Dweud eich dweud am dwf Sir Gâr

611 diwrnod yn ôl

Mae ymgynghori wedi dechrau ar dwf Sir Gâr a'i chymunedau yn y dyfodol, gan fod dogfen bwysig wedi ei chyhoeddi sy'n amlinellu sut gallai'r sir ddatblygu dros y 10 mlynedd nesaf.

Bellach gall y cyhoedd weld yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo a rhoi adborth yn ei gylch. Dyma ddogfen fframwaith cynllunio allweddol sydd wedi'i llunio gan Gyngor Sir Caerfyrddin er mwyn llunio a llywio gwaith datblygu hyd at 2033.

Mae'n dangos manylion dyraniadau tir ar gyfer cartrefi a busnesau newydd yn ogystal â pholisïau i ddiogelu a hyrwyddo'r amgylchedd, yr iaith Gymraeg, yr economi a thwf cyflogaeth.

Cyhoeddwyd y CDLl Diwygiedig Adneuo cyntaf yn 2020, ond mae'r Ail GDLl Diwygiedig Adneuo wedi dod yn ei le erbyn hyn.  Mae'r Ail GDLl Adneuo wedi bod yn angenrheidiol er mwyn ystyried effaith datblygu ar ardaloedd penodol yn y Sir y mae lefelau ffosffad uchel yn effeithio arnynt.

Gan ddosbarthu twf posibl ar draws chwe chlwstwr, mae'r cynllun yn pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu 8,822 o gartrefi newydd a 1,900 o dai fforddiadwy, gyda phatrwm aneddiadau sy'n adlewyrchu amrywiaeth cymunedau Sir Gaerfyrddin ac anghenion ei hardaloedd trefol a gwledig.

Mae hefyd yn rhoi cyfleoedd i ddatblygu tua 70 hectar o dir ar gyfer creu dros 5,000 o swyddi newydd.

Mae'r ddogfen yn canolbwyntio ar lesiant ac ymdrechion i warchod a gwella amgylchedd naturiol ac adeiledig y sir drwy ddatblygu cynaliadwy er mwyn sicrhau amgylcheddau a lleoedd o safon.

Mae'r cynllun hefyd yn ceisio helpu i roi sylw i ymrwymiad y cyngor i fynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd.

Mae ymgynghoriad cyhoeddus ar yr Ail GDLl Diwygiedig Adneuo ar agor tan 4:30 Ebrill 14, 2023, gan roi cyfle i bobl weld a chyflwyno sylwadau ar y dyraniadau tir a pholisïau arfaethedig.

Dywedodd y Cynghorydd Ann Davies, yr Aelod Cabinet dros Faterion Gwledig a Pholisi Cynllunio: “Bydd y CDLl yn amlinellu ac yn llywio penderfyniadau a buddsoddiad yn y dyfodol yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n nodi lleoliad a nifer y cartrefi newydd, tai fforddiadwy, cyflogaeth a swyddi, ac ynni adnewyddadwy ar gyfer y dyfodol, ac yn nodi ac yn gwarchod ardaloedd cadwraeth ac ardaloedd sy'n bwysig yn amgylcheddol.

"Mae llunio CDLl newydd yn broses hir, ond mae digonedd o gyfleoedd i bobl rannu eu barn yn ystod y broses.

“Rydym yn gwahodd unrhyw un sydd â diddordeb mewn adeiladu, datblygu tir, yr amgylchedd, eu cymunedau lleol a sut y bydd Sir Gaerfyrddin yn cael ei llunio yn y dyfodol, i gymryd rhan a dweud eu dweud.”

Mae'r Ail GDLl Diwygiedig Adneuo a dogfennau ategol ar gael i fwrw golwg arnynt ar wefan y Cyngor, www.sirgar.llyw.cymru/cynllunio, yn ogystal â Chanolfannau Gwasanaethau Cwsmeriaid y Cyngor / Canolfannau Hwb a llyfrgelloedd cyhoeddus.

O ran sylwadau a gyflwynwyd fel rhan o'r ymgynghoriad ar y CDLl Adneuo cyntaf, ni fyddant bellach yn cael eu hystyried. Dim ond y rhai a gyflwynir fel rhan o'r ail Gynllun Adneuo fydd yn cael eu hystyried a'u hanfon ymlaen at yr Arolygydd. Mae'n rhaid i unrhyw sylwadau blaenorol gael eu hailgyflwyno ac adlewyrchu cynnwys yr ail Gynllun Datblygu Lleol Adneuo.

 

Sesiynau Galw Heibio

Fel rhan o'r ymgynghoriad ar yr Ail Gynllun Datblygu Lleol Diwygiedig Adneuo, mae cyfres o sesiynau galw heibio yn cael eu cynnal ar draws Sir Gaerfyrddin. 

Bwriad y digwyddiadau hyn yw rhoi cyfle i grwpiau, sefydliadau, partïon sydd â diddordeb, a'r cyhoedd i drafod a dysgu mwy am y CDLl.

Bydd swyddogion o'r Adain Blaen-gynllunio yn bresennol.

 Lleoliadau:

  • Dydd Llun 27 Chwefror 2023: Ystafell yr Oriel, y Llyfrgell Newydd, Rhydaman

Oriau agor: 10.00 – 19.00

  • Dydd Mawrth 28 Chwefror 2023: Ystafell Gyfarfod, Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn, Castellnewydd Emlyn

Oriau agor: 12.00 – 19.00

  • Dydd Mercher 1 Mawrth 2023: Ystafell Bwyllgor, Neuadd Goffa Pontyberem, Heol Nant y Glo, Pontyberem.

Oriau agor: 12.00 – 19.00

  • Dydd Llun 6 Mawrth 2023: Yr Hwb, Rhodfa Santes Catrin, Caerfyrddin (hen siop Debenhams)

Oriau agor: 10.00 – 19.00

  • Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023: Y Gât, Heol y Pentre, Sanclêr

Oriau agor: 12.00 – 19.00

  • Dydd Mawrth 7 Mawrth 2023: Canolfan Gymunedol Llangadog, Heol Dyrfal, Llangadog

Oriau agor: 12.00 – 19.00

  • Dydd Mercher 8 Mawrth 2023: Llawr Gwaelod, Ystafell 3, Neuadd y Dref Llanelli, Sgwâr Neuadd y Dref, Llanelli.

Oriau agor: 10.00 – 19.00