Atal 886 tunnell o wastraff bagiau du rhag cael ei waredu

402 diwrnod yn ôl

Yn y chwe wythnos ers i Gyngor Sir Caerfyrddin gyflwyno newidiadau i'w gasgliadau gwastraff o dŷ i dŷ, mae'r sir wedi gweld gwelliant sylweddol o ran ei pherfformiad ailgylchu.

Wrth gymharu Ionawr a Chwefror 2023 â'r flwyddyn flaenorol, bu gostyngiad o 886 tunnell o ran y gwastraff bagiau du a gasglwyd o dŷ i dŷ. 

Er bod swm y gwastraff a oedd i'w waredu wedi lleihau'n sylweddol, mae 148 tunnell ychwanegol o wastraff cewynnau, 282 tunnell o fagiau glas, sef deunydd ailgylchu sych, a 93 tunnell o wastraff bwyd wedi cael eu casglu i'w hailgylchu gan yr awdurdod.

Mae'r Cyngor hefyd wedi casglu 388 tunnell o wydr o dŷ i dŷ.

Ar 23 Ionawr, newidiodd Cyngor Sir Caerfyrddin ei wasanaeth casglu gwastraff ac ailgylchu. Mae bagiau glas, ar gyfer deunydd ailgylchu sych, bellach yn cael eu casglu bob wythnos, ochr yn ochr â'r bin gwyrdd ar gyfer eich gwastraff bwyd.

Mae bagiau du, ar gyfer y gwastraff cartref sy'n weddill nad oes modd ei ailgylchu, bellach yn cael eu casglu bob tair wythnos a gall pob aelwyd roi hyd at 3 bag du allan bob 3 wythnos.

Ers y newidiadau hyn, mae dyddiadau casglu rhai trigolion wedi newid. I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau hyn, neu i gofrestru i dderbyn neges e-bost neu neges destun i'ch atgoffa o'ch diwrnodau casglu, ewch i wefan Cyngor Sir Caerfyrddin neu ffoniwch ni ar 01267 234567 (rhwng dydd Llun a dydd Gwener, 8.30am tan 6pm).

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith: “Hoffwn ddiolch yn fawr i'n holl drigolion am ddod gyda ni ar y daith hon er mwyn gwella perfformiad ailgylchu'r sir.”

“Yn ystod y chwe wythnos ers inni wella ein gwasanaethau ailgylchu, rydym wedi ailgylchu mwy o gewynnau, mwy o wastraff bwyd a mwy o wastraff ailgylchadwy sych. Yn gyfan gwbl, rydym wedi ailgylchu 523 tunnell ychwanegol ac wedi atal 886 tunnell o wastraff rhag cael ei waredu.

"Yn ogystal, ers inni ddechrau casglu gwydr o gartrefi pobl ddiwedd mis Ionawr, rydym wedi casglu 388 tunnell o wydr, sydd gyfwerth ag arbed digon o ynni i bweru ysbyty am ddeng niwrnod.

“Mae'r newidiadau dros y chwe wythnos diwethaf wedi bod yn heriol a hoffwn ddiolch i'r trigolion hynny sydd wedi bod yn amyneddgar gyda ni wrth inni addasu ein gwasanaeth iddyn nhw.

“Fel y dywedais o'r blaen, mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir i wella llesiant Sir Gaerfyrddin, ei thrigolion a chenedlaethau'r dyfodol y sir.”

 

I gael rhagor o wybodaeth am y newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu neu os ydych yn dymuno cofrestru ar gyfer ein casgliadau gwastraff hylendid a chewynnau am ddim, ewch i wefan y Cyngor.

Cofiwch roi eich gwastraff allan i'w gasglu cyn 6am ar eich diwrnodau casglu.