Storm Ciarán i fod i daro Sir Gaerfyrddin
368 diwrnod yn ôl
Mae Cyngor Sir Caerfyrddin yn gofyn i drigolion a busnesau fod yn ymwybodol o lifogydd posibl, difrod i seilwaith a dosbarthiad sy’n debygol o gael ei achosi gan Storm Ciarán heno ac yfory, 1-2 Tachwedd 2023.
Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer Glaw o 18:00 heno a Rhybudd Tywydd Melyn ar gyfer Gwynt o 21:00 heno. Mae disgwyl i’r ddau rybudd tywydd redeg tan 23:59 yfory, dydd Iau, 2 Tachwedd.
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cyhoeddi nifer o rybuddion llifogydd afonydd ar draws Sir Gaerfyrddin ac mae’n bosib y bydd y rhain yn cael eu huwchraddio i Rybuddion Llifogydd yfory ymlaen, wrth i'r afonydd ymateb i'r glaw trwm. Ewch i wefan Cyfoeth Naturiol Cymru i gael y wybodaeth ddiweddaraf am y Rhybuddion Llifogydd diweddaraf.
Paratoadau sy'n cael eu gwneud gan yr Awdurdod Lleol
Wrth baratoi ar gyfer y tywydd garw, mae'r Cyngor wedi gwneud trefniadau i swyddogion a chriwiau ychwanegol ar ddyletswydd aros galwad, gan ddechrau ar 1 Tachwedd.
Erbyn diwedd y dydd heddiw, bydd bagiau tywod wedi cael eu dosbarthu i safleoedd sydd wedi bod yn dueddol o gael llifogydd yn y gorffennol, ac mae'r rhain yn gysylltiedig yn bennaf â llifogydd y prif afonydd. Bydd preswylwyr a busnesau yn yr ardaloedd hyn yn cael gwybod am y paratoadau lleol hyn.
Mewn ardaloedd a fydd wedi'u heffeithio gan lifogydd, bydd y Cyngor yn ceisio gosod bagiau tywod ar eiddo y bernir eu bod mewn perygl o gael eu heffeithio gan y llifddwr. Bydd dosbarthu bagiau tywod yn cael eu blaenoriaethu lle mae'r perygl o lifogydd parhaol yn deillio o seilwaith y Priffyrdd neu'r Cyngor ac yn unol â'r blaenoriaethau canlynol. (Bydd hyn yn seiliedig ar yr adnoddau sydd ar gael ar y pryd a'i bod yn ddiogel gwneud hynny):
- Atal colli bywyd neu anaf difrifol.
- Amddiffyn poblogaethau bregus.
- Amddiffyn seilwaith allweddol h.y. is-orsafoedd trydan, cyflenwad dŵr yfed, priffyrdd allweddol, i gynnal mynediad ar gyfer gwasanaethau brys.
. 4. Diogelu cyfleusterau ac adeiladau allweddol o fewn y gymuned.
- Amddiffyn eiddo preswyl (blaenoriaeth i bobl agored i niwed).
- Amddiffyn busnes/eiddo masnachol.
Ni all yr Awdurdod ddosbarthu bagiau tywod ymlaen llaw i eiddo a busnesau unigol ac am resymau diogelwch, ni fydd perchnogion busnes/eiddo nac aelodau o'r cyhoedd yn cael casglu bagiau tywod yn uniongyrchol o unrhyw un o ddepos y cyngor.
Cyfrifoldeb perchennog y cartref neu'r busnes fydd gwaredu bagiau tywod sydd wedi'u defnyddio.
Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ffyrdd sydd ar gau
I gael y rhestr ddiweddaraf o'r ffyrdd sydd ar gau ar draws y sir, ewch i wefan Traffig Cymru.
Sut i roi gwybod am achos o lifogydd
Gall unrhyw un sydd angen cymorth ar unwaith ffonio 01267 234567 neu ar ôl 4pm ffoniwch ein llinell argyfwng drwy Llesiant Delta ar 0300 333 2222. Fel arall, gellir rhoi gwybod ar-lein.
Prif afonydd / môr
Os mai prif afon neu'r môr sy'n achosi'r llifogydd, ffoniwch Cyfoeth Naturiol Cymru ar 03000 65 3000.
Prif bibell ddŵr yn gollwng / carthffos
Os oes gennych brif bibell ddŵr yn gollwng neu lifogydd o garthffos, ffoniwch Dŵr Cymru ar 0800 052 0130.
Gall fod yn anodd gwahaniaethu rhwng llifogydd dŵr daear a phrif bibell ddŵr sy'n gollwng ond os oes llif cyson nad yw'n amrywio gyda'r glaw, gallai hyn fod yn brif bibell sy'n gollwng.
Unrhyw ffynhonnell llifogydd arall
Dylid rhoi gwybod am lifogydd o unrhyw ffynhonnell ddŵr arall i'r Cyngor, er enghraifft:
- Ffyrdd
- Dŵr Wyneb / Dŵr Daear
- Isafon / Nant fechan
Dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Wasanaethau Trafnidiaeth, Gwastraff a Seilwaith, y Cynghorydd Edward Thomas: “Gyda’r rhybuddion tywydd melyn ar gyfer gwynt a glaw ar fin glanio ar i Sir Gaerfyrddin rydym yn annog holl ddefnyddwyr y ffyrdd a cherddwyr i gymryd gofal ychwanegol wrth deithio yn ystod y dyddiau nesaf.
“Rydym wedi gosod criwiau ychwanegol wrth law ac yn barod i ymateb pe bai galw arnynt.”
I gael rhagor o wybodaeth am sut i baratoi ar gyfer llifogydd, gweld Polisi Bagiau Tywod y Cyngor a llawer mwy, ewch i'r dudalen Llifogydd ar wefan Cyngor Sir Caerfyrddin.