Erlyn dau berson am achosi dioddefaint diangen i dda byw
541 diwrnod yn ôl
Mae mam a mab wedi cael eu herlyn ar ôl achosi dioddefaint diangen i dda byw ar eu fferm.
Cafodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas, Cildywyll, Llanddowror, sydd wedi bod yn ffermio ers 38 mlynedd, eu dedfrydu yn Llys Ynadon Llanelli, ar 24 Chwefror. Cafodd y diffynyddion ddedfryd o 20 wythnos o garchar, wedi'i gohirio am 24 mis, a fydd yn cydredeg a bydd yn rhaid iddynt gwblhau 200 awr o waith di-dâl, 25 diwrnod o Ofynion Gweithgareddau Adsefydlu ac ad-dalu costau o £2700.
Rhybudd – mae'r wybodaeth ganlynol yn cynnwys manylion dioddefaint anifeiliaid a gallai beri gofid i'r darllenydd.
Yn dilyn pryderon lles, cynhaliwyd ymweliad dirybudd yng Nghildywyll ym mis Chwefror 2022 gan Swyddog Iechyd Anifeiliaid Cyngor Sir Caerfyrddin a Milfeddyg o'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Wrth i'r swyddogion agosáu at y fferm o'r dreif, daethant ar draws buwch frown denau iawn, oedd yn gorwedd i lawr mewn cae ar ei phen ei hun. Roedd y fuwch newydd fwrw llo. Ar y dechrau, credwyd bod y fuwch a'r llo wedi marw; ond er bod y fuwch yn fyw, roedd ei llo wedi marw. Nid oedd neb wedi cadw llygad ar y fuwch yn ystod yr enedigaeth, felly bu farw'r llo.
Mewn sied ar y fferm, daeth swyddogion o hyd i fuwch arall yn gorwedd mewn baw ar ei hochr dde gyda'i choesau'n agos at ei chorff. I ddechrau roedd yn ymddangos fod y fuwch wedi marw nes iddi gael ei gweld yn anadlu. Roedd y fuwch mewn cyflwr gael yn gorfforol, heb unrhyw dystiolaeth o fwyd na dŵr o'i blaen a dim lle sych i orwedd. Tu ôl i'r fuwch, ac yn erbyn wal, oedd ei llo oedd wedi marw. Roedd y fuwch wedi bod yn gorwedd yn y cyflwr hwnnw, heb ei thrin ers iddi fwrw llo 5 diwrnod ynghynt. Wedi cael cyngor gan filfeddyg y fferm, bu'n rhaid rhoi’r fuwch i gysgu.
O fewn llociau’r lloeau, roedd llo gorwedd na allai godi. Ar ôl asesu'r llo, cynghorwyd i roi’r llo i gysgu oherwydd niwmonia difrifol. Roedd angen trin sawl llo arall am niwmonia hefyd ond nid oeddent wedi derbyn unrhyw driniaeth filfeddygol.
Yn y sied ddefaid, daeth swyddogion o hyd i nifer o ddefaid cloff oedd heb eu trin. Cafodd dwy famog gorwedd eu hasesu gan filfeddyg a chynghorwyd bod y ddwy famog yn cael eu rhoi i gysgu.
Doedd gan y gwartheg, y lloeau na'r defaid ddim mynediad at ddŵr yfed ffres a gwnaethant yfed yn syth pan roddodd y swyddogion ddŵr iddyn nhw.
Roedd 19 o garcasau gwartheg a 3 o garcasau defaid o gwmpas y fferm mewn gwahanol gyflyrau o bydredd lle'r oedd bywyd gwyllt ac anifeiliaid fferm, gan gynnwys moch, yn cael mynediad i'r carcasau.
Dywedodd y Cynghorydd Aled Vaughan Owen, yr Aelod Cabinet dros Newid Hinsawdd, Datgarboneiddio a Chynaliadwyedd: “Mae manylion yr achos hwn yn warthus ac yn ofidus i'w darllen. Rhaid i mi ddiolch i'n Swyddogion Iechyd Anifeiliaid am eu gwaith ar yr achos anodd hwn ac am ddwyn y troseddwyr gerbron y llysoedd. Byddwn ni, fel cyngor, yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ddwyn pobl sy'n cam-drin anifeiliaid gerbron y llysoedd.
“Mae'n bwysig pwysleisio bod ein Swyddogion Iechyd Anifeiliaid yma hefyd i gefnogi ffermwyr a'u bod yn gallu cynnig cefnogaeth i'r rhai sy'n wynebu anawsterau o ran gofalu am eu da byw. Os ydych chi'n cael trafferth, cysylltwch â'n tîm ar 01554 742249 neu anfonwch e-bost at cccanimalhealth@sirgar.gov.uk”
Plediodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas yn euog i 4 achos o droseddau adran 4, a 3 achos o droseddau adran 9 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, drwy achosi dioddefaint diangen.
Hefyd methodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas â chael gwared ar ddeunydd Categori 1 heb oedi'n ormodol ac nid oeddent wedi sicrhau nad oedd gan yr un anifail nac aderyn fynediad i'r carcasau.
Methodd Eirlys Thomas a Dewi Aeron Thomas â rhoi gwybod am farwolaeth o fewn 7 diwrnod ac felly roeddent wedi methu â chydymffurfio â Rheoliadau Adnabod Gwartheg (Cymru) 2007.