdeithasol.