Gwasanaeth ymateb cyflym yn helpu i atal galwadau ambiwlans diangen a derbyniadau i'r ysbyty
592 diwrnod yn ôl
Mae tîm ymateb cyflym Llesiant Delta yn helpu i atal galwadau ambiwlans diangen a derbyniadau i'r ysbyty ar draws Gorllewin Cymru trwy fynd i argyfyngau anfeddygol a chefnogi pobl yn eu cartrefi eu hunain.
Yn ystod mis Chwefror, aeth y tîm i gyfanswm o 407 o alwadau, gydag amser cyrraedd o 31 munud ar gyfartaledd, a dim ond 6% ohonynt yr oedd angen gwasanaethau meddygol brys ar eu cyfer.
Mae mwyafrif mawr o'r galwadau ar gyfer codymau sydd heb achosi anaf, a nod y tîm yw gwella'r profiad a'r canlyniad i'r sawl sydd wedi cwympo drwy weithio er mwyn lleihau'r amser mae'n ei gymryd i gyrraedd y cleient, i'w asesu a'i gefnogi gartref, a cheisio atal codymau yn y dyfodol.
Mae'r gwasanaeth wedi helpu i leihau nifer y galwadau brys am ambiwlansys, gan alluogi'r rheiny i fynd i ragor o alwadau lle mae bywydau mewn perygl. Mae hefyd wedi galluogi'r mwyafrif o'r cleientiaid, sydd fel arfer yn agored i niwed neu'n hŷn, i aros gartref, gan leihau nifer y derbyniadau i'r ysbyty.
Mae'r tîm yn rhan o brosiect CONNECT Llesiant Delta, sy'n trawsnewid y ffordd mae gofal cymdeithasol yn cael ei ddarparu ar draws Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Gwneir hyn drwy fodel newydd o hunangymorth a gofal rhagweithiol, gan helpu pobl i aros yn annibynnol am gyfnod hirach yn eu cartrefi a lleihau'r galw sydd ar ofal hirdymor neu ofal acíwt.
Mae'r gwasanaeth yn cynnwys offer Gofal trwy Gymorth Technoleg (TEC) pwrpasol, asesiadau llesiant, galwadau llesiant rhagweithiol, mynediad i'r tîm ymateb 24/7 a llwybrau cymorth rhagweithiol, ac maent i gyd yn helpu preswylwyr i gadw eu hannibyniaeth a pharhau i fod yn ddiogel gartref.
Dywedodd y Cynghorydd Jane Tremlett, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol: "Mae'r gwasanaeth yn ymateb i alwadau o fewn 45 munud ar gyfer argyfyngau anfeddygol, gan osgoi derbyniadau amhriodol i'r ysbyty a defnydd amhriodol o ambiwlansys, a sicrhau nad yw cleientiaid sy'n cael codwm gartref yn gorwedd ar y llawr am gyfnod hir.
"Mae ymchwil yn dangos bod dioddef cwymp yn cael effaith negyddol sylweddol ar annibyniaeth ac ansawdd bywyd. Mae rhywun sy'n gorwedd ar y llawr am fwy nag awr yn fwy tebygol o ddioddef anafiadau difrifol ac o gael ei dderbyn i'r ysbyty, ac, o ganlyniad, ei symud i ofal hirdymor.
"Mae gallu cyrraedd y cleientiaid o fewn awr a'u codi oddi ar y llawr nid yn unig yn rhoi'r canlyniadau gorau iddyn nhw, ond gall hefyd gael effaith sylweddol o ran lleihau, ac, mewn rhai achosion, atal, yr angen am gefnogaeth a gofal parhaus."
Ers mis Ionawr 2020, mae'r tîm ymateb cyflym wedi mynd i dros 11,391 o alwadau; yr oedd 37% ohonynt yn godymau lle nad oedd neb wedi cael anaf, 27% yn sefyllfaoedd 'dim ymateb' yn dilyn seinio larwm, a 28% yn rhai i roi cymorth neu wirio lles mewn rhyw ffordd arall. Dengys ffigyrau mai dim ond 713 o'r rheiny, neu 6%, yr oedd angen gwasanaethau meddygol brys ar eu cyfer.
Ariennir CONNECT gan Gronfa Trawsnewid Llywodraeth Cymru drwy Bartneriaeth Gofal Gorllewin Cymru, ac mae'n darparu gwasanaeth llinell bywyd a theleofal cofleidiol sy'n llywio dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol ledled gorllewin Cymru. Mae cyfanswm o 5,703 o bobl wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth ers ei lansio.
Dywedodd Rhian Matthews, Cyfarwyddwr System Integredig Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Chyngor Sir Caerfyrddin: "Mae oedolion hŷn yn dweud wrthon ni mai'r hyn sy'n bwysig iddyn nhw yw aros mor iach ac annibynnol ag y gallan nhw am mor hir ag sy'n bosib, a hynny yn eu cartrefi a'u cymunedau eu hunain.
“Trwy Delta CONNECT gallwn gadw llygad ar ein poblogaeth agored i niwed a hŷn i wneud yn siŵr eu bod yn aros mor iach ac annibynnol ag sy'n bosib, a phan maen nhw'n gweld pethau'n anodd gall Delta CONNECT ddarparu ymateb amserol i'w hanghenion, sy'n caniatáu i ni roi cefnogaeth ar waith cyn i bethau waethygu. Mae hyn yn ein helpu i osgoi derbyniadau i'r ysbyty, yn diogelu eu hannibyniaeth, ac yn lleihau'r ddibyniaeth ar gymorth gofal cymdeithasol.
"Ac os yw rhywun yn cwympo gartref neu angen unrhyw fath o gymorth, mae tîm ymateb cyflym Delta yn gweithio'n agos gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ac yn sicrhau bod yr unigolyn ond yn cael ei gludo i'r ysbyty os yw hynny'n gwbl angenrheidiol. Os ydym ni'n credu y gallai unigolyn sydd wedi mynd i'r ysbyty mewn ambiwlans fynd adref os caiff ychydig o ofal cofleidiol gan Delta CONNECT a'r ymatebwyr cyflym, yna rydym yn gwneud hynny i'w cefnogi nhw a'u teuluoedd."
Cwmni Masnachu Awdurdod Lleol yw Llesiant Delta, sy'n eiddo i Gyngor Sir Caerfyrddin, ac sy'n darparu technoleg gynorthwyol a monitro rhagweithiol i gefnogi pobl hŷn a phobl agored i niwed i fyw'n fwy annibynnol.
I gael rhagor o wybodaeth am CONNECT, ewch i deltawellbeing.org.uk