Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc y Gwanwyn

Nid oes unrhyw newidiadau i gasgliadau biniau dros Ŵyl Banc y Gwanwyn. Rhowch eich sbwriel mas cyn 6am ar eich diwrnod casglu arferol. Bydd gwastraff hylendid a gwastraff gardd hefyd yn cael eu casglu yn ôl yr arfer.
Ailgylchwch gymaint â phosibl a chofiwch dim mwy na thri bag du.
Er ein bod yn bwriadu casglu yn ôl yr arfer ddydd Llun gŵyl banc, efallai na fydd hyn yn bosibl ym mhobman a gallai newid ar fyr rybudd. Cadwch lygad ar ein tudalen Facebook i gael y wybodaeth ddiweddaraf.
Mae'r canolfannau ailgylchu yn Nhrostre (Llanelli), Nant-y-caws (Caerfyrddin), Wernddu (Rhydaman), a Hendy-gwyn ar Daf i gyd ar agor ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc.