Rhaglen ARFOR: Cyfle i Gymunedau Arloesi a Mentro

389 diwrnod yn ôl

Mae Cronfa Cymunedau Mentrus Ar Agor.mp4 from Cyngor Sir Gâr | Carms Council on Vimeo.

Mae ARFOR, Rhaglen gwerth £11 miliwn ac sydd â nod clir o greu gwaith yn lleol a chryfhau’r iaith Gymraeg ledled siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion a Chaerfyrddin, nawr yn gwahodd ceisiadau i’w cronfa Cymunedau Mentrus. Dyma ail wedd y Rhaglen arloesol hon a ddaw fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.

Yn dilyn llwyddiant rhan gyntaf y Rhaglen rydym nawr yn cyhoeddi cyfleoedd am gefnogaeth drwy ffrwd waith Cymunedau Mentrus. Dyma gyfle i gwmnïau, mentrau cymdeithasol a mentrau cydweithredol geisio am nawdd hyd at Fawrth 2025 er mwyn cefnogi cymunedau o fewn cadarnleoedd y Gymraeg i ffynnu yn economaidd, ac yn sgil hynny atgyfnerthu’r iaith. I ddysgu mwy ac i wneud cais ewch i sirgar.llyw.cymru.

Mae sawl agwedd i gronfa ARFOR a ffrwd waith Cymunedau Mentrus; yn gyntaf mae’n annog creu amrywiaeth o swyddi er mwyn rhoi cyfle i bobl a theuluoedd ifanc allu aros a gweithio yn eu cymunedau cynhenid. Wrth wneud hyn mae’r gronfa hefyd yn ymateb i’r perygl posib o golli adnoddau a gwasanaethau lleol allweddol o’r cymunedau hyn. Mae’r gronfa hefyd yn galw ar fentrau masnachol a chymdeithasol i wneud mwy o ddefnydd o’r Gymraeg, a fydd, nid yn unig yn ychwanegu gwerth at eu nwyddau neu wasanaeth, ond hefyd yn cynnal naws Cymreig cymunedau Rhaglen ARFOR.

Mae’r Rhaglen felly yn annog ymgeiswyr ledled y bedair Sir i fwrw iddi mewn modd creadigol ac arloesol, gan ddatblygu cynlluniau fydd yn sbarduno busnesau Cymreig newydd, yn gwarchod a chreu rhagor o swyddi lleol a thrwy hyn oll yn sefydlu mwy o ofodau Cymraeg o fewn y cymunedau. Bydd angen i’w cynlluniau ganolbwyntio ar rinweddau unigryw eu cymunedau, gan gynnwys y Gymraeg, a chylchdroi arian yn eu hardal er mwyn cynyddu faint o gyfoeth sy’n aros yn lleol.

Ers ei lansio gyntaf yn 2019 mae rhaglen ARFOR wedi creu 238 o swyddi cyfwerth â rhai llawn amser, wedi creu 89 o swydd rhan amser, ac wedi darparu cymorth i dros 150 o fusnesau. Un o’r busnesau hynny yw Gwenyn Gruffydd.

Meddai Angharad Rees, cyd-sylfaenydd Gwenyn Gruffydd: ‘Rydym fel busnes yn ffodus iawn o gynllun ARFOR, am y gefnogaeth a dderbyniwyd i brynu offer ar gyfer prosesi mêl a chwyr gwenyn yn ogystal â chyfrifiadur i rhedeg y busnes pan sefydlwyd y busnes. Roedd y cynllun wedi galluogi ni i greu swydd llawn amser hefyd.’

Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Gâr, y Cynghorydd Darren Price: ‘Rwy’n croesawu’r buddsoddiad sylweddol yma yng nghadarnleoedd y Gymraeg ac yn benodol yn Sir Gâr. ‘Mae Cronfa Cymunedau Mentrus yn cynnig cyfleoedd i fusnesau ac i sefydliadau trydydd sector, ar draws Sir Gaerfyrddin, gael mynediad at gymorth ariannol er mwyn cefnogi cymunedau, Cymraeg eu hiaith, i ffynnu'n economaidd ac o ganlyniad i hynny, cryfhau'r iaith.

‘Mae hwn yn gyfle i greu gofod Cymraeg newydd ar draws ein sir, lle mae’r iaith yn cael eu defnyddio yn naturiol. Os ydym ni o ddifrif am gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg yn Sir Gaerfyrddin, mae’n rhaid i ni gefnogi ein heconomi a thrwy hynny creu swyddi da ac ymateb i anghenion a dyheadau pobl a chymunedau lleol.

‘Rwy felly yn annog busnesau a mentrau cymdeithasol a chymunedol Sir Gaerfyrddin i ymweld â gwefan y Cyngor Sir neu i gysylltu ag Arfor@sirgar.gov.uk am ragor o fanylion.’

Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: ‘Mae’n newyddion ardderchog bod gwaith ARFOR yn parhau a bod y rhaglen nawr yn gwahodd ymgeiswyr i’w Chronfa Cymunedau Mentrus. Trwy gydweithio gyda’n partneriaid llywodraeth lleol, rydym eisiau cefnogi cymunedau sy’n gadarnleoedd i’r Gymraeg wrth iddynt fynnu yn economaidd a chyfrannu at gynyddu cyfleoedd i weld a defnyddio’r Gymraeg o ddydd i ddydd. Edrychwn ymlaen at weld syniadau arloesol iawn fel rhan o ail wedd y rhaglen.’

Dywedodd yr Aelod Dynodedig Cefin Campbell: ‘Rwy'n croesawu'r cynnydd ar gyflawniad ymarferol rhaglen ARFOR fel rhan o'r Cytundeb Cydweithredu rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru. Rwy'n annog cwmnïau a sefydliadau o bob rhan o siroedd ARFOR i gymryd rhan ac edrych ar y Gronfa Cymunedau Mentrus. Bydd y gronfa yn helpu i hybu entrepreneuriaeth a thwf busnes ac mae’n rhan o’n hymgyrch i dyfu’r economi leol a’r Gymraeg gyda’n gilydd.’

Bydd ail wedd y Rhaglen yn rhedeg hyd at Fawrth 2025 ac yn ogystal â Cymunedau Mentrus bydd pedair ffrwd waith arall sef Llwyddo’n Lleol; Cronfa Her ARFOR; Cryfhau Hunaniaeth a’r gwaith Monitro, Gwerthuso a Dysgu.

Dilynwch y ddolen am ragor o wybodaeth am Raglen ARFOR neu ebostiwch gwybodaeth@rhaglenarfor.cymru, ac i wneud cais ewch i sirgar.llyw.cymru