Gwaith Adnewyddu yng Ngorsaf Fysiau Caerfyrddin wedi'i gwblhau

311 diwrnod yn ôl

Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn falch o gyhoeddi ei fod wedi cwblhau Cynllun Gwella Gorsaf Fysiau Caerfyrddin yn llwyddiannus, prosiect trawsnewidiol gyda'r nod o wella seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus a gwella hygyrchedd Tref Caerfyrddin i breswylwyr ac ymwelwyr.

Mae'r cynllun gwella cynhwysfawr, a ariennir gan grant Cronfa Trafnidiaeth Leol Llywodraeth Cymru, yn dangos ymrwymiad y Cyngor i ddarparu profiad trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel i breswylwyr ac ymwelwyr fel ei gilydd. Rhoddwyd yr arian drwy broses ymgeisio gystadleuol Genedlaethol, ac fe'i ddynodir at ddibenion gwelliannau seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn unig.

Bydd defnyddwyr yr orsaf fysiau nawr yn elwa o ledaenu'r bae yn Heol Las, gan fod hyn yn darparu lle ychwanegol i deithwyr aros a mynd ar y bws.   Bydd hyn yn lleihau tagfeydd o ran cerddwyr a theithwyr ac yn sicrhau amgylchedd mwy diogel a hygyrch.

Mae cysgodfannau newydd sbon o safon uchel gyda systemau to gwyrdd cynaliadwy wedi cael eu codi ym mhob bae, ac mae coed wedi cael eu hadleoli ar y stryd i wella estheteg gyffredinol yr ardal.

Mae pob bae wedi cael cysgodfannau newydd ynghyd â sgriniau gwybodaeth electronig i deithwyr er mwyn darparu diweddariadau amser real i deithwyr.  Yn ogystal â hyn, mae sgriniau gwybodaeth mawr i deithwyr wedi'u gosod ym mhwyntiau mynediad gogleddol a deheuol yr orsaf fysiau.

Yn ategu'r gwelliannau hyn mae croesfan uwch a rheiliau diogelwch i wella diogelwch cerddwyr ar ben gwaelod Heol Las, gan gyfeirio llif y cerddwyr i ochr arall y ffordd a thrwy hynny gynyddu nifer yr ymwelwyr ar hyd blaen siopau Heol Las, ac o ganlyniad, cyfrannu at fywiogrwydd economaidd busnesau lleol.

Mae nodau'r prosiect yn cyd-fynd ag Amcan Llesiant 2 Cyngor Sir Caerfyrddin - galluogi ei breswylwyr i fyw a heneiddio'n dda, ac Amcan Llesiant 3 - galluogi ei gymunedau a'i amgylchedd i fod yn iach, yn ddiogel ac yn llewyrchus.

Mae'r cynllun yn sicrhau y bydd Gorsaf Fysiau Caerfyrddin yn cynnig trafnidiaeth gyhoeddus o ansawdd uchel i breswylwyr ac ymwelwyr â'r dref a'r sir, ac yn gwella'r integreiddio rhwng bysiau, trenau a theithio llesol.

Dywedodd y Cynghorydd Edward Thomas, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith:

Mae'r orsaf fysiau fodern hon sydd wedi'i huwchraddio yn borth gwych i Dref Caerfyrddin ac yn darparu gorsaf fysiau ddiogel, ddeniadol a hygyrch i deithwyr sydd â gwybodaeth am y gwasanaeth ar gael yn rhwydd.
Hoffai'r Cyngor Sir ddiolch i fusnesau lleol am eu hamynedd a'u cefnogaeth yn ystod y gwaith. Ein gobaith yw y bydd manteision gwell cyfleusterau trafnidiaeth a'r strydlun gwell yn cael eu mwynhau gan y gymuned am flynyddoedd i ddod.
Hoffwn ddiolch hefyd i'r cynghorwyr lleol, sy'n cynrychioli ward Tref Caerfyrddin, am sicrhau bod pryderon busnesau lleol yn cael eu cyfleu'n effeithiol i dîm y prosiect.