Cabinet yn mabwysiadu gostyngiad o 75% yn y cynllun rhyddhad ardrethi busnes

388 diwrnod yn ôl

Mae Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin wedi mabwysiadu'r cynllun Ardrethi Annomestig - Rhyddhad Ardrethi Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch Cymru sydd â'r nod o gefnogi busnesau a threthdalwyr cymwys eraill.

Mae'r cynllun, a gafodd ei ymestyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2023/24, yn cynnig gostyngiad o 75% ar ardrethi annomestig ar gyfer eiddo gwag sy'n gymwys.

Bydd y rhyddhad yn destun cap o £110,000 o ran y cyfanswm y gall pob busnes ei hawlio ar draws pob eiddo sydd ganddynt yng Nghymru. Rhaid i fusnesau sy'n gwneud cais am y rhyddhad i awdurdodau lleol unigol ddatgan nad yw cyfanswm y rhyddhad y maent yn cyflwyno cais amdano ledled Cymru yn uwch na'r cap hwn.

Cafodd Cynllun Rhyddhad Ardrethi'r Stryd Fawr ei gyflwyno gyntaf gan Lywodraeth Cymru yn 2017. Mewn ymateb i'r argyfwng Coronafeirws yn 2020/21, cyhoeddodd y byddai'n parhau â'r cynllun Rhyddhad Ardrethi ar gyfer Manwerthu, Hamdden a Lletygarwch a chynyddu'r gostyngiad i 100% ac, yn ychwanegol i'r sector manwerthu, ei ymestyn i gynnwys sectorau hamdden a lletygarwch, sy'n cynnwys siopau, tafarndai, bwytai, campfeydd, lleoliadau perfformio a gwestai.   

Cafodd  gostyngiad y rhyddhad ei leihau i 50% ar gyfer y flwyddyn 2022/23, ond mae bellach wedi cynyddu i 75%.

Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau ,y Cynghorydd Alun Lenny, "Rwy'n croesawu'r cynnydd hwn mewn cyllid grant i'n sector manwerthu, hamdden a lletygarwch, a byddwn yn annog pob busnes cymwys yn Sir Gaerfyrddin, sy'n cynnwys ein siopau, bwytai, tafarndai, campfeydd, cyfleusterau hamdden a gwestai i gyflwyno cais am y cymorth hwn.

“Mae'r rhyddhad ardrethi busnes hwn gan Lywodraeth Cymru yn bŵer disgresiwn ac felly mae'n ofynnol i'r Cyngor fabwysiadu'r cynllun yn ffurfiol. Fodd bynnag, dylid nodi mai'r Llywodraeth sy'n nodi'r mathau o fusnesau y mae'n ei hystyried yn briodol ar gyfer y rhyddhad hwn, a'r rhai nad ydynt.”

Ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin i wneud cais am ryddhad ardrethi annomestig.